Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg (Trefniadau Etholiadol) 2021
Mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu rhoi effaith i’r argymhellion hynny heb addasiadau.
Yn unol ag adran 37(3) o Ddeddf 2013, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 37(1) o Ddeddf 2013.
Enwi, cychwyn a dehongli1.
(1)
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg (Trefniadau Etholiadol) 2021.
(2)
(3)
(4)
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg;
mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.
Trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg2.
(1)
Mae wardiau etholiadol Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.
(2)
Mae Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg wedi ei rhannu’n 24 o wardiau etholiadol, a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(3)
Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(4)
Nifer yr aelodau o’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(5)
YR ATODLENENWAU AC ARDALOEDD WARDIAU ETHOLIADOL A NIFER AELODAU’R CYNGOR
Colofn (1) | Colofn (2) | Colofn (3) | Colofn (4) |
|---|---|---|---|
Enw Saesneg y ward etholiadol | Enw Cymraeg y ward etholiadol | Ardal y ward etholiadol | Nifer aelodau’r cyngor |
Baruc | Baruc | Ward Baruc o dref y Barri | 3 |
Buttrills | Buttrills | Ward Buttrills o dref y Barri | 2 |
Cadoc | Cadog | Ward Cadog o dref y Barri | 4 |
Castleland | Castleland | Ward Castleland o dref y Barri | 2 |
Cornerswell | Cornerswell | Ward Cornerswell o dref Penarth | 2 |
Court | Court | Ward Court o dref y Barri | 2 |
Cowbridge | Y Bont-faen | Tref y Bont-faen gyda Llanfleiddan, a chymuned Pen-llin | 3 |
Dinas Powys | Dinas Powys | Cymunedau Dinas Powys, a Llanfihangel-y-pwll | 4 |
Dyfan | Dyfan | Ward Dyfan o dref y Barri | 2 |
Gibbonsdown | Gibbonsdown | Ward Gibbonsdown o dref y Barri | 2 |
Illtyd | Illtud | Ward Illtud o dref y Barri | 3 |
Llandough | Llandochau | Cymuned Llandochau | 1 |
Llandow | Llandŵ | Cymunedau Tregolwyn, Llandŵ, a Llan-gan | 1 |
Llantwit Major | Llanilltud Fawr | Tref Llanilltud Fawr, a chymuned Llan-faes | 4 |
Peterston-super-Ely | Llanbedr-y-fro | Cymunedau Pendeulwyn, Llanbedr-y-fro, a Llanddunwyd | 1 |
Plymouth | Plymouth | Ward Plymouth o dref Penarth | 2 |
Rhoose | Y Rhws | Cymuned y Rhws | 3 |
St Athan | Sain Tathan | Cymuned Sain Tathan | 2 |
St Bride’s Major | Saint-y-brid | Cymunedau Ewenni, Saint-y-brid, Sain Dunwyd, a’r Wig | 2 |
St Nicholas and Llancarfan | Sain Nicolas a Llancarfan | Cymunedau Llancarfan, Sain Nicolas a Thresimwn, a Sain Siorys | 1 |
St Augustine’s | St Augustine’s | Ward St Augustine’s o dref Penarth | 3 |
Stanwell | Stanwell | Ward Stanwell o dref Penarth | 2 |
Sully | Sili | Cymuned Sili | 2 |
Wenvoe | Gwenfô | Cymuned Gwenfô | 1 |
Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Chwefror 2021 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig cynyddu nifer y wardiau etholiadol o 23 i 24, a chynyddu nifer y cynghorwyr o 47 i 54.
Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, heb addasiadau.
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg ac yn cyflwyno Atodlen sy’n nodi’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer y wardiau etholiadol ym Mwrdeistref Sirol Bro Morgannwg.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.