Offerynnau Statudol Cymru
Llywodraeth Leol, Cymru
Gwnaed
4 Hydref 2021
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)
Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru(1), yn unol ag adran 36(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013(2) (“Deddf 2013”), wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru adroddiad dyddiedig Awst 2020 yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer newid a manylion ei adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.
Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y materion y cyfeirir atynt ac a nodir yn adran 37(2)(a) ac (c) o Ddeddf 2013, wedi penderfynu rhoi effaith i’r argymhellion hynny gydag addasiadau.
Yn unol ag adran 37(3) o Ddeddf 2013, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 37(1) o Ddeddf 2013.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (Trefniadau Etholiadol) 2021.
(2) At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.
(3) At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022(3).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Ergl. 1 mewn grym ar 6.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)
I2Ergl. 1 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(4);
ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot;
mae unrhyw gyfeiriad at fap yn gyfeiriad at un o’r 5 map a farciwyd “Map ar gyfer Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (Trefniadau Etholiadol) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau, a labelwyd “1” i “5”, ac mae cyfeiriad at fap â rhif yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y rhif hwnnw;
pan ddangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;
mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rhan 3 o [F1Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013], ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn ergl. 2 wedi eu hamnewid (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), a. 25(1)(a), Atod. 1 para. 17
Gwybodaeth Cychwyn
I3Ergl. 2 mewn grym ar 6.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)
I4Ergl. 2 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)
3.—(1) Mae wardiau etholiadol Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.
(2) Mae Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi ei rhannu’n 34 o wardiau etholiadol, a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(3) Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(4) Nifer yr aelodau o’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(5) Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(5).
Gwybodaeth Cychwyn
I5Ergl. 3 mewn grym ar 6.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)
I6Ergl. 3 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)
4. Mae’r rhan o ward Pontardawe o dref Pontardawe a ddangosir â llinellau ar Fap 1 wedi ei throsglwyddo i ward Trebanos o dref Pontardawe.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Ergl. 4 mewn grym ar 6.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)
I8Ergl. 4 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)
5. Mae’r rhan o ward Canol Gorllewin tref Coed-ffranc a ddangosir â llinellau ar Fap 2 wedi ei throsglwyddo i ward Canol Dwyrain tref Coed-ffranc.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Ergl. 5 mewn grym ar 6.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)
I10Ergl. 5 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)
6. Yn nhref Coed-ffranc—
(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Canol Dwyrain tref Coed-ffranc yw 4;
(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Gogledd tref Coed-ffranc yw 4;
(c)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Gorllewin tref Coed-ffranc yw 3.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Ergl. 6 mewn grym ar 6.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)
I12Ergl. 6 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)
7. Mae’r rhan o gymuned Blaenhonddan a ddangosir â llinellau ar Fap 3 wedi ei throsglwyddo i gymuned Dyffryn Clydach.
Gwybodaeth Cychwyn
I13Ergl. 7 mewn grym ar 6.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)
I14Ergl. 7 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)
8. Nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Gogledd Bryn-coch o gymuned Blaenhonddan yw 4.
Gwybodaeth Cychwyn
I15Ergl. 8 mewn grym ar 6.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)
I16Ergl. 8 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)
9.—(1) Mae cymuned Glyncorrwg wedi ei diddymu.
(2) Mae’r cymunedau a ganlyn wedi eu ffurfio—
(a)cymuned Gwynfi a Chroeserw a ddangosir â llinellau ar Fap 4;
(b)cymuned Cymer a Glyncorrwg a ddangosir â llinellau ar Fap 5.
Gwybodaeth Cychwyn
I17Ergl. 9 mewn grym ar 6.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)
I18Ergl. 9 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
4 Hydref 2021
Erthygl 3
Gwybodaeth Cychwyn
I19Atod. mewn grym ar 6.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)
I20Atod. mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)
| Colofn (1) | Colofn (2) | Colofn (3) | Colofn (4) |
|---|---|---|---|
| Enw Saesneg y ward etholiadol | Enw Cymraeg y ward etholiadol | Ardal y ward etholiadol | Nifer aelodau’r cyngor |
| Aberavon | Aberafan | Cymunedau Aberafan a Rhos Baglan | 2 |
| Aberdulais | Aberdulais | Wardiau Aberdulais a Chil-ffriw o gymuned Blaenhonddan | 1 |
| Allt-wen | Allt-wen | Ward Allt-wen o gymuned Cilybebyll | 1 |
| Baglan | Baglan | Cymunedau Baglan a Bae Baglan | 3 |
| Blaengwrach and Glynneath West | Blaen-gwrach a Gorllewin Glyn-nedd | Cymuned Blaen-gwrach, a wardiau Gorllewin a Chanol Gorllewin tref Glyn-nedd | 1 |
| Briton Ferry East | Dwyrain Llansawel | Wardiau Craig-y-darren a Chwrt-sart o dref Llansawel | 1 |
| Briton Ferry West | Gorllewin Llansawel | Wardiau Brynhyfryd a Choed Shelone o dref Llansawel | 1 |
| Bryn and Cwmavon | Bryn a Chwmafan | Cymunedau Bryn a Chwmafan | 3 |
| Bryn-coch North | Gogledd Bryn-coch | Ward Gogledd Bryn-coch o gymuned Blaenhonddan | 1 |
| Bryn-coch South | De Bryn-coch | Ward De Bryn-coch o gymuned Blaenhonddan | 2 |
| Cadoxton | Llangatwg | Ward Llangatwg o gymuned Blaenhonddan | 1 |
| Cimla and Pelenna | Cimla a Phelenna | Cymuned Pelenna a wardiau Cefn Saeson a Chrynallt o dref Castell-nedd | 2 |
| Coedffranc Central | Canol Coed-ffranc | Wardiau Canol a Chanol Dwyrain tref Coed-ffranc | 2 |
| Coedffranc North | Gogledd Coed-ffranc | Ward y Gogledd o dref Coed-ffranc | 1 |
| Coedffranc West | Gorllewin Coed-ffranc | Wardiau y Gorllewin a Chanol Gorllewin tref Coed-ffranc | 2 |
| Crynant, Onllwyn and Seven Sisters | Y Creunant, Onllwyn a Blaendulais | Cymunedau y Creunant, Onllwyn a Blaendulais | 2 |
| Cwmllynfell and Ystalyfera | Cwmllynfell ac Ystalyfera | Cymuned Cwmllynfell a ward Ystalyfera o gymuned Ystalyfera | 2 |
| Cymer and Glyncorrwg | Cymer a Glyncorrwg | Cymuned Cymer a Glyncorrwg | 1 |
| Dyffryn | Dyffryn | Cymuned Dyffryn Clydach | 2 |
| Glynneath Central and East | Canol a Dwyrain Glyn-nedd | Wardiau Canol a Dwyrain tref Glyn-nedd | 1 |
| Godre’r Graig | Godre’r-graig | Ward Godre’r-graig o gymuned Ystalyfera | 1 |
| Gwaun-Cae-Gurwen and Lower Brynamman | Gwauncaegurwen a Brynaman Isaf | Cymuned Gwauncaegurwen | 2 |
| Gwynfi and Croeserw | Gwynfi a Chroeserw | Cymuned Gwynfi a Chroeserw | 1 |
| Margam and Tai-bach | Margam a Thai-bach | Cymunedau Margam, Gweunydd Margam a Thai-bach | 3 |
| Neath East | Dwyrain Castell-nedd | Wardiau Melincryddan a Phenrhiwtyn o dref Castell-nedd | 3 |
| Neath North | Gogledd Castell-nedd | Wardiau’r Castell a Llanilltud Nedd o dref Castell-nedd | 2 |
| Neath South | De Castell-nedd | Wardiau’r Gnoll a Mount Pleasant o dref Castell-nedd | 2 |
| Pontardawe | Pontardawe | Wardiau Pontardawe a Rhyd-y-fro o dref Pontardawe | 2 |
| Port Talbot | Port Talbot | Cymuned Port Talbot | 2 |
| Resolven and Tonna | Resolfen a Thonna | Cymunedau’r Clun a Melin-cwrt, Resolfen a Thonna | 2 |
| Rhos | Rhos | Wardiau Gelli-nudd a Rhos o gymuned Cilybebyll | 1 |
| Sandfields East | Dwyrain Sandfields | Cymuned Dwyrain Sandfields | 3 |
| Sandfields West | Gorllewin Sandfields | Cymuned Gorllewin Sandfields | 3 |
| Trebanos | Trebanos | Ward Trebanos o dref Pontardawe | 1 |
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Awst 2020 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig lleihau nifer y wardiau etholiadol o 42 i 34 a lleihau nifer yr aelodau o 64 i 60.
Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, gydag addasiadau.
Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ac yn cyflwyno’r Atodlen, sy’n nodi’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.
Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn gweithredu argymhellion ynghylch newidiadau i ffiniau cymunedol a threfniadau etholiadol ar gyfer rhai cymunedau ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.
Mae erthygl 4 yn gwneud newidiadau i’r ffin rhwng wardiau cymunedol Pontardawe a Threbanos yn nhref Pontardawe.
Mae erthyglau 5 a 6 yn gwneud newidiadau i’r ffin rhwng wardiau cymunedol Canol Gorllewin a Chanol Dwyrain tref Coed-ffranc, ac i’r trefniadau etholiadol ar gyfer tref Coed-ffranc.
Mae erthyglau 7 ac 8 yn gwneud newidiadau i’r ffin rhwng cymunedau Dyffryn Clydach a Blaenhonddan, ac i’r trefniadau etholiadol ar gyfer cymuned Blaenhonddan.
Mae erthygl 9 yn diddymu cymuned Glyncorrwg, ac yn creu cymunedau newydd Gwynfi a Chroeserw, a Chymer a Glyncorrwg.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
Mae printiau o’r mapiau a labelwyd “1” i “5” y mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud â hwy wedi eu hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol), a chyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Mae’r printiau sydd wedi eu hadneuo gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn agored i gael eu harchwilio gan unrhyw un y bydd darpariaethau’r Gorchymyn hwn yn effeithio arnynt.
Sefydlwyd y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru gan adran 53 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) (“Deddf 1972”), ac Atodlen 8 iddi. Diddymwyd adran 53 ac Atodlen 8 gan adran 73(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4) (“Deddf 2013”), ac Atodlen 2 iddi. Mae Deddf 2013 yn ailenwi’r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yn Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (gweler adran 2).
Mae Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1269 (Cy. 220)) yn diwygio adran 26(1) o Ddeddf 1972 i ddarparu y bydd etholiadau cyffredin cynghorwyr awdurdodau lleol yn cael eu cynnal yn y flwyddyn 2022 yn hytrach na 2021.
O.S. 1976/246. Mae adran 74(3) o Ddeddf 2013 yn darparu bod y Rheoliadau hyn yn parhau i gael effaith mewn perthynas â gorchmynion a wnaed o dan Ran 3 o Ddeddf 2013, fel pe bai’r gorchmynion hynny wedi eu gwneud o dan Ran 4 o Ddeddf 1972.
1972 p. 70; diddymwyd adran 58 o Ddeddf 1972 gan adran 73(2) o Ddeddf 2013 ac Atodlen 2 iddi, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau arbed a bennir yn adran 74 o Ddeddf 2013.