Gorchymyn Sir Ceredigion (Trefniadau Etholiadol) 2021
Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y materion y cyfeirir atynt ac a nodir yn adran 37(2)(a) ac (c) o Ddeddf 2013, wedi penderfynu rhoi effaith i’r argymhellion hynny gydag addasiadau.
Yn unol ag adran 37(3) o Ddeddf 2013, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 37(1) o Ddeddf 2013.
Enwi, cychwyn a dehongli1.
(1)
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Ceredigion (Trefniadau Etholiadol) 2021.
(2)
(3)
(4)
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Sir Ceredigion;
mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag a roddir iddynt yn Rhan 3 o F1Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.
Trefniadau etholiadol ar gyfer Sir Ceredigion2.
(1)
Mae wardiau etholiadol Sir Ceredigion, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.
(2)
Mae Sir Ceredigion wedi ei rhannu’n 34 o wardiau etholiadol a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(3)
Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(4)
Nifer aelodau’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(5)
YR ATODLENENWAU AC ARDALOEDD WARDIAU ETHOLIADOL A NIFER AELODAU’R CYNGOR
Colofn (1) | Colofn (2) | Colofn (3) | Colofn (4) |
|---|---|---|---|
Enw Saesneg y ward etholiadol | Enw Cymraeg y ward etholiadol | Ardal y ward etholiadol | Nifer aelodau’r cyngor |
Aberaeron and Aberarth | Aberaeron ac Aber-arth | Tref Aberaeron a ward Llanddewi Aber-arth o gymuned Dyffryn Arth | 1 |
Aberporth and Y Ferwig | Aber-porth a’r Ferwig | Cymunedau Aber-porth, a’r Ferwig | 2 |
Aberystwyth Morfa a Glais | Aberystwyth Morfa a Glais | Wardiau Bronglais, Canol Aberystwyth a Gogledd Aberystwyth o dref Aberystwyth | 2 |
Aberystwyth Penparcau | Aberystwyth Penparcau | Ward Penparcau o dref Aberystwyth | 2 |
Aberystwyth Rheidol | Aberystwyth Rheidol | Ward Rheidol o dref Aberystwyth | 1 |
Beulah and Llangoedmor | Beulah a Llangoedmor | Cymunedau Beulah, a Llangoedmor | 2 |
Borth | Y Borth | Cymunedau’r Borth, a Genau’r Glyn | 1 |
Ceulan a Maesmawr | Ceulan a Maesmawr | Cymunedau Ceulan a Maesmawr, Llangynfelyn, ac Ysgubor-y-coed | 1 |
Ciliau Aeron | Ciliau Aeron | Cymunedau Ciliau Aeron, a Henfynyw | 1 |
Faenor | Faenor | Cymuned Faenor | 1 |
Lampeter | Llanbedr Pont Steffan | Tref Llanbedr Pont Steffan | 1 |
Llannarth | Llannarth | Cymuned Llannarth | 1 |
Llanbadarn Fawr | Llanbadarn Fawr | Cymuned Llanbadarn Fawr | 1 |
Llandyfriog | Llandyfrïog | Cymuned Llandyfrïog | 1 |
Llandysilio and Llangrannog | Llandysilio a Llangrannog | Cymunedau Llandysiliogogo, a Llangrannog | 1 |
Llandysul North and Troedyraur | Gogledd Llandysul a Throed-yr-aur | Cymuned Troed-yr-aur, a wardiau Pontsiân a Thre-groes o gymuned Llandysul | 1 |
Llandysul South | De Llandysul | Wardiau Capel Dewi a Threfol o gymuned Llandysul | 1 |
Llanfarian | Llanfarian | Cymuned Llanfarian | 1 |
Llanfihangel Ystrad | Llanfihangel Ystrad | Cymuned Llanfihangel Ystrad, a wardiau Nantcwnlle a Threfilan o gymuned Nantcwnlle | 1 |
Llangeitho | Llangeitho | Cymunedau Llanddewi Brefi, a Llangeitho | 1 |
Llangybi | Llangybi | Cymunedau Llanfair Clydogau, a Llangybi, a ward Gartheli o gymuned Nantcwnlle | 1 |
Llanrhystyd | Llanrhystud | Cymunedau Llangwyryfon, a Llanrhystud | 1 |
Llansanffraid | Llansanffraid | Cymuned Llansanffraid, a ward Llanbadarn Trefeglwys o gymuned Dyffryn Arth | 1 |
Llanwenog | Llanwenog | Cymunedau Llanwenog, a Llanwnnen | 1 |
Lledrod | Lledrod | Cymunedau Lledrod, Ystrad Meurig, ac Ysbyty Ystwyth | 1 |
Melindwr | Melindwr | Cymunedau Blaenrheidol, Pontarfynach, a Melindwr | 1 |
Mwldan | Mwldan | Ward Mwldan o dref Aberteifi | 1 |
New Quay and Llanllwchaearn | Ceinewydd a Llanllwchaearn | Tref Ceinewydd a chymuned Llanllwchaearn | 1 |
Penbryn | Penbryn | Cymuned Penbryn | 1 |
Teifi | Teifi | Wardiau Rhyd-y-fuwch a Theifi o dref Aberteifi | 1 |
Tirymynach | Tirymynach | Cymuned Tirymynach | 1 |
Trefeurig | Trefeurig | Cymuned Trefeurig | 1 |
Tregaron and Ystrad Fflur | Tregaron ac Ystrad-fflur | Tref Tregaron a chymuned Ystrad-fflur | 1 |
Ystwyth | Ystwyth | Cymunedau Llanilar, a Thrawsgoed | 1 |
Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (ׅ“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Mai 2019 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Sir Ceredigion. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig lleihau nifer y wardiau etholiadol o 40 i 34 a lleihau nifer y cynghorwyr o 42 i 38.
Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, gydag addasiadau.
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Sir Ceredigion ac yn cyflwyno Atodlen sy’n nodi’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer y wardiau etholiadol yn Sir Ceredigion.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.