2021 Rhif 1140 (Cy. 277)
Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Sir Ceredigion (Trefniadau Etholiadol) 2021

Gwnaed
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)
Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru1, yn unol ag adran 36(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 20132 (“Deddf 2013”), wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru adroddiad dyddiedig Mai 2019 yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer newid a manylion ei adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Sir Ceredigion.

Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y materion y cyfeirir atynt ac a nodir yn adran 37(2)(a) ac (c) o Ddeddf 2013, wedi penderfynu rhoi effaith i’r argymhellion hynny gydag addasiadau.

Yn unol ag adran 37(3) o Ddeddf 2013, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 37(1) o Ddeddf 2013.

Enwi, cychwyn a dehongli1.

(1)

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Ceredigion (Trefniadau Etholiadol) 2021.

(2)

At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o Reoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 19763, daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.

(3)

At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 20224.

(4)

Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Sir Ceredigion;

mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag a roddir iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.

Trefniadau etholiadol ar gyfer Sir Ceredigion2.

(1)

Mae wardiau etholiadol Sir Ceredigion, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.

(2)

Mae Sir Ceredigion wedi ei rhannu’n 34 o wardiau etholiadol a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(3)

Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(4)

Nifer aelodau’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(5)

Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 19725.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

YR ATODLENENWAU AC ARDALOEDD WARDIAU ETHOLIADOL A NIFER AELODAU’R CYNGOR

Erthygl 2

Tabl

Colofn (1)

Colofn (2)

Colofn (3)

Colofn (4)

Enw Saesneg y ward etholiadol

Enw Cymraeg y ward etholiadol

Ardal y ward etholiadol

Nifer aelodau’r cyngor

Aberaeron and Aberarth

Aberaeron ac Aber-arth

Tref Aberaeron a ward Llanddewi Aber-arth o gymuned Dyffryn Arth

1

Aberporth and Y Ferwig

Aber-porth a’r Ferwig

Cymunedau Aber-porth, a’r Ferwig

2

Aberystwyth Morfa a Glais

Aberystwyth Morfa a Glais

Wardiau Bronglais, Canol Aberystwyth a Gogledd Aberystwyth o dref Aberystwyth

2

Aberystwyth Penparcau

Aberystwyth Penparcau

Ward Penparcau o dref Aberystwyth

2

Aberystwyth Rheidol

Aberystwyth Rheidol

Ward Rheidol o dref Aberystwyth

1

Beulah and Llangoedmor

Beulah a Llangoedmor

Cymunedau Beulah, a Llangoedmor

2

Borth

Y Borth

Cymunedau’r Borth, a Genau’r Glyn

1

Ceulan a Maesmawr

Ceulan a Maesmawr

Cymunedau Ceulan a Maesmawr, Llangynfelyn, ac Ysgubor-y-coed

1

Ciliau Aeron

Ciliau Aeron

Cymunedau Ciliau Aeron, a Henfynyw

1

Faenor

Faenor

Cymuned Faenor

1

Lampeter

Llanbedr Pont Steffan

Tref Llanbedr Pont Steffan

1

Llannarth

Llannarth

Cymuned Llannarth

1

Llanbadarn Fawr

Llanbadarn Fawr

Cymuned Llanbadarn Fawr

1

Llandyfriog

Llandyfrïog

Cymuned Llandyfrïog

1

Llandysilio and Llangrannog

Llandysilio a Llangrannog

Cymunedau Llandysiliogogo, a Llangrannog

1

Llandysul North and Troedyraur

Gogledd Llandysul a Throed-yr-aur

Cymuned Troed-yr-aur, a wardiau Pontsiân a Thre-groes o gymuned Llandysul

1

Llandysul South

De Llandysul

Wardiau Capel Dewi a Threfol o gymuned Llandysul

1

Llanfarian

Llanfarian

Cymuned Llanfarian

1

Llanfihangel Ystrad

Llanfihangel Ystrad

Cymuned Llanfihangel Ystrad, a wardiau Nantcwnlle a Threfilan o gymuned Nantcwnlle

1

Llangeitho

Llangeitho

Cymunedau Llanddewi Brefi, a Llangeitho

1

Llangybi

Llangybi

Cymunedau Llanfair Clydogau, a Llangybi, a ward Gartheli o gymuned Nantcwnlle

1

Llanrhystyd

Llanrhystud

Cymunedau Llangwyryfon, a Llanrhystud

1

Llansanffraid

Llansanffraid

Cymuned Llansanffraid, a ward Llanbadarn Trefeglwys o gymuned Dyffryn Arth

1

Llanwenog

Llanwenog

Cymunedau Llanwenog, a Llanwnnen

1

Lledrod

Lledrod

Cymunedau Lledrod, Ystrad Meurig, ac Ysbyty Ystwyth

1

Melindwr

Melindwr

Cymunedau Blaenrheidol, Pontarfynach, a Melindwr

1

Mwldan

Mwldan

Ward Mwldan o dref Aberteifi

1

New Quay and Llanllwchaearn

Ceinewydd a Llanllwchaearn

Tref Ceinewydd a chymuned Llanllwchaearn

1

Penbryn

Penbryn

Cymuned Penbryn

1

Teifi

Teifi

Wardiau Rhyd-y-fuwch a Theifi o dref Aberteifi

1

Tirymynach

Tirymynach

Cymuned Tirymynach

1

Trefeurig

Trefeurig

Cymuned Trefeurig

1

Tregaron and Ystrad Fflur

Tregaron ac Ystrad-fflur

Tref Tregaron a chymuned Ystrad-fflur

1

Ystwyth

Ystwyth

Cymunedau Llanilar, a Thrawsgoed

1

NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (ׅ“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Mai 2019 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Sir Ceredigion. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig lleihau nifer y wardiau etholiadol o 40 i 34 a lleihau nifer y cynghorwyr o 42 i 38.

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, gydag addasiadau.

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Sir Ceredigion ac yn cyflwyno Atodlen sy’n nodi’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer y wardiau etholiadol yn Sir Ceredigion.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.