Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Atal Dros Dro: Cludo, Storio a Gwaredu Cyrff Meirw etc) (Cymru) 2021
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod yr amodau a bennir yn adran 88(9) o’r Ddeddf honno wedi eu bodloni mewn perthynas â’r darpariaethau a atelir dros dro gan y Rheoliadau hyn.
Enwi, cychwyn a dehongli1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Atal Dros Dro: Cludo, Storio a Gwaredu Cyrff Meirw etc) (Cymru) 2021.
(2)
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 24 Medi 2021.
(3)
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Deddf 2020” yw Deddf y Coronafeirws 2020.
Atal dros dro ddarpariaethau o dan Ddeddf 2020 mewn perthynas â Chludo, Storio a Gwaredu Cyrff Meirw2.
Mae gweithrediad y darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2020 wedi ei atal dros dro—
(a)
adran 58 (pwerau mewn perthynas â chludo, storio a gwaredu cyrff meirw etc) i’r graddau y mae’n ymwneud â Rhannau 2, 3 a 4 o Atodlen 28;
(b)
Rhannau 2, 3 a 4 o Atodlen 28 (cludo, storio a gwaredu cyrff meirw etc).
Mae’r Rheoliadau hyn yn atal dros dro ddarpariaethau penodol yn Neddf y Coronafeirws 2020 (“Deddf 2020”) sy’n rhoi pwerau i awdurdodau cenedlaethol priodol ynghylch cludo, storio a gwaredu cyrff meirw.
Mae rheoliad 2 yn darparu ar gyfer atal dros dro weithrediad adran 58 o Ddeddf 2020 ac Atodlen 28 iddi (pwerau mewn perthynas â chludo, storio a gwaredu cyrff meirw etc).
Mae atal dros dro weithrediad y darpariaethau hyn yn golygu nad ydynt yn cael effaith yng Nghymru mwyach ond bod modd eu hadfer ar ddyddiad diweddarach o dan adran 88(3) o Ddeddf 2020.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.