Gorchymyn Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Cychwyn Rhif 1) 2021
Enwi a dehongli1.
(1)
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Cychwyn Rhif 1) 2021.
(2)
Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 29 Medi 20212.
Daw adrannau 1 i 5 o’r Ddeddf i rym ar 29 Medi 2021.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 29 Medi 2021 at ddibenion dyroddi neu ddiwygio cod o dan adrannau 6 a 7 o’r Ddeddf3.
Ni ddaw adrannau 6 a 7 o’r Ddeddf i rym ar 29 Medi 2021 ond at ddibenion dyroddi neu ddiwygio cod o dan yr adrannau hynny.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 23 Tachwedd 2021 at ddibenion dyroddi neu ddiwygio cod o dan adran 8 o’r Ddeddf4.
Ni ddaw adran 8 o’r Ddeddf i rym ar 23 Tachwedd 2021 ond at ddibenion dyroddi neu ddiwygio cod o dan yr adran honno.
Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau yn Neddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (“y Ddeddf”).
Daw’r darpariaethau a restrir yn erthygl 2 i rym yn llawn ar 29 Medi 2021. Mae’r darpariaethau hyn yn nodi’r cysyniadau sylfaenol sy’n cael effaith mewn perthynas â’r cwricwlwm.
Daw’r darpariaethau a restrir yn erthygl 3 i rym ar 29 Medi 2021 ond dim ond at ddibenion dyroddi neu ddiwygio cod o dan adran 6 (Cod yr Hyn sy’n Bwysig) ac adran 7 (y Cod Cynnydd) o’r Ddeddf.
Daw’r ddarpariaeth a restrir yn erthygl 4 i rym ar 23 Tachwedd 2021 ond dim ond at ddibenion dyroddi neu ddiwygio cod o dan adran 8 o’r Ddeddf (y Cod ACRh).