Rheoliadau Tribiwnlys Addysg Cymru (Diwygio) 2021
Enwi a chychwyn1.
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tribiwnlys Addysg Cymru (Diwygio) 2021 a deuant i rym ar 8 Hydref 2021.
Diwygio Rheoliadau Tribiwnlys Addysg Cymru 20212.
“(2)
Cyfnod y datganiad achos ar gyfer hawlydd yw cyfnod o 8 wythnos gan ddechrau â’r dyddiad yr ystyrir bod y gydnabyddiaeth, a roddir o dan reoliad 13(1)(b)(i), wedi ei chael yn unol â rheoliad 75(11). Mae’n cynnwys unrhyw estyniad i’r cyfnod hwnnw a orchmynnir gan y Llywydd o dan reoliad 65.”
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Tribiwnlys Addysg Cymru 2021 (“Rheoliadau’r Tribiwnlys”).
Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn rhoi rheoliad 17(2) newydd yn lle’r un presennol yn Rheoliadau’r Tribiwnlys i ddarparu mai cyfnod y datganiad achos ar gyfer hawlydd sy’n gwneud hawliad o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yw 8 wythnos gan ddechrau ar y dyddiad y ceir y gydnabyddiaeth fod hawliad wedi ei gael.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.