NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Tribiwnlys Addysg Cymru 2021 (“Rheoliadau’r Tribiwnlys”).

Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn rhoi rheoliad 17(2) newydd yn lle’r un presennol yn Rheoliadau’r Tribiwnlys i ddarparu mai cyfnod y datganiad achos ar gyfer hawlydd sy’n gwneud hawliad o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yw 8 wythnos gan ddechrau ar y dyddiad y ceir y gydnabyddiaeth fod hawliad wedi ei gael.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.