Offerynnau Statudol Cymru

2020 No. 960 (Cy. 214)

Landlord A Thenant, Cymru

Rheoliadau Tenantiaethau Busnes (Estyn Gwarchodaeth rhag Fforffediad etc.) (Cymru) (Coronafeirws) (Rhif 2) 2020

Gwnaed

7 Medi 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

9 Medi 2020

Yn dod i rym

30 Medi 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 82(12) o Ddeddf y Coronafeirws 2020(1).

Enwi a chychwynLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tenantiaethau Busnes (Estyn Gwarchodaeth rhag Fforffediad etc.) (Cymru) (Coronafeirws) (Rhif 2) 2020.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Medi 2020.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 30.9.2020, gweler rhl. 1(2)

Estyn y cyfnod perthnasol sy’n darparu gwarchodaeth rhag fforffediad etc.LL+C

2.  At ddibenion adran 82 (tenantiaethau busnes yng Nghymru a Lloegr: gwarchodaeth rhag fforffediad etc.) o Ddeddf y Coronafeirws 2020, mae’r “relevant period”, fel y’i diffinnir yn is-adran (12) o’r adran honno yn dod i ben, o ran Cymru, ar 31 Rhagfyr 2020.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 30.9.2020, gweler rhl. 1(2)

DirymuLL+C

3.  Mae Rheoliadau Tenantiaethau Busnes (Estyn Gwarchodaeth rhag Fforffediad etc.) (Cymru) (Coronafeirws) 2020(2)wedi eu dirymu.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 30.9.2020, gweler rhl. 1(2)

Lee Waters

Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru

7 Medi 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae adran 82 o Ddeddf y Coronafeirws 2020 yn sicrhau na chaniateir gorfodi ailfynediad neu fforffediad am beidio â thalu rhent mewn perthynas â thenantiaethau busnes perthnasol yn ystod y cyfnod perthnasol (“relevant period”). Mae adran 82(12) o’r Ddeddf yn diffinio’r “relevant period” fel cyfnod sy’n dechrau ar 26 Mawrth 2020, ac sy’n dod i ben ar 30 Mehefin 2020, neu ar unrhyw ddyddiad diweddarach a bennir mewn rheoliadau a wneir gan yr awdurdod cenedlaethol perthnasol.

Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod cenedlaethol perthnasol o ran Cymru.

Estynnodd Rheoliadau Tenantiaethau Busnes (Estyn Gwarchodaeth rhag Fforffediad etc.) (Cymru) (Coronafeirws) 2020 (O.S. 2020/606 (Cy. 140)) y cyfnod perthnasol hyd 30 Medi 2020.

O ganlyniad i’r Rheoliadau hyn, mae’r moratoriwm a ddarperir gan adran 82 o’r Ddeddf wedi ei estyn ymhellach hyd 31 Rhagfyr 2020.

Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn estyn y cyfnod perthnasol hyd 31 Rhagfyr 2020.

Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Tenantiaethau Busnes (Estyn Gwarchodaeth rhag Fforffediad etc.) (Cymru) (Coronafeirws) 2020.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru .