(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Gwneir y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraff 11A(1) o Atodlen 2 i Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 (O.S. 2011/2379 (Cy. 252)).
Mae Rheoliad 2 yn diwygio Erthygl 1 o Benderfyniad y Comisiwn 2000/572/EC dyddiedig 8 Medi 2000 sy’n gosod yr amodau iechyd anifeiliaid a’r cyhoedd ac ardystio milfeddygol ar gyfer mewnforio paratoadau cig i’r Gymuned o drydydd gwledydd er mwyn egluro bod y Penderfyniad hwn yn gymwys i fewnforion i Gymru o drydydd gwledydd fel y’u diffinnir yn Erthygl 1(2) o’r Penderfyniad hwnnw.
Mae Rheoliad 3 yn atal dros dro y gofyniad i baratoadau cig a fewnforir i Gymru o sefydliadau a leolir yn Aelod-wladwriaethau’r AEE, Ynysoedd Ffaröe, Kalaallit Nunaat (Greenland) neu’r Swistir fod wedi’u rhewi’n ddwfn.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.