Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Wrecsam (Trefniadau Etholiadol) 2021
Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y materion y cyfeirir atynt ac a nodir yn adran 37(2)(a) ac (c) o Ddeddf 2013, wedi penderfynu rhoi effaith i’r argymhellion hynny gydag addasiadau.
Yn unol ag adran 37(3) o Ddeddf 2013, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 37(1) o Ddeddf 2013.
Enwi a chychwyn1.
(1)
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Wrecsam (Trefniadau Etholiadol) 2021.
(2)
At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.
(3)
Dehongli2.
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam;
mae unrhyw gyfeiriad at fap yn golygu un o’r 12 o fapiau a farciwyd “Map ar gyfer Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Wrecsam (Trefniadau Etholiadol) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau ac a labelwyd “1” i “12”, ac mae cyfeiriad at fap â rhif yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y rhif hwnnw;
os dangosir ar fap bod ffin yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;
mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag a roddir iddynt yn Rhan 3 o F1Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.
Trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Wrecsam3.
(1)
Mae wardiau etholiadol Bwrdeistref Sirol Wrecsam, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.
(2)
Mae Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi ei rhannu’n 49 o wardiau etholiadol a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(3)
Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(4)
Nifer aelodau’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 y Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(5)
Cymuned Cefn: newidiadau i wardiau cymunedol4.
Yng nghymuned Cefn—
(a)
mae’r rhan o ward Acre-fair a Phen-y-bryn a ddangosir â llinellau ar Fap 1 wedi ei throsglwyddo i ward Plas Madog;
(b)
mae’r rhan o ward Cefn a ddangosir â llinellau ar Fap 2 wedi ei throsglwyddo i ward Acre-fair a Phen-y-bryn;
(c)
mae’r rhan o ward Rhosymedre a Chefn Bychan a ddangosir â chroeslinellau ar Fap 2 wedi ei throsglwyddo i ward Acre-fair a Phen-y-bryn.
Cymuned Cefn: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol5.
Yng nghymuned Cefn—
(a)
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Acre-fair a Phen-y-bryn yw 5;
(b)
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Cefn yw 5;
(c)
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Rhosymedre a Chefn Bychan yw 1.
Cymuned Rhosllannerchrugog: newidiadau i wardiau cymunedol6.
Yng nghymuned Rhosllannerchrugog—
(a)
mae’r rhan o ward Gogledd Ponciau a ddangosir â llinellau ar Fap 3 wedi ei throsglwyddo i ward Rhos;
(b)
mae’r rhan o ward De Ponciau a ddangosir â chroeslinellau ar Fap 3 wedi ei throsglwyddo i ward Rhos.
Cymuned Rhosllannerchrugog: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol7.
Yng nghymuned Rhosllannerchrugog—
(a)
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Johnstown yw 6;
(b)
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward De Ponciau yw 2;
(c)
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Rhos yw 4.
Cymuned Broughton: newidiadau i wardiau cymunedol8.
Yng nghymuned Broughton—
(a)
mae’r rhan o ward Bryn-teg a ddangosir â llinellau ar Fap 4 wedi ei throsglwyddo i ward Bryn Cefn;
(b)
mae’r rhan o ward Bryn-teg a ddangosir â llinellau ar Fap 5 wedi ei throsglwyddo i ward Gwenfro;
(c)
mae’r rhan o ward New Broughton a ddangosir â chroeslinellau ar Fap 5 wedi ei throsglwyddo i ward Gwenfro.
Cymuned Broughton: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol9.
Yng nghymuned Broughton—
(a)
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Bryn Cefn yw 5;
(b)
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Bryn-teg yw 2;
(c)
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Gwenfro yw 5.
Cymuned Gwersyllt: newidiadau i wardiau cymunedol10.
Mae’r rhan o ward De Gwersyllt o gymuned Gwersyllt a ddangosir â llinellau ar Fap 6 wedi ei throsglwyddo i ward Dwyrain Gwersyllt o gymuned Gwersyllt.
Cymuned Gwersyllt: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol11.
Yng nghymuned Gwersyllt—
(a)
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Dwyrain Gwersyllt yw 4;
(b)
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward De Gwersyllt yw 4;
(c)
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Gorllewin Gwersyllt yw 5.
Cymuned Parc Caia: newidiadau i wardiau cymunedol12.
Yng nghymuned Parc Caia—
(a)
mae’r rhan o ward Whitegate a ddangosir â llinellau ar Fap 7 wedi ei throsglwyddo i ward Smithfield;
(b)
mae’r rhan o ward Smithfield a ddangosir â llinellau ar Fap 8 wedi ei throsglwyddo i ward Wynnstay.
Cymunedau Abenbury a Pharc Caia: newidiadau i ffiniau cymunedol13.
Mae’r rhan honno o gymuned Abenbury a ddangosir â llinellau ar Fap 9 wedi ei throsglwyddo i gymuned Parc Caia, ac mae’n ffurfio rhan o ward Whitegate o gymuned Parc Caia.
Cymuned Parc Caia: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol14.
Nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Wynnstay o gymuned Parc Caia yw 3.
Cymuned Offa: newidiadau i wardiau cymunedol15.
Yng nghymuned Offa—
(a)
mae’r rhannau o ward Offa a ddangosir â llinellau ar Fap 10 wedi eu trosglwyddo i ward Erddig;
(b)
mae’r rhan o ward Brynyffynnon a ddangosir â llinellau ar Fap 11 wedi ei throsglwyddo i ward Offa;
(c)
mae’r rhan o ward Offa a ddangosir â llinellau ar Fap 12 wedi ei throsglwyddo i ward Brynyffynnon.
Cymuned Offa: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol16.
Yng nghymuned Offa—
(a)
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Hermitage yw 4;
(b)
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Offa yw 5.
YR ATODLENENWAU AC ARDALOEDD WARDIAU ETHOLIADOL A NIFER AELODAU’R CYNGOR
Colofn (1) | Colofn (2) | Colofn (3) | Colofn (4) |
|---|---|---|---|
Enw Saesneg y ward etholiadol | Enw Cymraeg y ward etholiadol | Ardal y ward etholiadol | Nifer aelodau’r cyngor |
Acrefair North | Gogledd Acre-fair | Ward Plas Madog o gymuned Cefn | 1 |
Acton and Maesydre | Gwaunyterfyn a Maes-y-dre | Wardiau Parc Gwaunyterfyn, Canol Gwaunyterfyn, a Maes-y-dre o gymuned Gwaunyterfyn | 2 |
Bangor Is-y-Coed | Bangor-is-y-coed | Cymunedau Bangor-is-y-coed a Willington Worthenbury | 1 |
Borras Park | Parc Borras | Ward Parc Borras o gymuned Gwaunyterfyn | 1 |
Bronington and Hanmer | Bronington a Hanmer | Cymunedau Bronington a Hanmer | 1 |
Brymbo | Brymbo | Wardiau Brymbo a Fron o gymuned Brymbo | 2 |
Bryn Cefn | Bryn Cefn | Ward Bryn Cefn o gymuned Broughton | 1 |
Brynyffynnon | Brynyffynnon | Ward Brynyffynnon o gymuned Offa | 1 |
Cartrefle | Cartrefle | Ward Cartrefle o gymuned Parc Caia | 1 |
Cefn East | Dwyrain Cefn | Wardiau Cefn, a Rhosymedre a Chefn Bychan o gymuned Cefn | 1 |
Cefn West | Gorllewin Cefn | Ward Acre-fair a Phen-y-bryn o gymuned Cefn | 1 |
Chirk North | Gogledd y Waun | Ward Gogledd y Waun o gymuned y Waun | 1 |
Chirk South | De’r Waun | Ward De’r Waun o gymuned y Waun | 1 |
Coedpoeth | Coed-poeth | Cymuned Coed-poeth | 2 |
Dyffryn Ceiriog | Dyffryn Ceiriog | Cymunedau Ceiriog Uchaf, Glyntraean a Llansanffraid Glyn Ceiriog | 1 |
Erddig | Erddig | Ward Erddig o gymuned Offa | 1 |
Esclusham | Esclusham | Wardiau Bers a Rhostyllen o gymuned Esclusham | 1 |
Garden Village | Garden Village | Ward Garden Village o gymuned Rhos-ddu | 1 |
Gresford East and West | Dwyrain a Gorllewin Gresffordd | Wardiau Dwyrain Gresffordd a Gorllewin Gresffordd o gymuned Gresffordd | 1 |
Grosvenor | Grosvenor | Ward Grosvenor o gymuned Rhos-ddu | 1 |
Gwenfro | Gwenfro | Ward Gwenfro o gymuned Broughton | 1 |
Gwersyllt East | Dwyrain Gwersyllt | Ward Dwyrain Gwersyllt o gymuned Gwersyllt | 1 |
Gwersyllt North | Gogledd Gwersyllt | Ward Gogledd Gwersyllt o gymuned Gwersyllt | 1 |
Gwersyllt South | De Gwersyllt | Ward De Gwersyllt o gymuned Gwersyllt | 1 |
Gwersyllt West | Gorllewin Gwersyllt | Ward Gorllewin Gwersyllt o gymuned Gwersyllt | 1 |
Hermitage | Hermitage | Ward Hermitage o gymuned Offa | 1 |
Holt | Holt | Cymunedau Abenbury, Holt ac Is-y-coed | 1 |
Little Acton | Acton Fechan | Ward Acton Fechan o gymuned Gwaunyterfyn | 1 |
Llangollen Rural | Llangollen Wledig | Cymuned Llangollen Wledig | 1 |
Llay | Llai | Cymuned Llai | 2 |
Marchwiel | Marchwiel | F2Cymunedau Erbistog, Marchwiel a Sesswick | 1 |
Marford and Hoseley | Marford a Hoseley | Ward Marford a Hoseley o gymuned Gresffordd | 1 |
Minera | Mwynglawdd | Ward Bwlch-gwyn o gymuned Brymbo, a chymuned Mwynglawdd | 1 |
New Broughton | New Broughton | Wardiau Bryn-teg a New Broughton o gymuned Broughton | 1 |
Offa | Offa | Ward Offa o gymuned Offa | 1 |
Overton and Maelor South | Owrtyn a De Maelor | Cymunedau De Maelor ac Owrtyn | 1 |
Pant and Johnstown | Pant a Johnstown | Wardiau Johnstown a Phant o gymuned Rhosllannerchrugog | 2 |
Penycae | Pen-y-cae | Ward Eitha o gymuned Pen-y-cae | 1 |
Penycae and Ruabon South | Pen-y-cae a De Rhiwabon | Ward y Groes o gymuned Pen-y-cae a ward De Rhiwabon o gymuned Rhiwabon | 1 |
Ponciau | Ponciau | Ward Pentrebychan o gymuned Esclusham a wardiau Gogledd Ponciau a De Ponciau o gymuned Rhosllannerchrugog | 1 |
Queensway | Queensway | Ward Queensway o gymuned Parc Caia | 1 |
Rhos | Rhos | Ward Rhos o gymuned Rhosllannerchrugog a ward Aber-oer o gymuned Esclusham | 1 |
Rhosnesni | Rhosnesni | Ward Rhosnesni o gymuned Gwaunyterfyn | 2 |
Rossett | Yr Orsedd | Cymuned yr Orsedd | 2 |
Ruabon | Rhiwabon | Ward Gogledd Rhiwabon o gymuned Rhiwabon | 1 |
Smithfield | Smithfield | Ward Smithfield o gymuned Parc Caia | 1 |
Stansty | Stansty | Ward Stansty o gymuned Rhos-ddu | 1 |
Whitegate | Whitegate | Ward Whitegate o gymuned Parc Caia | 1 |
Wynnstay | Wynnstay | Ward Wynnstay o gymuned Parc Caia | 1 |
Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (ׅ“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Tachwedd 2020 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig cynyddu nifer y wardiau etholiadol, o 47 i 49, a chynyddu nifer y cynghorwyr o 52 i 56.
Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, gydag addasiadau.
Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac yn cyflwyno’r Atodlen, sy’n nodi’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn gweithredu argymhellion ynghylch newidiadau i ffiniau cymunedol a newidiadau i drefniadau etholiadol ar gyfer rhai cymunedau ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.
Mae erthygl 4 yn gwneud newidiadau i’r ffiniau rhwng wardiau cymunedol Acre-fair a Phen-y-bryn, Cefn, Plas Madog, a Rhosymedre a Chefn Bychan yng nghymuned Cefn. Mae erthygl 5 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros wardiau Acre-fair a Phen-y-bryn, Cefn, a Rhosymedre a Chefn Bychan o gymuned Cefn.
Mae erthygl 6 yn gwneud newidiadau i’r ffiniau rhwng wardiau cymunedol Gogledd Ponciau, De Ponciau a Rhos yng nghymuned Rhosllannerchrugog. Mae erthygl 7 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros wardiau Johnstown, De Ponciau a Rhos o gymuned Rhosllannerchrugog.
Mae erthygl 8 yn gwneud newidiadau i’r ffiniau rhwng wardiau cymunedol Bryn-teg, Bryn Cefn, New Broughton a Gwenfro yng nghymuned Broughton. Mae erthygl 9 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros wardiau Bryn Cefn, Bryn-teg a Gwenfro o gymuned Broughton.
Mae erthygl 10 yn gwneud newidiadau i’r ffiniau rhwng wardiau cymunedol De Gwersyllt a Dwyrain Gwersyllt yng nghymuned Gwersyllt. Mae erthygl 11 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros wardiau Dwyrain Gwersyllt, De Gwersyllt a Gorllewin Gwersyllt o gymuned Gwersyllt.
Mae erthygl 12 yn gwneud newidiadau i’r ffiniau rhwng wardiau cymunedol Whitegate, Smithfield a Wynnstay yng nghymuned Parc Caia. Mae erthygl 13 yn gwneud newidiadau i’r ffiniau rhwng cymunedau Abenbury a Pharc Caia. Mae erthygl 14 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Wynnstay o gymuned Parc Caia.
Mae erthygl 15 yn gwneud newidiadau i’r ffiniau rhwng wardiau cymunedol Erddig, Offa, a Brynffynnon yng nghymuned Offa. Mae erthygl 16 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros wardiau Hermitage ac Offa o gymuned Offa.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
Mae printiau o’r mapiau a labelwyd “1” i “12” y mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud â hwy wedi eu hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol) a chyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae’r printiau sydd wedi eu hadneuo gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn agored i gael eu harchwilio gan unrhyw un y bydd darpariaethau’r Gorchymyn hwn yn effeithio arnynt.