xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 1075 (Cy. 254)

Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Dinas a Sir Abertawe (Trefniadau Etholiadol) 2021

Gwnaed

22 Medi 2021

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)

Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru(1), yn unol ag adran 36(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013(2) (“Deddf 2013”), wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru adroddiad dyddiedig Mawrth 2020 yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer newid a manylion ei adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Dinas a Sir Abertawe.

Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y materion y cyfeirir atynt ac a nodir yn adran 37(2)(a) ac (c) o Ddeddf 2013, wedi penderfynu rhoi effaith i’r argymhellion hynny gydag addasiadau.

Yn unol ag adran 37(3) o Ddeddf 2013, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 37(1) o Ddeddf 2013.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dinas a Sir Abertawe (Trefniadau Etholiadol) 2021.

(2At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Hydref 2021.

(3At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022(3).

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(4);

ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Dinas a Sir Abertawe;

mae unrhyw gyfeiriad at fap yn golygu un o’r 6 map a farciwyd “Map ar gyfer Gorchymyn Dinas a Sir Abertawe (Trefniadau Etholiadol) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau ac a labelwyd “1” i “6”, ac mae cyfeiriad at fap â rhif yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y rhif hwnnw;

os dangosir ar fap bod ffin yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;

mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag a roddir iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.

Trefniadau etholiadol ar gyfer Dinas a Sir Abertawe

3.—(1Mae wardiau etholiadol Dinas a Sir Abertawe, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.

(2Mae Dinas a Sir Abertawe wedi ei rhannu’n 32 o wardiau etholiadol a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(3Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(4Nifer aelodau’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(5Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(5).

Diddymu cymuned y Cocyd a chreu cymunedau y Cocyd a Waunarlwydd

4.  Mae cymuned y Cocyd, fel y mae’n bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi ei diddymu.

5.  Mae’r cymunedau a ganlyn wedi eu ffurfio—

(a)cymuned y Cocyd a ddangosir â llinellau ar fap 1;

(b)cymuned Waunarlwydd a ddangosir â llinellau ar fap 2.

Diddymu cymunedau y Castell a St Thomas a chreu cymunedau y Castell, St Thomas, a’r Glannau

6.  Mae cymunedau y Castell a St Thomas, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.

7.  Mae’r cymunedau a ganlyn wedi eu ffurfio—

(a)cymuned y Castell a ddangosir â llinellau ar fap 3;

(b)cymuned St Thomas a ddangosir â llinellau ar fap 4;

(c)cymuned y Glannau a ddangosir â llinellau ar fap 5.

Cymuned y Mwmbwls: newidiadau i wardiau cymunedol

8.  Mae’r rhan o ward West Cross o gymuned y Mwmbwls a ddangosir â llinellau ar fap 6 wedi ei throsglwyddo i ward Newton o gymuned y Mwmbwls.

Mark Drakeford

Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru

22 Medi 2021

Erthygl 3

YR ATODLENENWAU AC ARDALOEDD WARDIAU ETHOLIADOL A NIFER AELODAU’R CYNGOR

Tabl

Colofn (1)Colofn (2)Colofn (3)Colofn (4)
Enw Saesneg y ward etholiadolEnw Cymraeg y ward etholiadolArdal y ward etholiadolNifer aelodau’r cyngor
BishopstonLlandeilo FerwalltCymuned Llandeilo Ferwallt1
Bôn-y-maenBôn-y-maenCymuned Bôn-y-maen2
CastleY CastellCymuned y Castell4
ClydachClydachCymuned Clydach a ward Craig-cefn-parc o gymuned Mawr3
CockettY CocydCymuned y Cocyd3
CwmbwrlaCwmbwrlaCymuned Cwmbwrla3
Dunvant and KillayDyfnant a ChilâCymunedau Dyfnant a Chilâ3
FairwoodFairwoodCymunedau y Crwys a Chilâ Uchaf1
Gorseinon and PenyrheolGorseinon a PhenyrheolCymuned Gorseinon a chymuned Pengelli a Waun-gron3
GowerGŵyrCymuned Llangynydd a chymunedau Llanmadog a Cheriton, Llanrhidian Isaf, Pen-rhys, Portheinon, Reynoldston, a Rhosili1
GowertonTregŵyrCymuned Tregŵyr2
LandoreGlandŵrCymuned Glandŵr2
LlangyfelachLlangyfelachCymuned Llangyfelach a ward Felindre o gymuned Mawr1
LlansamletLlansamletCymuned Llansamlet4
LlwchwrLlwchwrCymuned Llwchwr3
MayalsMayalsWard Mayals o gymuned y Mwmbwls1
MorristonTreforysCymuned Treforys5
MumblesY MwmbwlsWardiau Newton ac Ystumllwynarth o gymuned y Mwmbwls3
Mynydd-bachMynydd-bachCymuned Mynydd-bach3
Pen-clawddPen-clawddCymuned Llanrhidian Uchaf1
PenderryPenderiCymuned Penderi3
PenllergaerPenlle’r-gaerCymuned Penlle’r-gaer1
PennardPennardCymunedau Pennard a Llanilltud Gŵyr1
PontarddulaisPontarddulaisCymuned Pontarddulais a ward Garn-swllt o gymuned Mawr2
Pontlliw and TircoedPont-lliw a Thir-coedCymuned Pont-lliw a Thir-coed1
SkettySgetiCymuned Sgeti5
St ThomasSt ThomasCymuned St Thomas2
TownhillTownhillCymuned Townhill3
UplandsUplandsCymuned Uplands4
WaterfrontY GlannauCymuned y Glannau1
WaunarlwyddWaunarlwyddCymuned Waunarlwydd1
West CrossWest CrossWard West Cross o gymuned y Mwmbwls2

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (ׅ“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Mawrth 2020 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Dinas a Sir Abertawe. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig lleihau nifer y wardiau etholiadol o 36 i 32, ond cynyddu nifer y cynghorwyr o 72 i 75.

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, gydag addasiadau.

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Dinas a Sir Abertawe ac yn cyflwyno’r Atodlen sy’n nodi’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer Dinas a Sir Abertawe.

Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn gweithredu argymhellion ynghylch newidiadau i ffiniau cymunedol a threfniadau etholiadol ar gyfer rhai cymunedau yn Ninas a Sir Abertawe.

Mae erthygl 4 yn diddymu cymuned bresennol y Cocyd, ac mae erthygl 5 yn creu cymunedau newydd y Cocyd a Waunarlwydd.

Mae erthygl 6 yn diddymu cymunedau presennol y Castell a St Thomas ac mae erthygl 7 yn creu cymunedau newydd y Castell, St Thomas, a’r Glannau.

Mae erthygl 8 yn gwneud newidiadau i’r ffin rhwng wardiau cymunedol West Cross a Newton yng nghymuned y Mwmbwls.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

Mae printiau o’r mapiau a labelwyd 1 i 6 y mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud â hwy wedi eu hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol), a chyda Chyngor Abertawe. Mae’r printiau sydd wedi eu hadneuo gyda Chyngor Abertawe yn agored i gael eu harchwilio gan unrhyw un y bydd darpariaethau’r Gorchymyn hwn yn effeithio arnynt.

(1)

Sefydlwyd y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru gan adran 53 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) (“Deddf 1972”) ac Atodlen 8 iddi. Diddymwyd adran 53 ac Atodlen 8 gan adran 73(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4) (“Deddf 2013”) ac Atodlen 2 iddi. Mae Deddf 2013 yn ailenwi’r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yn Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (gweler adran 2).

(3)

Mae Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1269 (Cy. 220)) yn diwygio adran 26(1) o Ddeddf 1972 i ddarparu y bydd etholiadau cyffredin cynghorwyr awdurdodau lleol yn cael eu cynnal yn y flwyddyn 2022 yn hytrach na 2021.

(4)

O.S. 1976/246. Mae adran 74(3) o Ddeddf 2013 yn darparu bod y Rheoliadau yn parhau i gael effaith mewn perthynas â gorchmynion a wnaed o dan Ran 3 o Ddeddf 2013, fel pe bai’r gorchmynion hynny wedi eu gwneud o dan Ran 4 o Ddeddf 1972.

(5)

1972 p. 70; diddymwyd adran 58 o Ddeddf 1972 gan adran 73(2) o Ddeddf 2013 ac Atodlen 2 iddi, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau arbed a bennir yn adran 74 o Ddeddf 2013.