NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (ׅ“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Awst 2019 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Sir Gaerfyrddin. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig lleihau nifer y wardiau etholiadol o 58 i 51, ond cynyddu nifer y cynghorwyr o 74 i 75.

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, gydag addasiadau.

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Sir Gaerfyrddin ac yn cyflwyno’r Atodlen sy’n nodi’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer Sir Gaerfyrddin.

Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn gweithredu argymhellion ynghylch newidiadau i’r trefniadau etholiadol ar gyfer tref Llanelli yn Sir Gaerfyrddin.

Mae erthygl 4 yn diddymu wardiau cymunedol Elli a Thyisha yn nhref Llanelli ac mae erthygl 5 yn creu wardiau cymunedol newydd Elli a Thyisha. Mae erthygl 6 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros y wardiau newydd eu ffurfio yn nhref Llanelli.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

Mae printiau o’r mapiau a labelwyd 1 a 2 y mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud â hwy wedi eu hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol) a chyda Chyngor Sir Caerfyrddin. Mae’r printiau sydd wedi eu hadneuo gyda Chyngor Sir Caerfyrddin yn agored i gael eu harchwilio gan unrhyw un y bydd darpariaethau’r Gorchymyn hwn yn effeithio arnynt.