- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Gwnaed
30 Ionawr 2020
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddir gan baragraff 1(3)(a) o Atodlen 5 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Fel sy’n ofynnol gan baragraff 2(4) o Atodlen 5 i’r Ddeddf honno, ymgynghorwyd ag un o Weinidogion y Goron(2) cyn gwneud y Rheoliadau hyn.
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (Datgymhwyso Gohirio Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 a deuant i rym drannoeth y diwrnod y’i gwneir.
2. Nid yw paragraff 1(1) o Atodlen 5 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 yn gymwys i Reoliadau Etholiadau (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019(3).
Mark Drakeford
Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
30 Ionawr 2020
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rhan 4 o’r cytundeb ymadael yn darparu ar gyfer y cyfnod gweithredu (neu gyfnod pontio).
Mae paragraff 1(1) o Atodlen 5 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1) yn rhoi effaith gyfreithiol i’r cyfnod gweithredu drwy wneud diwygiadau annhestunol i ddyddiadau dod i rym yr is-ddeddfwriaeth sy’n dod i rym yn union cyn y diwrnod ymadael, ar y diwrnod ymadael neu ar unrhyw adeg ar ôl y diwrnod ymadael. Daw’r is-ddeddfwriaeth hon yn hytrach i rym yn union cyn diwedd y cyfnod gweithredu (diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu), ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu neu (yn ôl y digwydd) ar yr adeg o dan sylw ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.
Mae rheoliad 2 yn darparu na fydd paragraff 1(1) o Atodlen 5 yn gymwys i Reoliadau Etholiadau (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 fel y byddant yn parhau i ddod i rym ar y diwrnod ymadael.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
2020 (p. 1) Gweler paragraff 1(6) o Atodlen 5 i’r Ddeddf honno am y diffiniad o “appropriate authority” ac adran 39(1) am y diffiniad o “devolved authority”.
Gweler adran 39(1) o’r Ddeddf honno am y diffiniad o “Minister of the Crown”.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: