NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn atal dros dro ddarpariaethau penodol yn Neddf y Coronafeirws 2020 (“Deddf 2020”) sy’n rhoi pwerau i awdurdodau cenedlaethol priodol ynghylch cludo, storio a gwaredu cyrff meirw.

Mae rheoliad 2 yn darparu ar gyfer atal dros dro weithrediad adran 58 o Ddeddf 2020 ac Atodlen 28 iddi (pwerau mewn perthynas â chludo, storio a gwaredu cyrff meirw etc).

Mae atal dros dro weithrediad y darpariaethau hyn yn golygu nad ydynt yn cael effaith yng Nghymru mwyach ond bod modd eu hadfer ar ddyddiad diweddarach o dan adran 88(3) o Ddeddf 2020.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.