2021 Rhif 1 (Cy. 1)
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Bwyd, Cymru

Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraff 11A(1) o Atodlen 2 i Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 20111, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cymhwyso a chychwyn1.

(1)

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021.

(2)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru a deuant i rym ar 6 Ionawr 2021.

Annotations:
Commencement Information

I1Rhl. 1 mewn grym ar 6.1.2021, gweler rhl. 1(2)

Diwygio Penderfyniad y Comisiwn 2000/572/EC2.

Yn Erthygl 1(1) o Benderfyniad y Comisiwn 2000/572/EC dyddiedig 8 Medi 2000 sy’n gosod yr amodau iechyd anifeiliaid a’r cyhoedd ac ardystio milfeddygol ar gyfer mewnforio paratoadau cig i’r Gymuned o drydydd gwledydd2 (‘Penderfyniad y Comisiwn’), ar ôl “meat preparations” mewnosoder “from third countries”.
Annotations:
Commencement Information

I2Rhl. 2 mewn grym ar 6.1.2021, gweler rhl. 1(2)

Addasiadau darfodol i Benderfyniad y Comisiwn 2000/572/ECF13.

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Gwneir y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraff 11A(1) o Atodlen 2 i Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 (O.S. 2011/2379 (Cy. 252)).

Mae Rheoliad 2 yn diwygio Erthygl 1 o Benderfyniad y Comisiwn 2000/572/EC dyddiedig 8 Medi 2000 sy’n gosod yr amodau iechyd anifeiliaid a’r cyhoedd ac ardystio milfeddygol ar gyfer mewnforio paratoadau cig i’r Gymuned o drydydd gwledydd er mwyn egluro bod y Penderfyniad hwn yn gymwys i fewnforion i Gymru o drydydd gwledydd fel y’u diffinnir yn Erthygl 1(2) o’r Penderfyniad hwnnw.

Mae Rheoliad 3 yn atal dros dro y gofyniad i baratoadau cig a fewnforir i Gymru o sefydliadau a leolir yn Aelod-wladwriaethau’r AEE, Ynysoedd Ffaröe, Kalaallit Nunaat (Greenland) neu’r Swistir fod wedi’u rhewi’n ddwfn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.