Offerynnau Statudol Cymru
Llywodraeth Leol, Cymru
Gwnaed
11 Hydref 2021
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)
Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru(1), yn unol ag adran 36(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013(2) (“Deddf 2013”), wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru adroddiad dyddiedig Chwefror 2021 yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer newid a manylion ei adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg.
Mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu rhoi effaith i’r argymhellion hynny heb addasiadau.
Yn unol ag adran 37(3) o Ddeddf 2013, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 37(1) o Ddeddf 2013.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg (Trefniadau Etholiadol) 2021.
(2) At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o Reoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(3), daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.
(3) At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022(4).
(4) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg;
mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.
2.—(1) Mae wardiau etholiadol Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.
(2) Mae Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg wedi ei rhannu’n 24 o wardiau etholiadol, a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(3) Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(4) Nifer yr aelodau o’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(5) Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(5).
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
11 Hydref 2021
Erthygl 2
| Colofn (1) | Colofn (2) | Colofn (3) | Colofn (4) |
|---|---|---|---|
| Enw Saesneg y ward etholiadol | Enw Cymraeg y ward etholiadol | Ardal y ward etholiadol | Nifer aelodau’r cyngor |
| Baruc | Baruc | Ward Baruc o dref y Barri | 3 |
| Buttrills | Buttrills | Ward Buttrills o dref y Barri | 2 |
| Cadoc | Cadog | Ward Cadog o dref y Barri | 4 |
| Castleland | Castleland | Ward Castleland o dref y Barri | 2 |
| Cornerswell | Cornerswell | Ward Cornerswell o dref Penarth | 2 |
| Court | Court | Ward Court o dref y Barri | 2 |
| Cowbridge | Y Bont-faen | Tref y Bont-faen gyda Llanfleiddan, a chymuned Pen-llin | 3 |
| Dinas Powys | Dinas Powys | Cymunedau Dinas Powys, a Llanfihangel-y-pwll | 4 |
| Dyfan | Dyfan | Ward Dyfan o dref y Barri | 2 |
| Gibbonsdown | Gibbonsdown | Ward Gibbonsdown o dref y Barri | 2 |
| Illtyd | Illtud | Ward Illtud o dref y Barri | 3 |
| Llandough | Llandochau | Cymuned Llandochau | 1 |
| Llandow | Llandŵ | Cymunedau Tregolwyn, Llandŵ, a Llan-gan | 1 |
| Llantwit Major | Llanilltud Fawr | Tref Llanilltud Fawr, a chymuned Llan-faes | 4 |
| Peterston-super-Ely | Llanbedr-y-fro | Cymunedau Pendeulwyn, Llanbedr-y-fro, a Llanddunwyd | 1 |
| Plymouth | Plymouth | Ward Plymouth o dref Penarth | 2 |
| Rhoose | Y Rhws | Cymuned y Rhws | 3 |
| St Athan | Sain Tathan | Cymuned Sain Tathan | 2 |
| St Bride’s Major | Saint-y-brid | Cymunedau Ewenni, Saint-y-brid, Sain Dunwyd, a’r Wig | 2 |
| St Nicholas and Llancarfan | Sain Nicolas a Llancarfan | Cymunedau Llancarfan, Sain Nicolas a Thresimwn, a Sain Siorys | 1 |
| St Augustine’s | St Augustine’s | Ward St Augustine’s o dref Penarth | 3 |
| Stanwell | Stanwell | Ward Stanwell o dref Penarth | 2 |
| Sully | Sili | Cymuned Sili | 2 |
| Wenvoe | Gwenfô | Cymuned Gwenfô | 1 |
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Chwefror 2021 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig cynyddu nifer y wardiau etholiadol o 23 i 24, a chynyddu nifer y cynghorwyr o 47 i 54.
Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, heb addasiadau.
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg ac yn cyflwyno Atodlen sy’n nodi’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer y wardiau etholiadol ym Mwrdeistref Sirol Bro Morgannwg.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
Sefydlwyd y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru gan adran 53 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) (“Deddf 1972”), ac Atodlen 8 iddi. Diddymwyd adran 53 ac Atodlen 8 gan adran 73(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4) (“Deddf 2013”) ac Atodlen 2 iddi. Mae Deddf 2013 yn ailenwi’r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yn Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (gweler adran 2).
O.S. 1976/246. Mae adran 74(3) o Ddeddf 2013 yn darparu bod y Rheoliadau hyn yn parhau i gael effaith mewn perthynas â gorchmynion a wnaed o dan Ran 3 o Ddeddf 2013, fel pe bai’r gorchmynion hynny wedi eu gwneud o dan Ran 4 o Ddeddf 1972.
Mae Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1269 (Cy. 220)) yn diwygio adran 26(1) o Ddeddf 1972 i ddarparu y bydd etholiadau cyffredin cynghorwyr awdurdodau lleol yn cael eu cynnal yn y flwyddyn 2022 yn hytrach na 2021.
1972 p. 70; diddymwyd adran 58 o Ddeddf 1972 gan adran 73(2) o Ddeddf 2013 ac Atodlen 2 iddi, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau arbed a bennir yn adran 74 o Ddeddf 2013.