Offerynnau Statudol Cymru
Llywodraeth Leol, Cymru
Gwnaed
11 Hydref 2021
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)
Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru(1), yn unol ag adran 36(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013(2) (“Deddf 2013”), wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru adroddiad dyddiedig Mai 2019 yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer newid a manylion ei adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Sir Ceredigion.
Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y materion y cyfeirir atynt ac a nodir yn adran 37(2)(a) ac (c) o Ddeddf 2013, wedi penderfynu rhoi effaith i’r argymhellion hynny gydag addasiadau.
Yn unol ag adran 37(3) o Ddeddf 2013, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 37(1) o Ddeddf 2013.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Ceredigion (Trefniadau Etholiadol) 2021.
(2) At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o Reoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(3), daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.
(3) At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022(4).
(4) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Sir Ceredigion;
mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag a roddir iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.
2.—(1) Mae wardiau etholiadol Sir Ceredigion, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.
(2) Mae Sir Ceredigion wedi ei rhannu’n 34 o wardiau etholiadol a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(3) Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(4) Nifer aelodau’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(5) Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(5).
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
11 Hydref 2021
Erthygl 2
| Colofn (1) | Colofn (2) | Colofn (3) | Colofn (4) |
|---|---|---|---|
| Enw Saesneg y ward etholiadol | Enw Cymraeg y ward etholiadol | Ardal y ward etholiadol | Nifer aelodau’r cyngor |
| Aberaeron and Aberarth | Aberaeron ac Aber-arth | Tref Aberaeron a ward Llanddewi Aber-arth o gymuned Dyffryn Arth | 1 |
| Aberporth and Y Ferwig | Aber-porth a’r Ferwig | Cymunedau Aber-porth, a’r Ferwig | 2 |
| Aberystwyth Morfa a Glais | Aberystwyth Morfa a Glais | Wardiau Bronglais, Canol Aberystwyth a Gogledd Aberystwyth o dref Aberystwyth | 2 |
| Aberystwyth Penparcau | Aberystwyth Penparcau | Ward Penparcau o dref Aberystwyth | 2 |
| Aberystwyth Rheidol | Aberystwyth Rheidol | Ward Rheidol o dref Aberystwyth | 1 |
| Beulah and Llangoedmor | Beulah a Llangoedmor | Cymunedau Beulah, a Llangoedmor | 2 |
| Borth | Y Borth | Cymunedau’r Borth, a Genau’r Glyn | 1 |
| Ceulan a Maesmawr | Ceulan a Maesmawr | Cymunedau Ceulan a Maesmawr, Llangynfelyn, ac Ysgubor-y-coed | 1 |
| Ciliau Aeron | Ciliau Aeron | Cymunedau Ciliau Aeron, a Henfynyw | 1 |
| Faenor | Faenor | Cymuned Faenor | 1 |
| Lampeter | Llanbedr Pont Steffan | Tref Llanbedr Pont Steffan | 1 |
| Llannarth | Llannarth | Cymuned Llannarth | 1 |
| Llanbadarn Fawr | Llanbadarn Fawr | Cymuned Llanbadarn Fawr | 1 |
| Llandyfriog | Llandyfrïog | Cymuned Llandyfrïog | 1 |
| Llandysilio and Llangrannog | Llandysilio a Llangrannog | Cymunedau Llandysiliogogo, a Llangrannog | 1 |
| Llandysul North and Troedyraur | Gogledd Llandysul a Throed-yr-aur | Cymuned Troed-yr-aur, a wardiau Pontsiân a Thre-groes o gymuned Llandysul | 1 |
| Llandysul South | De Llandysul | Wardiau Capel Dewi a Threfol o gymuned Llandysul | 1 |
| Llanfarian | Llanfarian | Cymuned Llanfarian | 1 |
| Llanfihangel Ystrad | Llanfihangel Ystrad | Cymuned Llanfihangel Ystrad, a wardiau Nantcwnlle a Threfilan o gymuned Nantcwnlle | 1 |
| Llangeitho | Llangeitho | Cymunedau Llanddewi Brefi, a Llangeitho | 1 |
| Llangybi | Llangybi | Cymunedau Llanfair Clydogau, a Llangybi, a ward Gartheli o gymuned Nantcwnlle | 1 |
| Llanrhystyd | Llanrhystud | Cymunedau Llangwyryfon, a Llanrhystud | 1 |
| Llansanffraid | Llansanffraid | Cymuned Llansanffraid, a ward Llanbadarn Trefeglwys o gymuned Dyffryn Arth | 1 |
| Llanwenog | Llanwenog | Cymunedau Llanwenog, a Llanwnnen | 1 |
| Lledrod | Lledrod | Cymunedau Lledrod, Ystrad Meurig, ac Ysbyty Ystwyth | 1 |
| Melindwr | Melindwr | Cymunedau Blaenrheidol, Pontarfynach, a Melindwr | 1 |
| Mwldan | Mwldan | Ward Mwldan o dref Aberteifi | 1 |
| New Quay and Llanllwchaearn | Ceinewydd a Llanllwchaearn | Tref Ceinewydd a chymuned Llanllwchaearn | 1 |
| Penbryn | Penbryn | Cymuned Penbryn | 1 |
| Teifi | Teifi | Wardiau Rhyd-y-fuwch a Theifi o dref Aberteifi | 1 |
| Tirymynach | Tirymynach | Cymuned Tirymynach | 1 |
| Trefeurig | Trefeurig | Cymuned Trefeurig | 1 |
| Tregaron and Ystrad Fflur | Tregaron ac Ystrad-fflur | Tref Tregaron a chymuned Ystrad-fflur | 1 |
| Ystwyth | Ystwyth | Cymunedau Llanilar, a Thrawsgoed | 1 |
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (ׅ“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Mai 2019 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Sir Ceredigion. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig lleihau nifer y wardiau etholiadol o 40 i 34 a lleihau nifer y cynghorwyr o 42 i 38.
Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, gydag addasiadau.
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Sir Ceredigion ac yn cyflwyno Atodlen sy’n nodi’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer y wardiau etholiadol yn Sir Ceredigion.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
Sefydlwyd y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru gan adran 53 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) (“Deddf 1972”) ac Atodlen 8 iddi. Diddymwyd adran 53 ac Atodlen 8 gan adran 73(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4) (“Deddf 2013”) ac Atodlen 2 iddi. Mae Deddf 2013 yn ailenwi’r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yn Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (gweler adran 2).
O.S. 1976/246. Mae adran 74(3) o Ddeddf 2013 yn darparu bod y Rheoliadau hyn yn parhau i gael effaith mewn perthynas â gorchmynion a wnaed o dan Ran 3 o Ddeddf 2013, fel pe bai’r gorchmynion hynny wedi eu gwneud o dan Ran 4 o Ddeddf 1972.
Mae Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1269 (Cy. 220)) yn diwygio adran 26(1) o Ddeddf 1972 i ddarparu y bydd etholiadau cyffredin cynghorwyr awdurdodau lleol yn cael eu cynnal yn y flwyddyn 2022 yn hytrach na 2021.
1972 p. 70; diddymwyd adran 58 o Ddeddf 1972 gan adran 73(2) o Ddeddf 2013 ac Atodlen 2 iddi, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau arbed a bennir yn adran 74 o Ddeddf 2013.