Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 1092 (Cy. 259) (C. 63)

Diogelwch Tân, Cymru

Rheoliadau Deddf Diogelwch Tân 2021 (Cychwyn) (Cymru) 2021

Gwnaed

27 Medi 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 4(2)(b) o Ddeddf Diogelwch Tân 2021(1).

Enwi

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Diogelwch Tân 2021 (Cychwyn) (Cymru) 2021.

Y ddarpariaeth sy’n dod i rym ar 1 Hydref 2021

2.  Y diwrnod penodedig i adran 1 o Ddeddf Diogelwch Tân 2021 ddod i rym yw 1 Hydref 2021.

Hannah Blythyn

Y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

27 Medi 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn dwyn i rym adran 1 o Ddeddf Diogelwch Tân 2021 (“y Ddeddf”) mewn perthynas â mangreoedd yng Nghymru.

Mae adran 1 o’r Ddeddf yn gwneud diwygiadau i erthygl 6 (cymhwysiad i fangreoedd) o Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 (O.S. 2005/1541). Mae adran 4 o’r Ddeddf yn cynnwys y darpariaethau cychwyn.