Offerynnau Statudol Cymru
2021 Rhif 1 (Cy. 1)
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Bwyd, Cymru
Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021
Gwnaed
4 Ionawr 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
5 Ionawr 2021
Yn dod i rym
6 Ionawr 2021
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraff 11A(1) o Atodlen 2 i Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru a deuant i rym ar 6 Ionawr 2021.
Diwygio Penderfyniad y Comisiwn 2000/572/EC
2. Yn Erthygl 1(1) o Benderfyniad y Comisiwn 2000/572/EC dyddiedig 8 Medi 2000 sy’n gosod yr amodau iechyd anifeiliaid a’r cyhoedd ac ardystio milfeddygol ar gyfer mewnforio paratoadau cig i’r Gymuned o drydydd gwledydd(2) (‘Penderfyniad y Comisiwn’), ar ôl “meat preparations” mewnosoder “from third countries”.
Addasiadau darfodol i Benderfyniad y Comisiwn 2000/572/EC
3.—(1) Mae paragraph (2) o’r rheoliad hwn yn cael effaith yn ystod y cyfnod sy’n cychwyn ar y diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym ac sy’n gorffen am hanner nos ar 31 Mawrth 2021.
(2) Mae Erthygl 3 o Benderfyniad y Comisiwn yn gymwys fel pe bai—
(a)“other than in relation to imports of meat preparations originating from, or produced in, an establishment situated in a territory subject to special transitional import arrangements,” wedi’i fewnosod, ym mharagraff 3, cyn “they”;
(b)“4. In this Article, “territory subject to special transitional import arrangements” has the same meaning as in point (a) of the definition of “territory subject to special transitional import arrangements” in paragraph 2 of Annex 6 to Regulation (EU) 2017/625 of the European Parliament and of the Council on official controls and other official activities performed to ensure the application of food and feed law, rules on animal health and welfare, plant health and plant protection products(3).”wedi’i fewnosod ar y diwedd.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
4 Ionawr 2021
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Gwneir y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraff 11A(1) o Atodlen 2 i Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 (O.S. 2011/2379 (Cy. 252)).
Mae Rheoliad 2 yn diwygio Erthygl 1 o Benderfyniad y Comisiwn 2000/572/EC dyddiedig 8 Medi 2000 sy’n gosod yr amodau iechyd anifeiliaid a’r cyhoedd ac ardystio milfeddygol ar gyfer mewnforio paratoadau cig i’r Gymuned o drydydd gwledydd er mwyn egluro bod y Penderfyniad hwn yn gymwys i fewnforion i Gymru o drydydd gwledydd fel y’u diffinnir yn Erthygl 1(2) o’r Penderfyniad hwnnw.
Mae Rheoliad 3 yn atal dros dro y gofyniad i baratoadau cig a fewnforir i Gymru o sefydliadau a leolir yn Aelod-wladwriaethau’r AEE, Ynysoedd Ffaröe, Kalaallit Nunaat (Greenland) neu’r Swistir fod wedi’u rhewi’n ddwfn.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
>O.S. 2011/2379 (Cy. 252). Mewnosodir paragraff 11A o Atodlen 2 gan reoliad 2(2) o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1639 (Cy. 344)).
>Diwygir EUDN 2000/572/EC gan reoliad 40 o Reoliadau Mewnforio a Masnachu Cynhyrchion Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1462). Ailrifir Erthygl 1(1) felly, a mewnosodir y diffiniad o ‘third country’ gan reoliad 40(2) o’r Rheoliadau hynny.
>Mewnosodir Atodiad 6 Rheoliad (EU) 2017/625 gan reoliad 29(4) o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Iechyd Planhigion etc.) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1481).
