Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (Trefniadau Etholiadol) 2021
Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y materion y cyfeirir atynt ac a nodir yn adran 37(2)(a) ac (c) o Ddeddf 2013, wedi penderfynu rhoi effaith i’r argymhellion hynny gydag addasiadau.
Yn unol ag adran 37(3) o Ddeddf 2013, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 37(1) o Ddeddf 2013.
Enwi a chychwyn1.
(1)
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (Trefniadau Etholiadol) 2021.
(2)
At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.
(3)
Dehongli2.
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot;
mae unrhyw gyfeiriad at fap yn gyfeiriad at un o’r 5 map a farciwyd “Map ar gyfer Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (Trefniadau Etholiadol) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau, a labelwyd “1” i “5”, ac mae cyfeiriad at fap â rhif yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y rhif hwnnw;
pan ddangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;
mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rhan 3 o F1Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.
Trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot3.
(1)
Mae wardiau etholiadol Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.
(2)
Mae Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi ei rhannu’n 34 o wardiau etholiadol, a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(3)
Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(4)
Nifer yr aelodau o’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(5)
Tref Pontardawe: newidiadau i wardiau cymunedol4.
Mae’r rhan o ward Pontardawe o dref Pontardawe a ddangosir â llinellau ar Fap 1 wedi ei throsglwyddo i ward Trebanos o dref Pontardawe.
Tref Coed-ffranc: newidiadau i wardiau cymunedol5.
Mae’r rhan o ward Canol Gorllewin tref Coed-ffranc a ddangosir â llinellau ar Fap 2 wedi ei throsglwyddo i ward Canol Dwyrain tref Coed-ffranc.
Tref Coed-ffranc: newidiadau i drefniadau etholiadol6.
Yn nhref Coed-ffranc—
(a)
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Canol Dwyrain tref Coed-ffranc yw 4;
(b)
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Gogledd tref Coed-ffranc yw 4;
(c)
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Gorllewin tref Coed-ffranc yw 3.
Cymunedau Dyffryn Clydach a Blaenhonddan: newidiadau i ffiniau cymunedol7.
Mae’r rhan o gymuned Blaenhonddan a ddangosir â llinellau ar Fap 3 wedi ei throsglwyddo i gymuned Dyffryn Clydach.
Cymuned Blaenhonddan: newid i drefniadau etholiadol8.
Nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Gogledd Bryn-coch o gymuned Blaenhonddan yw 4.
Diddymu cymuned Glyncorrwg a chreu cymunedau Gwynfi a Chroeserw, a Chymer a Glyncorrwg9.
(1)
Mae cymuned Glyncorrwg wedi ei diddymu.
(2)
Mae’r cymunedau a ganlyn wedi eu ffurfio—
(a)
cymuned Gwynfi a Chroeserw a ddangosir â llinellau ar Fap 4;
(b)
cymuned Cymer a Glyncorrwg a ddangosir â llinellau ar Fap 5.
YR ATODLENENWAU AC ARDALOEDD WARDIAU ETHOLIADOL A NIFER AELODAU’R CYNGOR
Colofn (1) | Colofn (2) | Colofn (3) | Colofn (4) |
|---|---|---|---|
Enw Saesneg y ward etholiadol | Enw Cymraeg y ward etholiadol | Ardal y ward etholiadol | Nifer aelodau’r cyngor |
Aberavon | Aberafan | Cymunedau Aberafan a Rhos Baglan | 2 |
Aberdulais | Aberdulais | Wardiau Aberdulais a Chil-ffriw o gymuned Blaenhonddan | 1 |
Allt-wen | Allt-wen | Ward Allt-wen o gymuned Cilybebyll | 1 |
Baglan | Baglan | Cymunedau Baglan a Bae Baglan | 3 |
Blaengwrach and Glynneath West | Blaen-gwrach a Gorllewin Glyn-nedd | Cymuned Blaen-gwrach, a wardiau Gorllewin a Chanol Gorllewin tref Glyn-nedd | 1 |
Briton Ferry East | Dwyrain Llansawel | Wardiau Craig-y-darren a Chwrt-sart o dref Llansawel | 1 |
Briton Ferry West | Gorllewin Llansawel | Wardiau Brynhyfryd a Choed Shelone o dref Llansawel | 1 |
Bryn and Cwmavon | Bryn a Chwmafan | Cymunedau Bryn a Chwmafan | 3 |
Bryn-coch North | Gogledd Bryn-coch | Ward Gogledd Bryn-coch o gymuned Blaenhonddan | 1 |
Bryn-coch South | De Bryn-coch | Ward De Bryn-coch o gymuned Blaenhonddan | 2 |
Cadoxton | Llangatwg | Ward Llangatwg o gymuned Blaenhonddan | 1 |
Cimla and Pelenna | Cimla a Phelenna | Cymuned Pelenna a wardiau Cefn Saeson a Chrynallt o dref Castell-nedd | 2 |
Coedffranc Central | Canol Coed-ffranc | Wardiau Canol a Chanol Dwyrain tref Coed-ffranc | 2 |
Coedffranc North | Gogledd Coed-ffranc | Ward y Gogledd o dref Coed-ffranc | 1 |
Coedffranc West | Gorllewin Coed-ffranc | Wardiau y Gorllewin a Chanol Gorllewin tref Coed-ffranc | 2 |
Crynant, Onllwyn and Seven Sisters | Y Creunant, Onllwyn a Blaendulais | Cymunedau y Creunant, Onllwyn a Blaendulais | 2 |
Cwmllynfell and Ystalyfera | Cwmllynfell ac Ystalyfera | Cymuned Cwmllynfell a ward Ystalyfera o gymuned Ystalyfera | 2 |
Cymer and Glyncorrwg | Cymer a Glyncorrwg | Cymuned Cymer a Glyncorrwg | 1 |
Dyffryn | Dyffryn | Cymuned Dyffryn Clydach | 2 |
Glynneath Central and East | Canol a Dwyrain Glyn-nedd | Wardiau Canol a Dwyrain tref Glyn-nedd | 1 |
Godre’r Graig | Godre’r-graig | Ward Godre’r-graig o gymuned Ystalyfera | 1 |
Gwaun-Cae-Gurwen and Lower Brynamman | Gwauncaegurwen a Brynaman Isaf | Cymuned Gwauncaegurwen | 2 |
Gwynfi and Croeserw | Gwynfi a Chroeserw | Cymuned Gwynfi a Chroeserw | 1 |
Margam and Tai-bach | Margam a Thai-bach | Cymunedau Margam, Gweunydd Margam a Thai-bach | 3 |
Neath East | Dwyrain Castell-nedd | Wardiau Melincryddan a Phenrhiwtyn o dref Castell-nedd | 3 |
Neath North | Gogledd Castell-nedd | Wardiau’r Castell a Llanilltud Nedd o dref Castell-nedd | 2 |
Neath South | De Castell-nedd | Wardiau’r Gnoll a Mount Pleasant o dref Castell-nedd | 2 |
Pontardawe | Pontardawe | Wardiau Pontardawe a Rhyd-y-fro o dref Pontardawe | 2 |
Port Talbot | Port Talbot | Cymuned Port Talbot | 2 |
Resolven and Tonna | Resolfen a Thonna | Cymunedau’r Clun a Melin-cwrt, Resolfen a Thonna | 2 |
Rhos | Rhos | Wardiau Gelli-nudd a Rhos o gymuned Cilybebyll | 1 |
Sandfields East | Dwyrain Sandfields | Cymuned Dwyrain Sandfields | 3 |
Sandfields West | Gorllewin Sandfields | Cymuned Gorllewin Sandfields | 3 |
Trebanos | Trebanos | Ward Trebanos o dref Pontardawe | 1 |
Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Awst 2020 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig lleihau nifer y wardiau etholiadol o 42 i 34 a lleihau nifer yr aelodau o 64 i 60.
Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, gydag addasiadau.
Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ac yn cyflwyno’r Atodlen, sy’n nodi’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.
Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn gweithredu argymhellion ynghylch newidiadau i ffiniau cymunedol a threfniadau etholiadol ar gyfer rhai cymunedau ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.
Mae erthygl 4 yn gwneud newidiadau i’r ffin rhwng wardiau cymunedol Pontardawe a Threbanos yn nhref Pontardawe.
Mae erthyglau 5 a 6 yn gwneud newidiadau i’r ffin rhwng wardiau cymunedol Canol Gorllewin a Chanol Dwyrain tref Coed-ffranc, ac i’r trefniadau etholiadol ar gyfer tref Coed-ffranc.
Mae erthyglau 7 ac 8 yn gwneud newidiadau i’r ffin rhwng cymunedau Dyffryn Clydach a Blaenhonddan, ac i’r trefniadau etholiadol ar gyfer cymuned Blaenhonddan.
Mae erthygl 9 yn diddymu cymuned Glyncorrwg, ac yn creu cymunedau newydd Gwynfi a Chroeserw, a Chymer a Glyncorrwg.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
Mae printiau o’r mapiau a labelwyd “1” i “5” y mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud â hwy wedi eu hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol), a chyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Mae’r printiau sydd wedi eu hadneuo gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn agored i gael eu harchwilio gan unrhyw un y bydd darpariaethau’r Gorchymyn hwn yn effeithio arnynt.