(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
O dan adran 160A(3) o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) (“Deddf 1996”), mae person sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo yn anghymwys i gael dyraniad o lety tai gan awdurdod lleol oni bai ei fod yn dod o fewn dosbarth o bersonau a ragnodir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru. O dan adran 160A(5) caiff Gweinidogion Cymru ragnodi dosbarthau o bersonau sydd, er nad ydynt yn ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo, yn anghymwys i gael dyraniad o lety tai.
O dan baragraff 1(2) o Atodlen 2 i Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7) (“Deddf 2014”), mae person sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo yn anghymwys i gael cymorth tai o dan Bennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf honno oni bai ei fod yn dod o fewn dosbarth o bersonau a ragnodir mewn rheoliadau gan Weinidogion Cymru (neu’r Ysgrifennydd Gwladol). O dan baragraff 1(4) caiff Gweinidogion Cymru (neu’r Ysgrifennydd Gwladol) ragnodi dosbarthau o bersonau sydd, er nad ydynt yn ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo, yn anghymwys i gael cymorth tai.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2603 (Cy. 257)) (“Rheoliadau 2014”) sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer pa bersonau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai ac i gael cymorth tai. Mae Rheoliadau 2014 hefyd yn gwneud darpariaeth o ran personau nad ydynt yn ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo ond sy’n anghymwys i gael dyraniad o lety tai a chymorth digartrefedd.
Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 3 o Reoliadau 2014 sy’n ymwneud â chymhwystra personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo i gael dyraniad o lety tai o dan Ddeddf 1996. Mae’n rhagnodi dau ddosbarth ychwanegol o bersonau (“Dosbarth J” a “Dosbarth K”) sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai o dan Ddeddf 1996.
Mae Dosbarth J yn gymwys i bersonau penodol sydd â chaniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi o dan Atodiad Gwladolyn Prydeinig (Tramor) Hong Kong o’r Rheolau Mewnfudo pan nad oes amod “heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus” yn gysylltiedig â’r math o ganiatâd sydd gan y person a phan fo’r person yn preswylio fel arfer yn yr ‘Ardal Deithio Gyffredin’ (y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon). Mae Dosbarth K yn gymwys i bersonau y rhoddwyd caniatâd iddynt o dan gynlluniau neu bolisïau penodol sy’n ymwneud ag Affganistan. Mae hefyd yn gymwys i bersonau penodol yn y Deyrnas Unedig a adawodd Affganistan oherwydd cwymp Llywodraeth Affganistan.
Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 4(2) o Reoliadau 2014 i ddarparu bod personau penodol nad ydynt yn ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo ond y byddent yn anghymwys i gael dyraniad o lety tai oherwydd nad ydynt yn preswylio fel arfer yn yr Ardal Deithio Gyffredin yn gymwys i gael dyraniad o lety tai. Y personau y mae’r diwygiad hwn yn gymwys iddynt yw’r rheini a adawodd Affganistan oherwydd cwymp Llywodraeth Affganistan.
Mae rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 5(1) o Reoliadau 2014 sy’n ymwneud â chymhwystra personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo i gael cymorth tai o dan Ddeddf 2014. Mae’n rhagnodi dau ddosbarth ychwanegol o bersonau (“Dosbarth K” a “Dosbarth L”) sy’n gymwys i gael cymorth o’r fath. Mae’r dosbarthau hyn yn cyfateb i Ddosbarth J a Dosbarth K a fewnosodir gan reoliad 3.
Mae rheoliad 6 yn diwygio rheoliad 6(2) o Reoliadau 2014 fel bod personau penodol nad ydynt yn ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo, ond y byddent wedi eu heithrio rhag cael cymorth tai oherwydd nad ydynt yn preswylio fel arfer yn yr Ardal Deithio Gyffredin, yn gymwys. Y personau y mae’r diwygiad hwn yn gymwys iddynt yw’r un personau â’r rheini a fewnosodir gan reoliad 4.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.