Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 1114 (Cy. 269)

Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (Trefniadau Etholiadol) 2021

Gwnaed

4 Hydref 2021

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)

Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru(1), yn unol ag adran 36(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013(2) (“Deddf 2013”), wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru adroddiad dyddiedig Awst 2020 yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer newid a manylion ei adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y materion y cyfeirir atynt ac a nodir yn adran 37(2)(a) ac (c) o Ddeddf 2013, wedi penderfynu rhoi effaith i’r argymhellion hynny gydag addasiadau.

Yn unol ag adran 37(3) o Ddeddf 2013, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 37(1) o Ddeddf 2013.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (Trefniadau Etholiadol) 2021.

(2At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.

(3At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022(3).

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(4);

ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot;

mae unrhyw gyfeiriad at fap yn gyfeiriad at un o’r 5 map a farciwyd “Map ar gyfer Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (Trefniadau Etholiadol) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau, a labelwyd “1” i “5”, ac mae cyfeiriad at fap â rhif yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y rhif hwnnw;

pan ddangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;

mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.

Trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

3.—(1Mae wardiau etholiadol Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.

(2Mae Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi ei rhannu’n 34 o wardiau etholiadol, a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(3Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(4Nifer yr aelodau o’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(5Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(5).

Tref Pontardawe: newidiadau i wardiau cymunedol

4.  Mae’r rhan o ward Pontardawe o dref Pontardawe a ddangosir â llinellau ar Fap 1 wedi ei throsglwyddo i ward Trebanos o dref Pontardawe.

Tref Coed-ffranc: newidiadau i wardiau cymunedol

5.  Mae’r rhan o ward Canol Gorllewin tref Coed-ffranc a ddangosir â llinellau ar Fap 2 wedi ei throsglwyddo i ward Canol Dwyrain tref Coed-ffranc.

Tref Coed-ffranc: newidiadau i drefniadau etholiadol

6.  Yn nhref Coed-ffranc—

(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Canol Dwyrain tref Coed-ffranc yw 4;

(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Gogledd tref Coed-ffranc yw 4;

(c)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Gorllewin tref Coed-ffranc yw 3.

Cymunedau Dyffryn Clydach a Blaenhonddan: newidiadau i ffiniau cymunedol

7.  Mae’r rhan o gymuned Blaenhonddan a ddangosir â llinellau ar Fap 3 wedi ei throsglwyddo i gymuned Dyffryn Clydach.

Cymuned Blaenhonddan: newid i drefniadau etholiadol

8.  Nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Gogledd Bryn-coch o gymuned Blaenhonddan yw 4.

Diddymu cymuned Glyncorrwg a chreu cymunedau Gwynfi a Chroeserw, a Chymer a Glyncorrwg

9.—(1Mae cymuned Glyncorrwg wedi ei diddymu.

(2Mae’r cymunedau a ganlyn wedi eu ffurfio—

(a)cymuned Gwynfi a Chroeserw a ddangosir â llinellau ar Fap 4;

(b)cymuned Cymer a Glyncorrwg a ddangosir â llinellau ar Fap 5.

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

4 Hydref 2021

Erthygl 3

YR ATODLENENWAU AC ARDALOEDD WARDIAU ETHOLIADOL A NIFER AELODAU’R CYNGOR

Tabl

Colofn (1)Colofn (2)Colofn (3)Colofn (4)
Enw Saesneg y ward etholiadolEnw Cymraeg y ward etholiadolArdal y ward etholiadolNifer aelodau’r cyngor
AberavonAberafanCymunedau Aberafan a Rhos Baglan2
AberdulaisAberdulaisWardiau Aberdulais a Chil-ffriw o gymuned Blaenhonddan1
Allt-wenAllt-wenWard Allt-wen o gymuned Cilybebyll1
BaglanBaglanCymunedau Baglan a Bae Baglan3
Blaengwrach and Glynneath WestBlaen-gwrach a Gorllewin Glyn-neddCymuned Blaen-gwrach, a wardiau Gorllewin a Chanol Gorllewin tref Glyn-nedd1
Briton Ferry EastDwyrain LlansawelWardiau Craig-y-darren a Chwrt-sart o dref Llansawel1
Briton Ferry WestGorllewin LlansawelWardiau Brynhyfryd a Choed Shelone o dref Llansawel1
Bryn and CwmavonBryn a ChwmafanCymunedau Bryn a Chwmafan3
Bryn-coch NorthGogledd Bryn-cochWard Gogledd Bryn-coch o gymuned Blaenhonddan1
Bryn-coch SouthDe Bryn-cochWard De Bryn-coch o gymuned Blaenhonddan2
CadoxtonLlangatwgWard Llangatwg o gymuned Blaenhonddan1
Cimla and PelennaCimla a PhelennaCymuned Pelenna a wardiau Cefn Saeson a Chrynallt o dref Castell-nedd2
Coedffranc CentralCanol Coed-ffrancWardiau Canol a Chanol Dwyrain tref Coed-ffranc2
Coedffranc NorthGogledd Coed-ffrancWard y Gogledd o dref Coed-ffranc1
Coedffranc WestGorllewin Coed-ffrancWardiau y Gorllewin a Chanol Gorllewin tref Coed-ffranc2
Crynant, Onllwyn and Seven SistersY Creunant, Onllwyn a BlaendulaisCymunedau y Creunant, Onllwyn a Blaendulais2
Cwmllynfell and YstalyferaCwmllynfell ac YstalyferaCymuned Cwmllynfell a ward Ystalyfera o gymuned Ystalyfera2
Cymer and GlyncorrwgCymer a GlyncorrwgCymuned Cymer a Glyncorrwg1
DyffrynDyffrynCymuned Dyffryn Clydach2
Glynneath Central and EastCanol a Dwyrain Glyn-neddWardiau Canol a Dwyrain tref Glyn-nedd1
Godre’r GraigGodre’r-graigWard Godre’r-graig o gymuned Ystalyfera1
Gwaun-Cae-Gurwen and Lower BrynammanGwauncaegurwen a Brynaman IsafCymuned Gwauncaegurwen2
Gwynfi and CroeserwGwynfi a ChroeserwCymuned Gwynfi a Chroeserw1
Margam and Tai-bachMargam a Thai-bachCymunedau Margam, Gweunydd Margam a Thai-bach3
Neath EastDwyrain Castell-neddWardiau Melincryddan a Phenrhiwtyn o dref Castell-nedd3
Neath NorthGogledd Castell-neddWardiau’r Castell a Llanilltud Nedd o dref Castell-nedd2
Neath SouthDe Castell-neddWardiau’r Gnoll a Mount Pleasant o dref Castell-nedd2
PontardawePontardaweWardiau Pontardawe a Rhyd-y-fro o dref Pontardawe2
Port TalbotPort TalbotCymuned Port Talbot2
Resolven and TonnaResolfen a ThonnaCymunedau’r Clun a Melin-cwrt, Resolfen a Thonna2
RhosRhosWardiau Gelli-nudd a Rhos o gymuned Cilybebyll1
Sandfields EastDwyrain SandfieldsCymuned Dwyrain Sandfields3
Sandfields WestGorllewin SandfieldsCymuned Gorllewin Sandfields3
TrebanosTrebanosWard Trebanos o dref Pontardawe1

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Awst 2020 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig lleihau nifer y wardiau etholiadol o 42 i 34 a lleihau nifer yr aelodau o 64 i 60.

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, gydag addasiadau.

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ac yn cyflwyno’r Atodlen, sy’n nodi’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn gweithredu argymhellion ynghylch newidiadau i ffiniau cymunedol a threfniadau etholiadol ar gyfer rhai cymunedau ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

Mae erthygl 4 yn gwneud newidiadau i’r ffin rhwng wardiau cymunedol Pontardawe a Threbanos yn nhref Pontardawe.

Mae erthyglau 5 a 6 yn gwneud newidiadau i’r ffin rhwng wardiau cymunedol Canol Gorllewin a Chanol Dwyrain tref Coed-ffranc, ac i’r trefniadau etholiadol ar gyfer tref Coed-ffranc.

Mae erthyglau 7 ac 8 yn gwneud newidiadau i’r ffin rhwng cymunedau Dyffryn Clydach a Blaenhonddan, ac i’r trefniadau etholiadol ar gyfer cymuned Blaenhonddan.

Mae erthygl 9 yn diddymu cymuned Glyncorrwg, ac yn creu cymunedau newydd Gwynfi a Chroeserw, a Chymer a Glyncorrwg.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

Mae printiau o’r mapiau a labelwyd “1” i “5” y mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud â hwy wedi eu hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol), a chyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Mae’r printiau sydd wedi eu hadneuo gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn agored i gael eu harchwilio gan unrhyw un y bydd darpariaethau’r Gorchymyn hwn yn effeithio arnynt.

(1)

Sefydlwyd y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru gan adran 53 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) (“Deddf 1972”), ac Atodlen 8 iddi. Diddymwyd adran 53 ac Atodlen 8 gan adran 73(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4) (“Deddf 2013”), ac Atodlen 2 iddi. Mae Deddf 2013 yn ailenwi’r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yn Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (gweler adran 2).

(3)

Mae Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1269 (Cy. 220)) yn diwygio adran 26(1) o Ddeddf 1972 i ddarparu y bydd etholiadau cyffredin cynghorwyr awdurdodau lleol yn cael eu cynnal yn y flwyddyn 2022 yn hytrach na 2021.

(4)

O.S. 1976/246. Mae adran 74(3) o Ddeddf 2013 yn darparu bod y Rheoliadau hyn yn parhau i gael effaith mewn perthynas â gorchmynion a wnaed o dan Ran 3 o Ddeddf 2013, fel pe bai’r gorchmynion hynny wedi eu gwneud o dan Ran 4 o Ddeddf 1972.

(5)

1972 p. 70; diddymwyd adran 58 o Ddeddf 1972 gan adran 73(2) o Ddeddf 2013 ac Atodlen 2 iddi, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau arbed a bennir yn adran 74 o Ddeddf 2013.