Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1.

(1)

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2021 a daw i rym ar 30 Medi 2021.

(2)

Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys i athrawon ysgol yng Nghymru.

(3)

Yn y Gorchymyn hwn—

mae i “athro neu athrawes ysgol” yr ystyr a roddir i “school teacher” gan adran 122(3) i (6) o Ddeddf Addysg 2002;

ystyr “y Ddogfen” (“the Document”) yw’r ddogfen o’r enw “Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2021 a chanllawiau ar gyflog ac amodau athrawon ysgol” ac a gyhoeddir ar wefan llyw.cymru4.