2021 Rhif 1114 (Cy. 269)
Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (Trefniadau Etholiadol) 2021

Gwnaed
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)
Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru1, yn unol ag adran 36(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 20132 (“Deddf 2013”), wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru adroddiad dyddiedig Awst 2020 yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer newid a manylion ei adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y materion y cyfeirir atynt ac a nodir yn adran 37(2)(a) ac (c) o Ddeddf 2013, wedi penderfynu rhoi effaith i’r argymhellion hynny gydag addasiadau.

Yn unol ag adran 37(3) o Ddeddf 2013, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 37(1) o Ddeddf 2013.

Enwi a chychwyn1.

(1)

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (Trefniadau Etholiadol) 2021.

(2)

At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.

(3)

At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 20223.

Dehongli2.

Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 19764;

ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot;

mae unrhyw gyfeiriad at fap yn gyfeiriad at un o’r 5 map a farciwyd “Map ar gyfer Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (Trefniadau Etholiadol) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau, a labelwyd “1” i “5”, ac mae cyfeiriad at fap â rhif yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y rhif hwnnw;

pan ddangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;

mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.

Trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot3.

(1)

Mae wardiau etholiadol Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.

(2)

Mae Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi ei rhannu’n 34 o wardiau etholiadol, a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(3)

Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(4)

Nifer yr aelodau o’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(5)

Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 19725.

Tref Pontardawe: newidiadau i wardiau cymunedol4.

Mae’r rhan o ward Pontardawe o dref Pontardawe a ddangosir â llinellau ar Fap 1 wedi ei throsglwyddo i ward Trebanos o dref Pontardawe.

Tref Coed-ffranc: newidiadau i wardiau cymunedol5.

Mae’r rhan o ward Canol Gorllewin tref Coed-ffranc a ddangosir â llinellau ar Fap 2 wedi ei throsglwyddo i ward Canol Dwyrain tref Coed-ffranc.

Tref Coed-ffranc: newidiadau i drefniadau etholiadol6.

Yn nhref Coed-ffranc—

(a)

nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Canol Dwyrain tref Coed-ffranc yw 4;

(b)

nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Gogledd tref Coed-ffranc yw 4;

(c)

nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Gorllewin tref Coed-ffranc yw 3.

Cymunedau Dyffryn Clydach a Blaenhonddan: newidiadau i ffiniau cymunedol7.

Mae’r rhan o gymuned Blaenhonddan a ddangosir â llinellau ar Fap 3 wedi ei throsglwyddo i gymuned Dyffryn Clydach.

Cymuned Blaenhonddan: newid i drefniadau etholiadol8.

Nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Gogledd Bryn-coch o gymuned Blaenhonddan yw 4.

Diddymu cymuned Glyncorrwg a chreu cymunedau Gwynfi a Chroeserw, a Chymer a Glyncorrwg9.

(1)

Mae cymuned Glyncorrwg wedi ei diddymu.

(2)

Mae’r cymunedau a ganlyn wedi eu ffurfio—

(a)

cymuned Gwynfi a Chroeserw a ddangosir â llinellau ar Fap 4;

(b)

cymuned Cymer a Glyncorrwg a ddangosir â llinellau ar Fap 5.

Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

YR ATODLENENWAU AC ARDALOEDD WARDIAU ETHOLIADOL A NIFER AELODAU’R CYNGOR

Erthygl 3

Tabl

Colofn (1)

Colofn (2)

Colofn (3)

Colofn (4)

Enw Saesneg y ward etholiadol

Enw Cymraeg y ward etholiadol

Ardal y ward etholiadol

Nifer aelodau’r cyngor

Aberavon

Aberafan

Cymunedau Aberafan a Rhos Baglan

2

Aberdulais

Aberdulais

Wardiau Aberdulais a Chil-ffriw o gymuned Blaenhonddan

1

Allt-wen

Allt-wen

Ward Allt-wen o gymuned Cilybebyll

1

Baglan

Baglan

Cymunedau Baglan a Bae Baglan

3

Blaengwrach and Glynneath West

Blaen-gwrach a Gorllewin Glyn-nedd

Cymuned Blaen-gwrach, a wardiau Gorllewin a Chanol Gorllewin tref Glyn-nedd

1

Briton Ferry East

Dwyrain Llansawel

Wardiau Craig-y-darren a Chwrt-sart o dref Llansawel

1

Briton Ferry West

Gorllewin Llansawel

Wardiau Brynhyfryd a Choed Shelone o dref Llansawel

1

Bryn and Cwmavon

Bryn a Chwmafan

Cymunedau Bryn a Chwmafan

3

Bryn-coch North

Gogledd Bryn-coch

Ward Gogledd Bryn-coch o gymuned Blaenhonddan

1

Bryn-coch South

De Bryn-coch

Ward De Bryn-coch o gymuned Blaenhonddan

2

Cadoxton

Llangatwg

Ward Llangatwg o gymuned Blaenhonddan

1

Cimla and Pelenna

Cimla a Phelenna

Cymuned Pelenna a wardiau Cefn Saeson a Chrynallt o dref Castell-nedd

2

Coedffranc Central

Canol Coed-ffranc

Wardiau Canol a Chanol Dwyrain tref Coed-ffranc

2

Coedffranc North

Gogledd Coed-ffranc

Ward y Gogledd o dref Coed-ffranc

1

Coedffranc West

Gorllewin Coed-ffranc

Wardiau y Gorllewin a Chanol Gorllewin tref Coed-ffranc

2

Crynant, Onllwyn and Seven Sisters

Y Creunant, Onllwyn a Blaendulais

Cymunedau y Creunant, Onllwyn a Blaendulais

2

Cwmllynfell and Ystalyfera

Cwmllynfell ac Ystalyfera

Cymuned Cwmllynfell a ward Ystalyfera o gymuned Ystalyfera

2

Cymer and Glyncorrwg

Cymer a Glyncorrwg

Cymuned Cymer a Glyncorrwg

1

Dyffryn

Dyffryn

Cymuned Dyffryn Clydach

2

Glynneath Central and East

Canol a Dwyrain Glyn-nedd

Wardiau Canol a Dwyrain tref Glyn-nedd

1

Godre’r Graig

Godre’r-graig

Ward Godre’r-graig o gymuned Ystalyfera

1

Gwaun-Cae-Gurwen and Lower Brynamman

Gwauncaegurwen a Brynaman Isaf

Cymuned Gwauncaegurwen

2

Gwynfi and Croeserw

Gwynfi a Chroeserw

Cymuned Gwynfi a Chroeserw

1

Margam and Tai-bach

Margam a Thai-bach

Cymunedau Margam, Gweunydd Margam a Thai-bach

3

Neath East

Dwyrain Castell-nedd

Wardiau Melincryddan a Phenrhiwtyn o dref Castell-nedd

3

Neath North

Gogledd Castell-nedd

Wardiau’r Castell a Llanilltud Nedd o dref Castell-nedd

2

Neath South

De Castell-nedd

Wardiau’r Gnoll a Mount Pleasant o dref Castell-nedd

2

Pontardawe

Pontardawe

Wardiau Pontardawe a Rhyd-y-fro o dref Pontardawe

2

Port Talbot

Port Talbot

Cymuned Port Talbot

2

Resolven and Tonna

Resolfen a Thonna

Cymunedau’r Clun a Melin-cwrt, Resolfen a Thonna

2

Rhos

Rhos

Wardiau Gelli-nudd a Rhos o gymuned Cilybebyll

1

Sandfields East

Dwyrain Sandfields

Cymuned Dwyrain Sandfields

3

Sandfields West

Gorllewin Sandfields

Cymuned Gorllewin Sandfields

3

Trebanos

Trebanos

Ward Trebanos o dref Pontardawe

1

NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Awst 2020 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig lleihau nifer y wardiau etholiadol o 42 i 34 a lleihau nifer yr aelodau o 64 i 60.

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, gydag addasiadau.

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ac yn cyflwyno’r Atodlen, sy’n nodi’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn gweithredu argymhellion ynghylch newidiadau i ffiniau cymunedol a threfniadau etholiadol ar gyfer rhai cymunedau ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

Mae erthygl 4 yn gwneud newidiadau i’r ffin rhwng wardiau cymunedol Pontardawe a Threbanos yn nhref Pontardawe.

Mae erthyglau 5 a 6 yn gwneud newidiadau i’r ffin rhwng wardiau cymunedol Canol Gorllewin a Chanol Dwyrain tref Coed-ffranc, ac i’r trefniadau etholiadol ar gyfer tref Coed-ffranc.

Mae erthyglau 7 ac 8 yn gwneud newidiadau i’r ffin rhwng cymunedau Dyffryn Clydach a Blaenhonddan, ac i’r trefniadau etholiadol ar gyfer cymuned Blaenhonddan.

Mae erthygl 9 yn diddymu cymuned Glyncorrwg, ac yn creu cymunedau newydd Gwynfi a Chroeserw, a Chymer a Glyncorrwg.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

Mae printiau o’r mapiau a labelwyd “1” i “5” y mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud â hwy wedi eu hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol), a chyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Mae’r printiau sydd wedi eu hadneuo gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn agored i gael eu harchwilio gan unrhyw un y bydd darpariaethau’r Gorchymyn hwn yn effeithio arnynt.