2021 Rhif 1094 (Cy. 260)
Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) (Rhif 3) 2021
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 20181.
Mae Gweinidogion Cymru o’r farn, oherwydd brys, ei bod yn angenrheidiol gwneud y Rheoliadau hyn heb fod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad2.
Enwi a chychwyn1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) (Rhif 3) 2021.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 29 Medi 2021.
Diwygio Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 20112
1
Mae Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 20113 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn Atodlen 5—
a
ym mharagraff 5(3), yn lle “1 Hydref 2021” rhodder “1 Ionawr 2022”;
b
ym mharagraff (6)—
i
hepgorer is-baragraff (1)(c);
ii
yn is-baragraff (2) hepgorer “ac (c)”.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)