Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021
Enwi, cymhwyso a chychwyn1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021.
(2)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru a deuant i rym ar 6 Ionawr 2021.
Diwygio Penderfyniad y Comisiwn 2000/572/EC2.
Addasiadau darfodol i Benderfyniad y Comisiwn 2000/572/EC3.
(1)
Mae paragraph (2) o’r rheoliad hwn yn cael effaith yn ystod y cyfnod sy’n cychwyn ar y diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym ac sy’n gorffen am hanner nos ar 31 Mawrth 2021.
(2)
Mae Erthygl 3 o Benderfyniad y Comisiwn yn gymwys fel pe bai—
(a)
“other than in relation to imports of meat preparations originating from, or produced in, an establishment situated in a territory subject to special transitional import arrangements,” wedi’i fewnosod, ym mharagraff 3, cyn “they”;
(b)
Gwneir y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraff 11A(1) o Atodlen 2 i Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 (O.S. 2011/2379 (Cy. 252)).
Mae Rheoliad 2 yn diwygio Erthygl 1 o Benderfyniad y Comisiwn 2000/572/EC dyddiedig 8 Medi 2000 sy’n gosod yr amodau iechyd anifeiliaid a’r cyhoedd ac ardystio milfeddygol ar gyfer mewnforio paratoadau cig i’r Gymuned o drydydd gwledydd er mwyn egluro bod y Penderfyniad hwn yn gymwys i fewnforion i Gymru o drydydd gwledydd fel y’u diffinnir yn Erthygl 1(2) o’r Penderfyniad hwnnw.
Mae Rheoliad 3 yn atal dros dro y gofyniad i baratoadau cig a fewnforir i Gymru o sefydliadau a leolir yn Aelod-wladwriaethau’r AEE, Ynysoedd Ffaröe, Kalaallit Nunaat (Greenland) neu’r Swistir fod wedi’u rhewi’n ddwfn.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.