xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)
Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y prif Reoliadau”). Mae’r diwygiadau—
yn mewnosod rheoliad newydd 16A yn y prif Reoliadau—
sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person sy’n gyfrifol am fangreoedd penodol gymryd mesurau rhesymol i sicrhau nad yw oedolion yn y fangre onid ydynt yn meddu ar yr hyn y cyfeirir ato’n gyffredin fel “pàs COVID” (hynny yw – tystiolaeth o naill ai brechiad, cymryd rhan mewn treial perthnasol ar gyfer brechlyn, prawf negatif am y coronafeirws, neu brawf positif o fewn y 6 mis diwethaf a ddilynwyd gan y cyfnod priodol o ynysu);
sy’n pennu mai’r mangreoedd y mae’r gofyniad hwn yn gymwys iddynt yw—
clybiau nos a mannau eraill lle y darperir cerddoriaeth ar gyfer dawnsio os ydynt yn gweini alcohol ac ar agor ar unrhyw adeg rhwng hanner nos a 5 a.m. (ac mae’r gofyniad i gael pàs COVID yn gymwys i’r fath fangre ar unrhyw adeg, gan gynnwys adegau y tu allan i’r oriau hyn, os ydynt ar agor ac yn darparu cerddoriaeth i bobl ddawnsio);
mangreoedd lle y cynhelir digwyddiad â thros 10,000 o bobl yn bresennol os ydynt i gyd yn eistedd, neu dros 500 o dan do a 4,000 yn yr awyr agored os nad ydynt i gyd yn eistedd;
sy’n pennu eithriadau i’r gofyniad ar gyfer—
mangreoedd sy’n cynnal gwleddoedd priodasau neu bartneriaethau sifil, neu wylnosau;
digwyddiadau yn yr awyr agored sy’n ddi-dâl ac nad oes angen tocyn ar eu cyfer, ac sydd â sawl pwynt mynediad;
protestio a phicedu;
digwyddiadau chwaraeon cyfranogiad torfol yn yr awyr agored megis rasys rhedeg a beicio;
sy’n ei gwneud yn glir, ar gyfer lleoliadau nad ydynt bob amser yn darparu cerddoriaeth ar gyfer dawnsio, nad yw’r gofyniad yn gymwys ond ar yr adegau hynny pan ddarperir cerddoriaeth ar gyfer dawnsio;
sy’n esemptio’r rheini sy’n gweithio yn y fangre neu sy’n darparu gwasanaeth gwirfoddol ynddi rhag gorfod cael tystiolaeth o frechu neu brofi er mwyn bod yn y fangre;
sy’n cynnwys rhai darpariaethau dehongli sy’n ymwneud â brechlynnau a phrofi;
yn mewnosod rheoliad newydd 30A sy’n caniatáu i swyddogion gorfodaeth (yn y cyd-destun hwn, swyddogion yr heddlu a swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu ac unrhyw berson arall sydd wedi ei ddynodi at ddibenion y rheoliad hwn) ei gwneud yn ofynnol i berson y mae swyddog yn amau y gall fod yn meddu ar dystiolaeth anwir neu gamarweiniol o statws brechu neu brofi person ddangos tystiolaeth;
yn creu trosedd yn rheoliad newydd 40A o feddu ar dystiolaeth anwir neu gamarweiniol o statws brechu neu brofi;
yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Atodlen 8 i’r prif Reoliadau (sy’n darparu ar gyfer gorfodi’r gyfundrefn “mesurau rhesymol” yn Rhan 4 o’r Rheoliadau hynny) er mwyn caniatáu i swyddogion gorfodaeth awdurdodau lleol ddefnyddio’r pwerau yn yr Atodlen mewn perthynas â mesurau rhesymol a gymerir o dan reoliad newydd 16A.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.