Cymuned Porthcawl: newidiadau i ffiniau wardiau cymunedol6.
Yng nghymuned Porthcawl—
(a)
mae’r rhan o ward Notais a ddangosir â llinellau ar Fap 5 wedi ei throsglwyddo i ward Rest Bay;
(b)
mae’r rhan o ward Rest Bay a ddangosir â llinellau ar Fap 6 wedi ei throsglwyddo i ward Canol Gorllewin Porthcawl;
(c)
mae’r rhan o ward Drenewydd a ddangosir â chroeslinellau ar Fap 7 wedi ei throsglwyddo i ward Canol Dwyrain Porthcawl;
(d)
mae’r rhan o ward Canol Gorllewin Porthcawl a ddangosir â llinellau ar Fap 7 wedi ei throsglwyddo i ward Canol Dwyrain Porthcawl.