Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2021
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1.
(1)
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2021 a daw i rym ar 30 Medi 2021.
(2)
Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys i athrawon ysgol yng Nghymru.
(3)
Yn y Gorchymyn hwn—
mae i “athro neu athrawes ysgol” yr ystyr a roddir i “school teacher” gan adran 122(3) i (6) o Ddeddf Addysg 2002;
Y Ddogfen2.
Mae’r darpariaethau a nodir yn adran 2 o’r Ddogfen yn cael effaith ar ac ar ôl 1 Medi 2021 at ddibenion penderfynu—
(a)
y tâl ar gyfer athrawon ysgol, a
(b)
amodau cyflogaeth eraill ar gyfer athrawon ysgol sy’n ymwneud â’u dyletswyddau proffesiynol a’u hamser gweithio.
Dirymu3.
Mae’r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer penderfynu’r tâl ar gyfer athrawon ysgol (o fewn ystyr adran 122 o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32)) yng Nghymru ac amodau cyflogaeth eraill ar gyfer athrawon ysgol yng Nghymru sy’n ymwneud â’u dyletswyddau proffesiynol a’u hamser gweithio.
Mae’r Gorchymyn yn gwneud y ddarpariaeth hon drwy gyfeirio at adran 2 o ddogfen o’r enw “Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2021 a chanllawiau ar gyflog ac amodau athrawon ysgol” (“y Ddogfen”). Gellir canfod y Ddogfen ar wefan Llywodraeth Cymru: www.llyw.cymru.
Mae’r Gorchymyn yn gwneud darpariaeth ôl-weithredol, o dan adran 123(3) o Ddeddf Addysg 2002, er mwyn darparu bod y darpariaethau a nodir yn adran 2 o’r Ddogfen yn cael effaith ar ac ar ôl 1 Medi 2021 er bod y Gorchymyn yn dod i rym ar ôl y dyddiad hwnnw (erthygl 2).
Mae’r Gorchymyn yn dirymu Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2020 (erthygl 3).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Uned Strategaeth y Gweithlu, Yr Is-adran Effeithiolrwydd Ysgolion, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.