NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (“y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”), Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/40 (Cy. 11)) (“y Rheoliadau Atebolrwydd Gweithredwyr”) a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (“y Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd”).

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor.

Mae rheoliadau 3, 6 ac 8 yn gwneud darpariaeth i ddileu Atodlen 3 (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), sy’n cynnwys gwledydd y cyfeirir atynt yn gyffredin fel gwledydd ‘rhestr werdd’, a chyfeiriadau at yr Atodlen honno, o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.

Mae rheoliad 4 yn gwneud diwygiadau i reoliad 2A (esemptiadau ar gyfer teithwyr sydd wedi eu brechu ac eraill) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, gan gynnwys ychwanegu at y rhestr o wledydd perthnasol ym mharagraff (11) a chyflwyno gwledydd a thiriogaethau perthnasol pellach ym mharagraff newydd (12).

Mae rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 6A (gofyniad i feddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn esemptio teithiwr rheoliad 2A o ofynion y rheoliad hwnnw.

Mae rheoliad 7 yn gwneud diwygiadau i’r gofynion sy’n gymwys i ddarparwyr profion preifat ym mharagraffau 1ZA a 2ZA o Atodlen 1C.

Mae rheoliad 9 yn diwygio Atodlen 4 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol i ddiweddaru’r rhestr o ddigwyddiadau chwaraeon penodedig. Caiff unigolyn adael ynysiad er mwyn cystadlu neu hyfforddi, neu ddarparu hyfforddiant neu gymorth arall i berson sy’n cystadlu, mewn digwyddiad chwaraeon a bennir yn Atodlen 4.

Mae’r Rheoliadau Atebolrwydd Gweithredwyr yn gosod gofynion ar bersonau sy’n gweithredu gwasanaethau teithwyr rhyngwladol (“gweithredwyr”) sy’n cyrraedd Cymru o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin. O ganlyniad i’r diwygiadau a wneir i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol gan y Rheoliadau hyn, mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud mân ddiwygiadau i’r Rheoliadau Atebolrwydd Gweithredwyr er mwyn adlewyrchu’r newidiadau i’r cyfyngiadau ar deithio rhyngwladol.

Mae’r Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd yn gosod gofynion ar weithredwyr gwasanaethau teithwyr rhyngwladol sy’n dod o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin i faes awyr, maes hofrenyddion neu borthladd môr yng Nghymru i ddarparu gwybodaeth iechyd y cyhoedd benodedig i deithwyr. O ganlyniad i’r diwygiadau a wneir i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol gan y Rheoliadau hyn, mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r wybodaeth iechyd y cyhoedd benodedig y mae rhaid i weithredwyr ei darparu i deithwyr cyn iddynt deithio i Gymru ac wrth iddynt deithio i Gymru.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.