NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau yn Neddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (“y Ddeddf”).

Daw’r darpariaethau a restrir yn erthygl 2 i rym yn llawn ar 29 Medi 2021. Mae’r darpariaethau hyn yn nodi’r cysyniadau sylfaenol sy’n cael effaith mewn perthynas â’r cwricwlwm.

Daw’r darpariaethau a restrir yn erthygl 3 i rym ar 29 Medi 2021 ond dim ond at ddibenion dyroddi neu ddiwygio cod o dan adran 6 (Cod yr Hyn sy’n Bwysig) ac adran 7 (y Cod Cynnydd) o’r Ddeddf.

Daw’r ddarpariaeth a restrir yn erthygl 4 i rym ar 23 Tachwedd 2021 ond dim ond at ddibenion dyroddi neu ddiwygio cod o dan adran 8 o’r Ddeddf (y Cod ACRh).