xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Bwyd, Cymru
Gwnaed
4 Ionawr 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
5 Ionawr 2021
Yn dod i rym
6 Ionawr 2021
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraff 11A(1) o Atodlen 2 i Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru a deuant i rym ar 6 Ionawr 2021.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 6.1.2021, gweler rhl. 1(2)
2. Yn Erthygl 1(1) o Benderfyniad y Comisiwn 2000/572/EC dyddiedig 8 Medi 2000 sy’n gosod yr amodau iechyd anifeiliaid a’r cyhoedd ac ardystio milfeddygol ar gyfer mewnforio paratoadau cig i’r Gymuned o drydydd gwledydd(2) (‘Penderfyniad y Comisiwn’), ar ôl “meat preparations” mewnosoder “from third countries”.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 2 mewn grym ar 6.1.2021, gweler rhl. 1(2)
F13. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F1Rhl. 3 wedi ei dirymu (28.4.2024) gan Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio) (Cymru) 2024 (O.S. 2024/502), rhlau. 1(2), 3(a)
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
4 Ionawr 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Gwneir y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraff 11A(1) o Atodlen 2 i Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 (O.S. 2011/2379 (Cy. 252)).
Mae Rheoliad 2 yn diwygio Erthygl 1 o Benderfyniad y Comisiwn 2000/572/EC dyddiedig 8 Medi 2000 sy’n gosod yr amodau iechyd anifeiliaid a’r cyhoedd ac ardystio milfeddygol ar gyfer mewnforio paratoadau cig i’r Gymuned o drydydd gwledydd er mwyn egluro bod y Penderfyniad hwn yn gymwys i fewnforion i Gymru o drydydd gwledydd fel y’u diffinnir yn Erthygl 1(2) o’r Penderfyniad hwnnw.
Mae Rheoliad 3 yn atal dros dro y gofyniad i baratoadau cig a fewnforir i Gymru o sefydliadau a leolir yn Aelod-wladwriaethau’r AEE, Ynysoedd Ffaröe, Kalaallit Nunaat (Greenland) neu’r Swistir fod wedi’u rhewi’n ddwfn.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
>O.S. 2011/2379 (Cy. 252). Mewnosodir paragraff 11A o Atodlen 2 gan reoliad 2(2) o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1639 (Cy. 344)).
>Diwygir EUDN 2000/572/EC gan reoliad 40 o Reoliadau Mewnforio a Masnachu Cynhyrchion Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1462). Ailrifir Erthygl 1(1) felly, a mewnosodir y diffiniad o ‘third country’ gan reoliad 40(2) o’r Rheoliadau hynny.