2021 Rhif 1082 (Cy. 257)
Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Trefniadau Etholiadol) 2021

Gwnaed
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)
Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru1, yn unol ag adran 36(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 20132 (“Deddf 2013”), wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru adroddiad dyddiedig Awst 2019 yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer newid a manylion ei adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Sir Gaerfyrddin.

Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y materion y cyfeirir atynt ac a nodir yn adran 37(2)(a) ac (c) o Ddeddf 2013, wedi penderfynu rhoi effaith i’r argymhellion hynny gydag addasiadau.

Yn unol ag adran 37(3) o Ddeddf 2013, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 37(1) o Ddeddf 2013.

Enwi a chychwyn

1.

(1)

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Trefniadau Etholiadol) 2021.

(2)

At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Hydref 2021.

(3)

At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 20223.
Annotations:
Commencement Information

I1Ergl. 1 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I2Ergl. 1 mewn grym ar 5.5.2022 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Dehongli

2.

Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 19764;

ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Sir Caerfyrddin;

mae unrhyw gyfeiriad at fap yn golygu un o’r 2 fap a farciwyd “Map ar gyfer Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Trefniadau Etholiadol) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau ac a labelwyd “1” a “2”, ac mae cyfeiriad at fap â rhif yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y rhif hwnnw;

os dangosir ar fap bod ffin yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;

mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag a roddir iddynt yn Rhan 3 o F1Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.

Trefniadau etholiadol ar gyfer Sir Gaerfyrddin

3.

(1)

Mae wardiau etholiadol Sir Gaerfyrddin, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.

(2)

Mae Sir Gaerfyrddin wedi ei rhannu’n 51 o wardiau etholiadol a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(3)

Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(4)

Nifer aelodau’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(5)

Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 19725.
Annotations:
Commencement Information

I5Ergl. 3 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I6Ergl. 3 mewn grym ar 5.5.2022 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Tref Llanelli: diddymu a chreu wardiau cymunedol

4.

Mae wardiau cymunedol Elli a Thyisha yn nhref Llanelli, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.

Annotations:
Commencement Information

I7Ergl. 4 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I8Ergl. 4 mewn grym ar 5.5.2022 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

5.

Mae’r cymunedau a ganlyn yn nhref Llanelli wedi eu ffurfio—

(a)

ward Elli a ddangosir â llinellau ar Fap 1;

(b)

ward Tyisha a ddangosir â llinellau ar Fap 2.

Annotations:
Commencement Information

I9Ergl. 5 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I10Ergl. 5 mewn grym ar 5.5.2022 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Tref Llanelli: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol

6.

Yn nhref Llanelli—

(a)

nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Elli yw 2;

(b)

nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Tyisha yw 4.

Annotations:
Commencement Information

I11Ergl. 6 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I12Ergl. 6 mewn grym ar 5.5.2022 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

YR ATODLENENWAU AC ARDALOEDD WARDIAU ETHOLIADOL A NIFER AELODAU’R CYNGOR

Erthygl 3

Annotations:
Commencement Information

I13Atod. mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I14Atod. mewn grym ar 5.5.2022 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Tabl

Colofn (1)

Colofn (2)

Colofn (3)

Colofn (4)

Enw Saesneg y ward etholiadol

Enw Cymraeg y ward etholiadol

Ardal y ward etholiadol

Nifer aelodau’r cyngor

Abergwili

Abergwili

Cymunedau Abergwili a Llanllawddog

1

Ammanford

Rhydaman

Cymuned Rhydaman

2

Betws

Y Betws

Cymuned y Betws

1

Bigyn

Bigyn

Ward Bigyn o dref Llanelli

3

Burry Port

Porth Tywyn

Ward Porth Tywyn o dref Pen-bre a Phorth Tywyn

2

Bynea

Bynea

Ward Bynea o gymuned Llanelli Wledig

2

Carmarthen Town North and South

Gogledd a De Tref Caerfyrddin

Wardiau’r Gogledd a’r De o gymuned Caerfyrddin

3

Carmarthen Town West

Gorllewin Tref Caerfyrddin

Ward y Gorllewin o gymuned Caerfyrddin

2

Cenarth and Llangeler

Cenarth a Llangeler

Cymunedau Cenarth, Castellnewydd Emlyn a Llangeler

2

Cilycwm

Cil-y-cwm

Cymunedau Cil-y-cwm, Cynwyl Gaeo, Llansadwrn, Llanwrda a Llan-y-crwys

1

Quarter Bach

Cwarter Bach

Cymuned Cwarter Bach

1

Cynwyl Elfed

Cynwyl Elfed

Cymunedau Bronwydd, Cynwyl Elfed a Llanpumsaint

1

Dafen and Felinfoel

Dafen a Felin-foel

Wardiau Dafen a Felin-foel o gymuned Llanelli Wledig

2

Elli

Elli

Ward Elli o dref Llanelli

1

Garnant

Y Garnant

Wardiau Pistyll-llwyd a Thwyn o gymuned Cwmaman

1

Glanamman

Glanaman

Wardiau Grenig a Thir-coed o gymuned Cwmaman

1

Glanymor

Glan-y-môr

Ward Glan-y-môr o dref Llanelli

2

Glyn

Glyn

Ward Glyn o gymuned Llanelli Wledig

1

Gorslas

Gors-las

Cymuned Gors-las

2

Hendy

Hendy

Ward Hendy o dref Llanedi

1

Hengoed

Hengoed

Ward Hengoed o gymuned Llanelli Wledig

2

Kidwelly and St Ishmael

Cydweli a Llanismel

Tref Cydweli a chymuned Llanismel

2

Laugharne Township

Lacharn

Cymunedau Eglwys Gymin, Lacharn, Llanddowror a Phentywyn

1

Llanboidy

Llanboidy

Cymunedau Cilymaenllwyd, Llanboidy a Llangynin

1

Llanddarog

Llanddarog

Cymunedau Llanarthne a Llanddarog

1

Llandeilo

Llandeilo

Cymunedau Dyffryn Cennen a Llandeilo

1

Llandovery

Llanymddyfri

Cymunedau Llanymddyfri a Llanfair-ar-y-bryn

1

Llandybie

Llandybïe

Wardiau Heol-ddu a Llandybïe o gymuned Llandybïe

2

Llanegwad

Llanegwad

Cymunedau Llanegwad, Llanfihangel Rhos-y-corn a Llanfynydd

1

Llanfihangel Aberbythych

Llanfihangel Aberbythych

Cymunedau Llanfihangel Aberbythych a Llangathen

1

Llanfihangel-ar-Arth

Llanfihangel-ar-arth

Cymunedau Llanfihangel-ar-arth a Llanllwni

1

Llangadog

Llangadog

Cymunedau Llanddeusant, Llangadog a Myddfai

1

Llangennech

Llangennech

Cymuned Llangennech

2

Llangunnor

Llangynnwr

Cymuned Llangynnwr

1

Llangyndeyrn

Llangyndeyrn

Cymunedau Llandyfaelog a Llangyndeyrn

2

Llannon

Llan-non

Cymuned Llan-non

2

Llanybydder

Llanybydder

Cymunedau Llanybydder a Phencarreg

1

Lliedi

Lliedi

Ward Lliedi o dref Llanelli

2

Llwynhendy

Llwynhendy

Ward Pemberton o gymuned Llanelli Wledig

2

Manordeilo and Salem

Maenordeilo a Salem

Cymunedau Llansawel, Maenordeilo a Salem, a Thalyllychau

1

Pembrey

Pen-bre

Ward Pen-bre o dref Pen-bre a Phorth Tywyn

2

Penygroes

Pen-y-groes

Ward Pen-y-groes o gymuned Llandybïe

1

Pontyberem

Pontyberem

Cymuned Pontyberem

1

Saron

Saron

Ward Saron o gymuned Llandybïe

2

St Clears and Llansteffan

Sanclêr a Llansteffan

Cymunedau Llan-gain, Llangynog, Llansteffan a Sanclêr

2

Swiss Valley

Swiss Valley

Ward Swiss Valley o gymuned Llanelli Wledig

1

Trelech

Tre-lech

Cymunedau Aber-nant, Llanwinio, Meidrim, Llannewydd a Merthyr, a Thre-lech a’r Betws

1

Trimsaran

Trimsaran

Cymuned Trimsaran

1

Tycroes

Tŷ-croes

Wardiau Llanedi a Thŷ-croes o gymuned Llanedi

1

Tyisha

Tyisha

Ward Tyisha o dref Llanelli

2

Whitland

Hendy-gwyn ar Daf

Cymuned Henllanfallteg a thref Hendy-gwyn ar Daf

1

NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (ׅ“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Awst 2019 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Sir Gaerfyrddin. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig lleihau nifer y wardiau etholiadol o 58 i 51, ond cynyddu nifer y cynghorwyr o 74 i 75.

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, gydag addasiadau.

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Sir Gaerfyrddin ac yn cyflwyno’r Atodlen sy’n nodi’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer Sir Gaerfyrddin.

Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn gweithredu argymhellion ynghylch newidiadau i’r trefniadau etholiadol ar gyfer tref Llanelli yn Sir Gaerfyrddin.

Mae erthygl 4 yn diddymu wardiau cymunedol Elli a Thyisha yn nhref Llanelli ac mae erthygl 5 yn creu wardiau cymunedol newydd Elli a Thyisha. Mae erthygl 6 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros y wardiau newydd eu ffurfio yn nhref Llanelli.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

Mae printiau o’r mapiau a labelwyd 1 a 2 y mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud â hwy wedi eu hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol) a chyda Chyngor Sir Caerfyrddin. Mae’r printiau sydd wedi eu hadneuo gyda Chyngor Sir Caerfyrddin yn agored i gael eu harchwilio gan unrhyw un y bydd darpariaethau’r Gorchymyn hwn yn effeithio arnynt.