NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae paragraff 2(1) o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (“Deddf 1988”) yn darparu bod gwerth ardrethol hereditament annomestig yn cael ei ystyried yn swm sy’n hafal i’r rhent yr amcangyfrifir y gellid disgwyl yn rhesymol gosod yr hereditament amdano o flwyddyn i flwyddyn (yn ddarostyngedig i ragdybiaethau penodedig). Yn yr achosion hynny pan nad oes gwybodaeth ar gael am y farchnad rentu gyffredinol ac na ellir defnyddio elw a cholled fel awgrym o werth rhent, penderfynir, yn hytrach, ar werth ardrethol hereditament annomestig drwy ddatgyfalafu cyfanswm gwerth cyfalaf amcangyfrifedig yr hereditament (yr enw ar hyn yw “the contractor’s basis of valuation”). Rhagnodir y cyfraddau datgyfalafu drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 2(8) o Atodlen 6 i Ddeddf 1988. Rhagnodir y cyfraddau hyn yn rheoliad 2 o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Rhif 2) 1989 (fel y’u diwygiwyd) (“Rheoliadau 1989”).

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio, gydag effaith o 9 Techwedd 2021, y cyfraddau datgyfalafu a ragnodir gan reoliad 2 o Reoliadau 1989 ar gyfer rhestrau ardrethu annomestig a lunnir ar neu ar ôl 1 Ebrill 2023.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.