2021 Rhif 103 (Cy. 28)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021

Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 19841.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

Enwi a dod i rym1.

(1)

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021.

(2)

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Ionawr 2021.

Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 20202.

(1)

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 20202 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn rheoliad 16(4)(a), hepgorer “and by Part II of the Fire Precautions (Workplace) Regulations 1997”.

(3)

Ym mharagraff 3 o Atodlen 1—

(a)

yn is-baragraff (4), ar ôl “1 aelwyd estynedig” mewnosoder “ar unrhyw un adeg”;

(b)

yn is-baragraff (6), yn y testun Saesneg, yn lle “being in” rhodder “part of” yn y ddau le y mae’n digwydd;

(c)

yn is-baragraff (7)—

(i)

yn y testun Saesneg, yn lle “being in” rhodder “part of” yn y ddau le y mae’n digwydd;

(ii)

ar ôl “unrhyw aelwyd arall” mewnosoder “oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag unrhyw aelod o aelwyd arall gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig â’r aelwyd honno”.

(4)

Ym mharagraff 3 o Atodlen 2—

(a)

yn is-baragraff (4), ar ôl “1 aelwyd estynedig” mewnosoder “ar unrhyw un adeg”;

(b)

yn lle is-baragraff (5) rhodder—

“(5)

Pan fo aelwyd wedi cytuno i gael ei thrin fel aelwyd estynedig ag aelwydydd eraill o dan baragraff 3 o Atodlen 1 (“yr aelwyd estynedig flaenorol”), dim ond â’r aelwydydd eraill hynny y caiff wneud cytundeb o dan y paragraff hwn, oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag aelod o’r aelwydydd hynny gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig flaenorol.”;

(c)

yn is-baragraff (7), yn y testun Saesneg, yn lle “being in” rhodder “part of” yn y ddau le y mae’n digwydd;

(d)

yn is-baragraff (8)—

(5)

Ym mharagraff 3 o Atodlen 3—

(6)

Yn Atodlen 4—

(a)

ym mharagraff 1(4)(f)—

(i)

ym mharagraff (ii), hepgorer “neu” yn yr ail le y mae’n digwydd;

(ii)

ym mharagraff (iii), yn lle “;” rhodder “, neu”;

(iii)

ar ôl paragraff (iii) mewnosoder—

“(iv)

gydag 1 person arall nad yw’n aelod o aelwyd neu aelwyd estynedig y person nac yn ofalwr y person, ac unrhyw blant o dan 11 oed sy’n aelodau o aelwyd y naill berson neu’r llall;”;”

(b)

ym mharagraff 2(4), ar y diwedd mewnosoder—

“(i)

gwneud ymarfer corff yn yr awyr agored, ac eithrio mewn annedd breifat—

(i)

gydag aelodau o aelwyd estynedig y person, neu

(ii)

gydag 1 person arall ac unrhyw blant o dan 11 oed sy’n aelodau o aelwyd y naill berson neu’r llall,

ynghyd ag unrhyw ofalwr i berson sy’n cymryd rhan sy’n bresennol.”;

(c)

ym mharagraff 3—

(i)

yn is-baragraff (3), ar ôl “1 aelwyd estynedig” mewnosoder “ar unrhyw un adeg”;

(ii)

yn is-baragraff (4), yn y geiriau ar ôl paragraff (b)(ii)—

(aa)

o flaen “dim ond” mewnosoder “(“yr aelwyd estynedig flaenorol”),”;

(bb)

ar ôl “y paragraff hwn” mewnosoder “oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd un oedolyn gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag aelod o’r aelwydydd hynny gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig flaenorol”;

(iii)

yn is-baragraff (5), yn y testun Saesneg, yn lle “being in” rhodder “part of” yn y ddau le y mae’n digwydd;

(iv)

yn is-baragraff (6)—

(aa)

yn y testun Saesneg, yn lle “being in” rhodder “part of” yn y ddau le y mae’n digwydd;

(bb)

ar ôl “unrhyw aelwyd arall” mewnosoder “oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag unrhyw aelod o aelwyd arall gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig â’r aelwyd honno”;

(d)

ar ôl paragraff 62 mewnosoder—

“62A.

Golchfeydd ceir awtomatig.”

Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y Rheoliadau Cyfyngiadau”) er mwyn—

(a)

caniatáu i berson sy’n byw mewn ardal Lefel Rhybudd 4 (sy’n cynnwys Cymru gyfan ar hyn o bryd) ymadael â’r man lle y mae’n byw i wneud ymarfer corff gydag 1 person arall (mae hyn yn ychwanegol at y ddarpariaeth bresennol sy’n caniatáu i berson ymadael â’i gartref i wneud ymarfer corff gydag aelod o aelwyd neu aelwyd estynedig y person neu ofalwr y person);

(b)

darparu y caiff golchfeydd ceir awtomatig barhau i fod ar agor mewn ardal Lefel Rhybudd 4;

(c)

ym mhob Lefel Rhybudd, caniatáu i aelwyd sydd wedi peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig ffurfio aelwyd estynedig newydd, ar yr amod bod o leiaf 10 niwrnod wedi mynd heibio ers i unrhyw aelod o’r aelwyd gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag aelod o unrhyw aelwyd arall yn yr aelwyd estynedig flaenorol;

(d)

gwneud newidiadau canlyniadol a mân newidiadau eraill i sicrhau cysondeb â’r darpariaethau newydd.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.