Gorchymyn Sir Ynys Môn (Trefniadau Etholiadol) 2021
Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y materion y cyfeirir atynt ac a nodir yn adran 37(2)(a) ac (c) o Ddeddf 2013, wedi penderfynu rhoi effaith i’r argymhellion hynny heb eu haddasu.
Yn unol ag adran 37(3) o Ddeddf 2013, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 37(1) o Ddeddf 2013.
Enwi, cychwyn a dehongli1.
(1)
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Ynys Môn (Trefniadau Etholiadol) 2021.
(2)
(3)
(4)
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Sir Ynys Môn;
mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag a roddir iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.
Trefniadau etholiadol ar gyfer Sir Ynys Môn2.
(1)
Mae wardiau etholiadol Sir Ynys Môn, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.
(2)
Mae Sir Ynys Môn wedi ei rhannu’n 14 o wardiau etholiadol a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(3)
Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(4)
Nifer aelodau’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(5)
YR ATODLENENWAU AC ARDALOEDD WARDIAU ETHOLIADOL A NIFER AELODAU’R CYNGOR
Colofn (1) | Colofn (2) | Colofn (3) | Colofn (4) |
|---|---|---|---|
Enw Saesneg y ward etholiadol | Enw Cymraeg y ward etholiadol | Ardal y ward etholiadol | Nifer aelodau’r cyngor |
Aethwy | Aethwy | Cymunedau Llanfair Pwllgwyngyll, Porthaethwy a Phenmynydd | 3 |
Bodowyr | Bodowyr | Cymunedau Llanddaniel-fab, Llanfihangel Ysgeifiog a Llanidan | 2 |
Bro Aberffraw | Bro Aberffraw | Cymunedau Aberffraw, Bodorgan a Rhosyr | 2 |
Bro’r Llynnoedd | Bro’r Llynnoedd | Cymunedau Bodedern, Llanfair-yn-Neubwll a’r Fali | 2 |
Canolbarth Môn | Canolbarth Môn | Cymuned Bodffordd, wardiau Llanddyfnan, Llangwyllog a Thregaean o gymuned Llanddyfnan, a wardiau Cyngar a Thudur o gymuned Llangefni | 3 |
Cefni | Cefni | Cymuned Llangristiolus a ward Cefni o gymuned Llangefni | 2 |
Crigyll | Crigyll | Cymunedau Bryngwran, Llanfaelog a Threwalchmai | 2 |
Lligwy | Lligwy | Cymunedau Llaneugrad, Llanfair Mathafarn Eithaf, Moelfre, a Phentraeth, a ward Llanfihangel Tre’r-beirdd o gymuned Llanddyfnan | 3 |
Parc a’r Mynydd | Parc a’r Mynydd | Wardiau Parc a’r Mynydd a Phorthyfelin o gymuned Caergybi | 2 |
Seiriol | Seiriol | Cymunedau Biwmares, Cwm Cadnant, Llanddona a Llangoed | 3 |
Talybolion | Talybolion | Cymunedau Cylch-y-garn, Llannerch-y-medd, Llanfachraeth, Llanfaethlu, Mechell a Thref Alaw | 3 |
Tref Cybi | Tref Cybi | Wardiau’r Dref, Lôn Llundain a Morawelon o gymuned Caergybi | 2 |
Twrcelyn | Twrcelyn | Cymunedau Amlwch, Llanbadrig, Llaneilian a Rhos-y-bol | 3 |
Ynys Gybi | Ynys Gybi | Cymunedau Trearddur a Rhoscolyn a wardiau Kingsland a Maeshyfryd o gymuned Caergybi | 3 |
Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Tachwedd 2020 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Sir Ynys Môn. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig cynyddu nifer y wardiau etholiadol o 11 i 14, a chynyddu nifer y cynghorwyr o 30 i 35.
Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, heb eu haddasu.
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Sir Ynys Môn ac yn cyflwyno’r Atodlen sy’n nodi’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer Sir Ynys Môn.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.