Search Legislation

Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Trefniadau Etholiadol) 2021

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 1082 (Cy. 257)

Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Trefniadau Etholiadol) 2021

Gwnaed

22 Medi 2021

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)

Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru(1), yn unol ag adran 36(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013(2) (“Deddf 2013”), wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru adroddiad dyddiedig Awst 2019 yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer newid a manylion ei adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Sir Gaerfyrddin.

Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y materion y cyfeirir atynt ac a nodir yn adran 37(2)(a) ac (c) o Ddeddf 2013, wedi penderfynu rhoi effaith i’r argymhellion hynny gydag addasiadau.

Yn unol ag adran 37(3) o Ddeddf 2013, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 37(1) o Ddeddf 2013.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Trefniadau Etholiadol) 2021.

(2At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Hydref 2021.

(3At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022(3).

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(4);

ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Sir Caerfyrddin;

mae unrhyw gyfeiriad at fap yn golygu un o’r 2 fap a farciwyd “Map ar gyfer Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Trefniadau Etholiadol) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau ac a labelwyd “1” a “2”, ac mae cyfeiriad at fap â rhif yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y rhif hwnnw;

os dangosir ar fap bod ffin yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;

mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag a roddir iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.

Trefniadau etholiadol ar gyfer Sir Gaerfyrddin

3.—(1Mae wardiau etholiadol Sir Gaerfyrddin, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.

(2Mae Sir Gaerfyrddin wedi ei rhannu’n 51 o wardiau etholiadol a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(3Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(4Nifer aelodau’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(5Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(5).

Tref Llanelli: diddymu a chreu wardiau cymunedol

4.  Mae wardiau cymunedol Elli a Thyisha yn nhref Llanelli, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.

5.  Mae’r cymunedau a ganlyn yn nhref Llanelli wedi eu ffurfio—

(a)ward Elli a ddangosir â llinellau ar Fap 1;

(b)ward Tyisha a ddangosir â llinellau ar Fap 2.

Tref Llanelli: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol

6.  Yn nhref Llanelli—

(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Elli yw 2;

(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Tyisha yw 4.

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

22 Medi 2021

Erthygl 3

YR ATODLENENWAU AC ARDALOEDD WARDIAU ETHOLIADOL A NIFER AELODAU’R CYNGOR

Tabl

Colofn (1)Colofn (2)Colofn (3)Colofn (4)
Enw Saesneg y ward etholiadolEnw Cymraeg y ward etholiadolArdal y ward etholiadolNifer aelodau’r cyngor
AbergwiliAbergwiliCymunedau Abergwili a Llanllawddog1
AmmanfordRhydamanCymuned Rhydaman2
BetwsY BetwsCymuned y Betws1
BigynBigynWard Bigyn o dref Llanelli3
Burry PortPorth TywynWard Porth Tywyn o dref Pen-bre a Phorth Tywyn2
ByneaByneaWard Bynea o gymuned Llanelli Wledig2
Carmarthen Town North and SouthGogledd a De Tref CaerfyrddinWardiau’r Gogledd a’r De o gymuned Caerfyrddin3
Carmarthen Town WestGorllewin Tref CaerfyrddinWard y Gorllewin o gymuned Caerfyrddin2
Cenarth and LlangelerCenarth a LlangelerCymunedau Cenarth, Castellnewydd Emlyn a Llangeler2
CilycwmCil-y-cwmCymunedau Cil-y-cwm, Cynwyl Gaeo, Llansadwrn, Llanwrda a Llan-y-crwys1
Quarter BachCwarter BachCymuned Cwarter Bach1
Cynwyl ElfedCynwyl ElfedCymunedau Bronwydd, Cynwyl Elfed a Llanpumsaint1
Dafen and FelinfoelDafen a Felin-foelWardiau Dafen a Felin-foel o gymuned Llanelli Wledig2
ElliElliWard Elli o dref Llanelli1
GarnantY GarnantWardiau Pistyll-llwyd a Thwyn o gymuned Cwmaman1
GlanammanGlanamanWardiau Grenig a Thir-coed o gymuned Cwmaman1
GlanymorGlan-y-môrWard Glan-y-môr o dref Llanelli2
GlynGlynWard Glyn o gymuned Llanelli Wledig1
GorslasGors-lasCymuned Gors-las2
HendyHendyWard Hendy o dref Llanedi1
HengoedHengoedWard Hengoed o gymuned Llanelli Wledig2
Kidwelly and St IshmaelCydweli a LlanismelTref Cydweli a chymuned Llanismel2
Laugharne TownshipLacharnCymunedau Eglwys Gymin, Lacharn, Llanddowror a Phentywyn1
LlanboidyLlanboidyCymunedau Cilymaenllwyd, Llanboidy a Llangynin1
LlanddarogLlanddarogCymunedau Llanarthne a Llanddarog1
LlandeiloLlandeiloCymunedau Dyffryn Cennen a Llandeilo1
LlandoveryLlanymddyfriCymunedau Llanymddyfri a Llanfair-ar-y-bryn1
LlandybieLlandybïeWardiau Heol-ddu a Llandybïe o gymuned Llandybïe2
LlanegwadLlanegwadCymunedau Llanegwad, Llanfihangel Rhos-y-corn a Llanfynydd1
Llanfihangel AberbythychLlanfihangel AberbythychCymunedau Llanfihangel Aberbythych a Llangathen1
Llanfihangel-ar-ArthLlanfihangel-ar-arthCymunedau Llanfihangel-ar-arth a Llanllwni1
LlangadogLlangadogCymunedau Llanddeusant, Llangadog a Myddfai1
LlangennechLlangennechCymuned Llangennech2
LlangunnorLlangynnwrCymuned Llangynnwr1
LlangyndeyrnLlangyndeyrnCymunedau Llandyfaelog a Llangyndeyrn2
LlannonLlan-nonCymuned Llan-non2
LlanybydderLlanybydderCymunedau Llanybydder a Phencarreg1
LliediLliediWard Lliedi o dref Llanelli2
LlwynhendyLlwynhendyWard Pemberton o gymuned Llanelli Wledig2
Manordeilo and SalemMaenordeilo a SalemCymunedau Llansawel, Maenordeilo a Salem, a Thalyllychau1
PembreyPen-breWard Pen-bre o dref Pen-bre a Phorth Tywyn2
PenygroesPen-y-groesWard Pen-y-groes o gymuned Llandybïe1
PontyberemPontyberemCymuned Pontyberem1
SaronSaronWard Saron o gymuned Llandybïe2
St Clears and LlansteffanSanclêr a LlansteffanCymunedau Llan-gain, Llangynog, Llansteffan a Sanclêr2
Swiss ValleySwiss ValleyWard Swiss Valley o gymuned Llanelli Wledig1
TrelechTre-lechCymunedau Aber-nant, Llanwinio, Meidrim, Llannewydd a Merthyr, a Thre-lech a’r Betws1
TrimsaranTrimsaranCymuned Trimsaran1
TycroesTŷ-croesWardiau Llanedi a Thŷ-croes o gymuned Llanedi1
TyishaTyishaWard Tyisha o dref Llanelli2
WhitlandHendy-gwyn ar DafCymuned Henllanfallteg a thref Hendy-gwyn ar Daf1

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (ׅ“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Awst 2019 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Sir Gaerfyrddin. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig lleihau nifer y wardiau etholiadol o 58 i 51, ond cynyddu nifer y cynghorwyr o 74 i 75.

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, gydag addasiadau.

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Sir Gaerfyrddin ac yn cyflwyno’r Atodlen sy’n nodi’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer Sir Gaerfyrddin.

Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn gweithredu argymhellion ynghylch newidiadau i’r trefniadau etholiadol ar gyfer tref Llanelli yn Sir Gaerfyrddin.

Mae erthygl 4 yn diddymu wardiau cymunedol Elli a Thyisha yn nhref Llanelli ac mae erthygl 5 yn creu wardiau cymunedol newydd Elli a Thyisha. Mae erthygl 6 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros y wardiau newydd eu ffurfio yn nhref Llanelli.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

Mae printiau o’r mapiau a labelwyd 1 a 2 y mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud â hwy wedi eu hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol) a chyda Chyngor Sir Caerfyrddin. Mae’r printiau sydd wedi eu hadneuo gyda Chyngor Sir Caerfyrddin yn agored i gael eu harchwilio gan unrhyw un y bydd darpariaethau’r Gorchymyn hwn yn effeithio arnynt.

(1)

Sefydlwyd y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru gan adran 53 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) (“Deddf 1972”) ac Atodlen 8 iddi. Diddymwyd adran 53 ac Atodlen 8 gan adran 73(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4) (“Deddf 2013”) ac Atodlen 2 iddi. Mae Deddf 2013 yn ailenwi’r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yn Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (gweler adran 2).

(3)

Mae Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1269 (Cy. 220)) yn diwygio adran 26(1) o Ddeddf 1972 i ddarparu y bydd etholiadau cyffredin cynghorwyr awdurdodau lleol yn cael eu cynnal yn y flwyddyn 2022 yn hytrach na 2021.

(4)

O.S. 1976/246. Mae adran 74(3) o Ddeddf 2013 yn darparu bod y Rheoliadau yn parhau i gael effaith mewn perthynas â gorchmynion a wnaed o dan Ran 3 o Ddeddf 2013, fel pe bai’r gorchmynion hynny wedi eu gwneud o dan Ran 4 o Ddeddf 1972.

(5)

1972 p. 70; diddymwyd adran 58 o Ddeddf 1972 gan adran 73(2) o Ddeddf 2013 ac Atodlen 2 iddi, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau arbed a bennir yn adran 74 o Ddeddf 2013.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources