Rheoliadau Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (Datgymhwyso Gohirio Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020
Enwi a chychwyn1.
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (Datgymhwyso Gohirio Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 a deuant i rym drannoeth y diwrnod y’i gwneir.
Datgymhwyso gohirio is-ddeddfwriaeth2.
Mae Rhan 4 o’r cytundeb ymadael yn darparu ar gyfer y cyfnod gweithredu (neu gyfnod pontio).
Mae paragraff 1(1) o Atodlen 5 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1) yn rhoi effaith gyfreithiol i’r cyfnod gweithredu drwy wneud diwygiadau annhestunol i ddyddiadau dod i rym yr is-ddeddfwriaeth sy’n dod i rym yn union cyn y diwrnod ymadael, ar y diwrnod ymadael neu ar unrhyw adeg ar ôl y diwrnod ymadael. Daw’r is-ddeddfwriaeth hon yn hytrach i rym yn union cyn diwedd y cyfnod gweithredu (diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu), ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu neu (yn ôl y digwydd) ar yr adeg o dan sylw ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.
Mae rheoliad 2 yn darparu na fydd paragraff 1(1) o Atodlen 5 yn gymwys i Reoliadau Etholiadau (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 fel y byddant yn parhau i ddod i rym ar y diwrnod ymadael.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.