Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 1140 (Cy. 277)

Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Sir Ceredigion (Trefniadau Etholiadol) 2021

Gwnaed

11 Hydref 2021

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)

Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru(1), yn unol ag adran 36(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013(2) (“Deddf 2013”), wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru adroddiad dyddiedig Mai 2019 yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer newid a manylion ei adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Sir Ceredigion.

Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y materion y cyfeirir atynt ac a nodir yn adran 37(2)(a) ac (c) o Ddeddf 2013, wedi penderfynu rhoi effaith i’r argymhellion hynny gydag addasiadau.

Yn unol ag adran 37(3) o Ddeddf 2013, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 37(1) o Ddeddf 2013.

Enwi, cychwyn a dehongliLL+C

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Ceredigion (Trefniadau Etholiadol) 2021.

(2At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o Reoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(3), daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.

(3At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022(4).

(4Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Sir Ceredigion;

mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag a roddir iddynt yn Rhan 3 o [F1Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013], ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Ergl. 1 mewn grym ar 13.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I2Ergl. 1 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Trefniadau etholiadol ar gyfer Sir CeredigionLL+C

2.—(1Mae wardiau etholiadol Sir Ceredigion, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.

(2Mae Sir Ceredigion wedi ei rhannu’n 34 o wardiau etholiadol a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(3Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(4Nifer aelodau’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(5Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(5).

Gwybodaeth Cychwyn

I3Ergl. 2 mewn grym ar 13.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I4Ergl. 2 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

11 Hydref 2021

Erthygl 2

YR ATODLENLL+CENWAU AC ARDALOEDD WARDIAU ETHOLIADOL A NIFER AELODAU’R CYNGOR

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. mewn grym ar 13.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I6Atod. mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Tabl

Colofn (1)Colofn (2)Colofn (3)Colofn (4)
Enw Saesneg y ward etholiadolEnw Cymraeg y ward etholiadolArdal y ward etholiadolNifer aelodau’r cyngor
Aberaeron and AberarthAberaeron ac Aber-arthTref Aberaeron a ward Llanddewi Aber-arth o gymuned Dyffryn Arth1
Aberporth and Y FerwigAber-porth a’r FerwigCymunedau Aber-porth, a’r Ferwig2
Aberystwyth Morfa a GlaisAberystwyth Morfa a GlaisWardiau Bronglais, Canol Aberystwyth a Gogledd Aberystwyth o dref Aberystwyth2
Aberystwyth PenparcauAberystwyth PenparcauWard Penparcau o dref Aberystwyth2
Aberystwyth RheidolAberystwyth RheidolWard Rheidol o dref Aberystwyth1
Beulah and LlangoedmorBeulah a LlangoedmorCymunedau Beulah, a Llangoedmor2
BorthY BorthCymunedau’r Borth, a Genau’r Glyn1
Ceulan a MaesmawrCeulan a MaesmawrCymunedau Ceulan a Maesmawr, Llangynfelyn, ac Ysgubor-y-coed1
Ciliau AeronCiliau AeronCymunedau Ciliau Aeron, a Henfynyw1
FaenorFaenorCymuned Faenor1
LampeterLlanbedr Pont SteffanTref Llanbedr Pont Steffan1
LlannarthLlannarthCymuned Llannarth1
Llanbadarn FawrLlanbadarn FawrCymuned Llanbadarn Fawr1
LlandyfriogLlandyfrïogCymuned Llandyfrïog1
Llandysilio and LlangrannogLlandysilio a LlangrannogCymunedau Llandysiliogogo, a Llangrannog1
Llandysul North and TroedyraurGogledd Llandysul a Throed-yr-aurCymuned Troed-yr-aur, a wardiau Pontsiân a Thre-groes o gymuned Llandysul1
Llandysul SouthDe LlandysulWardiau Capel Dewi a Threfol o gymuned Llandysul1
LlanfarianLlanfarianCymuned Llanfarian1
Llanfihangel YstradLlanfihangel YstradCymuned Llanfihangel Ystrad, a wardiau Nantcwnlle a Threfilan o gymuned Nantcwnlle1
LlangeithoLlangeithoCymunedau Llanddewi Brefi, a Llangeitho1
LlangybiLlangybiCymunedau Llanfair Clydogau, a Llangybi, a ward Gartheli o gymuned Nantcwnlle1
LlanrhystydLlanrhystudCymunedau Llangwyryfon, a Llanrhystud1
LlansanffraidLlansanffraidCymuned Llansanffraid, a ward Llanbadarn Trefeglwys o gymuned Dyffryn Arth1
LlanwenogLlanwenogCymunedau Llanwenog, a Llanwnnen1
LledrodLledrodCymunedau Lledrod, Ystrad Meurig, ac Ysbyty Ystwyth1
MelindwrMelindwrCymunedau Blaenrheidol, Pontarfynach, a Melindwr1
MwldanMwldanWard Mwldan o dref Aberteifi1
New Quay and LlanllwchaearnCeinewydd a LlanllwchaearnTref Ceinewydd a chymuned Llanllwchaearn1
PenbrynPenbrynCymuned Penbryn1
TeifiTeifiWardiau Rhyd-y-fuwch a Theifi o dref Aberteifi1
TirymynachTirymynachCymuned Tirymynach1
TrefeurigTrefeurigCymuned Trefeurig1
Tregaron and Ystrad FflurTregaron ac Ystrad-fflurTref Tregaron a chymuned Ystrad-fflur1
YstwythYstwythCymunedau Llanilar, a Thrawsgoed1

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (ׅ“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Mai 2019 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Sir Ceredigion. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig lleihau nifer y wardiau etholiadol o 40 i 34 a lleihau nifer y cynghorwyr o 42 i 38.

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, gydag addasiadau.

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Sir Ceredigion ac yn cyflwyno Atodlen sy’n nodi’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer y wardiau etholiadol yn Sir Ceredigion.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

(1)

Sefydlwyd y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru gan adran 53 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) (“Deddf 1972”) ac Atodlen 8 iddi. Diddymwyd adran 53 ac Atodlen 8 gan adran 73(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4) (“Deddf 2013”) ac Atodlen 2 iddi. Mae Deddf 2013 yn ailenwi’r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yn Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (gweler adran 2).

(3)

O.S. 1976/246. Mae adran 74(3) o Ddeddf 2013 yn darparu bod y Rheoliadau hyn yn parhau i gael effaith mewn perthynas â gorchmynion a wnaed o dan Ran 3 o Ddeddf 2013, fel pe bai’r gorchmynion hynny wedi eu gwneud o dan Ran 4 o Ddeddf 1972.

(4)

Mae Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1269 (Cy. 220)) yn diwygio adran 26(1) o Ddeddf 1972 i ddarparu y bydd etholiadau cyffredin cynghorwyr awdurdodau lleol yn cael eu cynnal yn y flwyddyn 2022 yn hytrach na 2021.

(5)

1972 p. 70; diddymwyd adran 58 o Ddeddf 1972 gan adran 73(2) o Ddeddf 2013 ac Atodlen 2 iddi, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau arbed a bennir yn adran 74 o Ddeddf 2013.