Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 (y “prif Reoliadau”). Mae’r diwygiadau—
yn cyfyngu ar gynulliadau o dan do o aelodau o aelwyd estynedig i 6 pherson heb gynnwys unrhyw blant o dan 11 oed (nid yw hyn yn effeithio ar y rheol gyffredinol na chaiff unrhyw berson ymgynnull o dan do gydag unrhyw un o’r tu allan i’w aelwyd);
yn ei gwneud yn ofynnol i orchuddion wyneb gael eu gwisgo yn ardaloedd cyhoeddus o dan do “mangreoedd agored” (sef mangreoedd sy’n agored i’r cyhoedd ac y mae’n ofynnol iddynt gymryd pob mesur rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws, a’i ledaenu, o dan reoliad 12 o’r prif Reoliadau) a chanolfannau trafnidiaeth, oni bai bod esemptiad yn gymwys neu fod gan y person esgus rhesymol dros beidio â gwisgo’r gorchudd wyneb;
yn egluro nad yw, o dan baragraff 4 o Atodlen 4A i’r prif Rheoliadau, yn esgus rhesymol i fynd i ardal diogelu iechyd leol i weithio, nac i ddarparu gwasanaethau gwirfoddol na gwasanaethau elusennol, os yw’n rhesymol ymarferol i wneud y gwaith neu i ddarparu’r gwasanaeth y tu allan i’r ardal;
yn gwneud mân ddiwygiadau gan gynnwys diwygiadau sy’n ganlyniadol ar y newidiadau a grybwyllir uchod ac ar wneud Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2020.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.