Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Rhif 2) (Diwygio) (Cymru) 2021

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 1141 (Cy. 278)

Ardrethu A Phrisio, Cymru

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Rhif 2) (Diwygio) (Cymru) 2021

Gwnaed

10 Hydref 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

13 Hydref 2021

Yn dod i rym

9 Tachwedd 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 143(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1), a pharagraff 2(8) o Atodlen 6 iddi, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Rhif 2) (Diwygio) (Cymru) 2021 a deuant i rym ar 9 Tachwedd 2021.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygiadau i Reoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Rhif 2) 1989

2.—(1Mae rheoliad 2 o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Rhif 2) 1989(3) (prisio ar sail y contractiwr) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (1G), hepgorer “or after”.

(3Ar ôl paragraff (1G) mewnosoder—

(1H) Paragraph (2H) of this regulation applies in relation to a hereditament shown in a non-domestic rating list in Wales compiled on or after 1 April 2023, the rateable value of which is being ascertained using the contractor’s basis of valuation.

(4Ar ôl paragraff (2G) mewnosoder—

(2H) In applying the provisions of the Act referred to in paragraph (2) of this regulation in circumstances where paragraph (1H) of this regulation applies, the appropriate rate is assumed to be—

(a)in the case of a defence hereditament, an educational hereditament, a health care hereditament or a hereditament which is wholly a public convenience 1.9 per cent;

(b)in any other case 3.4 per cent.

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

10 Hydref 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae paragraff 2(1) o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (“Deddf 1988”) yn darparu bod gwerth ardrethol hereditament annomestig yn cael ei ystyried yn swm sy’n hafal i’r rhent yr amcangyfrifir y gellid disgwyl yn rhesymol gosod yr hereditament amdano o flwyddyn i flwyddyn (yn ddarostyngedig i ragdybiaethau penodedig). Yn yr achosion hynny pan nad oes gwybodaeth ar gael am y farchnad rentu gyffredinol ac na ellir defnyddio elw a cholled fel awgrym o werth rhent, penderfynir, yn hytrach, ar werth ardrethol hereditament annomestig drwy ddatgyfalafu cyfanswm gwerth cyfalaf amcangyfrifedig yr hereditament (yr enw ar hyn yw “the contractor’s basis of valuation”). Rhagnodir y cyfraddau datgyfalafu drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 2(8) o Atodlen 6 i Ddeddf 1988. Rhagnodir y cyfraddau hyn yn rheoliad 2 o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Rhif 2) 1989 (fel y’u diwygiwyd) (“Rheoliadau 1989”).

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio, gydag effaith o 9 Techwedd 2021, y cyfraddau datgyfalafu a ragnodir gan reoliad 2 o Reoliadau 1989 ar gyfer rhestrau ardrethu annomestig a lunnir ar neu ar ôl 1 Ebrill 2023.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(1)

1988 p. 41; gweler adran 146(6) am y diffiniad o “prescribed”. Diwygiwyd paragraff 2(8) o Atodlen 6 gan baragraff 38(8) o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42).

(2)

Trosglwyddwyd pwerau’r Ysgrifennydd Gwladol, o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi hynny i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.