Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio diffygion yn Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 (O.S. 2011/2379 (Cy. 252)) (“Rheoliadau 2011”) o ganlyniad i ymadael â’r UE. Mae rheoliad 2 yn diwygio Atodlen 5 i Reoliadau 2011 er mwyn newid y dyddiad y mae’r gofynion hysbysu trosiannol ymlaen llaw ar gyfer cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid yn gymwys ohono o 1 Hydref 2021 i 1 Ionawr 2022 ac i ddileu’r gofyniad i gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid a sgil-gynhyrchion anifeiliaid ddod gyda’r dystysgrif iechyd briodol ar gyfer mewnforion trydydd gwledydd cyn diwedd y cyfnod graddoli trosiannol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.