Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2020
Enwi, cychwyn a chymhwyso1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2020.
(2)
Daw’r Rheoliadau hyn i rym—
(a)
ac eithrio pan fo is-baragraff (b) yn gymwys, ar 22 Chwefror 2020;
(b)
ar 22 Chwefror 2021 mewn cysylltiad â fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol sydd wedi eu gweithgynhyrchu o hydrolysadau protein.
(3)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli2.
(1)
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
ystyr “gofyniad cyfraith UE penodedig” (“specified EU law requirement”) yw unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliad Dirprwyedig a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 1, fel y’i darllenir gydag unrhyw ddarpariaeth a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw;
(2)
Mae unrhyw gyfeiriad at ddarpariaeth yn y Rheoliad Dirprwyedig yn gyfeiriad at y ddarpariaeth honno fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.
(3)
Mae i ymadroddion Saesneg a’r ymadroddion Cymraeg cyfatebol a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn y Rheoliad Dirprwyedig yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt yn y Rheoliad Dirprwyedig.
Gorfodi3.
Rhaid i bob awdurdod bwyd weithredu a gorfodi’r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.
Cymhwyso darpariaethau’r Ddeddf4.
(1)
Mae adran 10(1) a (2) o’r Ddeddf (hysbysiadau gwella) yn gymwys, gyda’r addasiad (yn achos adran 10(1)) a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 2, at ddibenion—
(a)
galluogi i hysbysiad gwella gael ei gyflwyno i berson, sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw sicrhau cydymffurfedd ag unrhyw ofyniad cyfraith UE penodedig; a
(b)
gwneud methu â chydymffurfio â hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) yn drosedd.
(2)
(a)
i arfer pŵer mynediad i ganfod a yw bwyd nad yw’n cydymffurfio â gofyniad cyfraith UE penodedig yn cael ei werthu neu wedi ei werthu; a
(b)
i arfer pŵer mynediad i ganfod a oes unrhyw dystiolaeth o unrhyw doriad o ofyniad cyfraith UE penodedig.
(3)
Mae adran 35 o’r Ddeddf (cosbi troseddau) yn gymwys, gyda’r addasiadau a bennir yn Rhan 3 o Atodlen 2, at ddiben pennu’r gosb am drosedd a gyflawnir o dan adran 10(2) fel y’i cymhwysir gan baragraff (1)(b).
(4)
Mae adran 37 o’r Ddeddf (apelau) yn gymwys, gyda’r addasiadau a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 2, at ddiben galluogi person i apelio yn erbyn penderfyniad i gyflwyno hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a).
(5)
Mae adran 39 o’r Ddeddf (apelau yn erbyn hysbysiadau gwella) yn gymwys, gyda’r addasiadau (yn achos adran 39(1) a (3)) a bennir yn Rhan 5 o Atodlen 2, at ddiben ymdrin ag apelau yn erbyn penderfyniad i gyflwyno hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a).
(6)
Mae darpariaethau’r Ddeddf a bennir ym mharagraff (7) (“y darpariaethau paragraff (7)”) yn gymwys, gyda’r addasiadau a bennir yn Rhan 6 o Atodlen 2, at ddibenion y Rheoliadau hyn i’r graddau y maent yn ymwneud â’r darpariaethau yn y Ddeddf, a bennir ym mharagraffau (1) i (5) ac a addesir ganddynt.
(7)
Y darpariaethau yn y Ddeddf, a bennir at ddibenion y paragraff hwn, yw—
(a)
adran 3 (rhagdybiaethau y bwriedir i fwyd gael ei fwyta gan bobl);
(b)
adran 20 (troseddau oherwydd bai person arall);
(c)
(d)
adran 22 (amddiffyn cyhoeddi yng nghwrs busnes);
(e)
adran 29 (caffael samplau);
(f)
(g)
(h)
adran 36 (troseddau gan gyrff corfforedig);
(i)
(j)
adran 44 (amddiffyn swyddogion sy’n gweithredu’n ddidwyll);
(k)
adran 53 (dehongli cyffredinol);
ac mae unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau paragraff (7) at adran o’r Ddeddf, gan gynnwys cyfeiriad at “any of the preceding provisions of this Part”, i’w ddarllen fel cyfeiriad at yr adrannau hynny o’r Ddeddf sy’n gymwys yn rhinwedd y Rheoliadau hyn, a chyda’r addasiadau a wneir ganddynt.
Dirymiadau, arbedion a darpariaethau trosiannol5.
(1)
Mae’r offerynnau a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 3 wedi eu dirymu i’r graddau a bennir yng ngholofn 3 o’r tabl hwnnw, yn ddarostyngedig i baragraff (2).
(2)
Mae’r offerynnau a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 3 yn parhau i gael effaith (i’r graddau y maent wedi eu dirymu fel arall i’r graddau a bennir yng ngholofn 3 o’r tabl hwnnw)—
(a)
tan 21 Chwefror 2021 mewn cysylltiad â fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol sydd wedi eu gweithgynhyrchu o hydrolysadau protein;
(b)
at ddibenion paragraff (3)(b).
(3)
Caiff fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol nad ydynt yn cydymffurfio â gofyniad cyfraith UE penodedig barhau i gael eu marchnata nes i’r stociau o’r bwyd hwnnw gael eu disbyddu, ar yr amod—
(a)
iddo gael ei roi ar y farchnad neu ei labelu—
(i)
cyn 22 Chwefror 2020; neu
(ii)
cyn 22 Chwefror 2021 yn achos fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol sydd wedi eu gweithgynhyrchu o hydrolysadau protein; a
(b)
(i)
rheoliad 3(1) (gwaharddiad ar farchnata fformiwla fabanod oni bai bod amodau penodol wedi eu bodloni) yn achos fformiwla fabanod;
(ii)
rheoliad 3(2) (gwaharddiad ar farchnata fformiwla ddilynol oni bai bod amodau penodol wedi eu bodloni) yn achos fformiwla ddilynol.
F1(4)
Nid yw rheoliadau 2 i 4 yn gymwys mewn cysylltiad â fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol sydd wedi eu gweithgynhyrchu o hydrolysadau protein tan 22 Chwefror 2022.
(5)
Mae Atodlen 4 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol sydd wedi eu gweithgynhyrchu o hydrolysadau protein tan 22 Chwefror 2022.
ATODLEN 1Gofynion cyfraith UE penodedig
Colofn 1 | Colofn 2 |
|---|---|
Darpariaeth benodedig yn y Rheoliad Dirprwyedig | Y ddarpariaeth yn y Rheoliad Dirprwyedig sydd i’w darllen gydaʼr ddarpariaeth benodedig yn y Rheoliad Dirprwyedig |
Erthygl 1(2) (rhoi ar y farchnad) | Erthygl 1(1) |
Erthygl 2(1) (gofynion o ran cyfansoddiad ar gyfer fformiwla fabanod) | Erthyglau 1(1) a 2(3), Atodiad 1 ac Atodiad 3 |
Erthygl 2(2) (gofynion o ran cyfansoddiad ar gyfer fformiwla ddilynol) | Erthyglau 1(1) a 2(3), Atodiad 2 ac Atodiad 3 |
Erthygl 2(3) (paratoi fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol) | Erthyglau 1(1), 2(1) a (2) |
Erthygl 3(1) (addasrwydd cynhwysion ar gyfer fformiwla fabanod) | Erthyglau 1(1) a 3(3) a pharagraff 2 o Atodiad 1 |
Erthygl 3(2) (addasrwydd cynhwysion ar gyfer fformiwla ddilynol) | Erthyglau 1(1) a 3(3) a pharagraff 2 o Atodiad 2 |
Erthygl 4(2) (trothwy gweddillion sylwedd gweithredol) | Erthyglau 1(1) a 4(1), (3) a (5) |
Erthygl 4(3) (rhanddirymiad o drothwy gweddillion sylwedd gweithredol) | Erthyglau 1(1) a 4(1), (2) a (5) |
Erthygl 4(4) (gofynion o ran plaladdwyr) | Erthyglau 1(1) a 4(1) a (5) |
Erthygl 5(1) (enw bwyd nad yw wedi ei weithgynhyrchu’n llwyr o brotein llaeth gwartheg neu eifr) | Erthygl 1(1) a Rhan A o Atodiad 6 |
Erthygl 5(2) (enw bwyd sydd wedi ei weithgynhyrchu’n llwyr o brotein llaeth gwartheg neu eifr) | Erthygl 1(1) a Rhan B o Atodiad 6 |
Erthygl 6 (gofynion penodol o ran gwybodaeth am fwyd) | Erthyglau 1(1) a 7(1), (2), (3), (5), (6), (7) ac (8) |
Erthygl 7(1) (gofynion penodol o ran y datganiad ynglŷn â maethiad) | Erthyglau 1(1) a 7(4), Atodiad 1 ac Atodiad 2 |
Erthygl 7(3) (ailadrodd gwybodaeth a gynhwysir mewn datganiad mandadol ynglŷn â maethiad) | Erthygl 1(1) |
Erthygl 7(4) (datganiad ynglŷn â maethiad yn fandadol ni waeth beth fo maint y pecyn neu’r cynhwysydd) | Erthyglau 1(1) a 7(1), Atodiad 1 ac Atodiad 2 |
Erthygl 7(5) (cymhwyso Erthyglau 31 i 35 o Reoliad (EU) Rhif 1169/2011(1)) | Erthyglau 1(1) a 7(6), (7) ac (8) |
Erthygl 7(6) (mynegi gwerth egni a symiau maetholion) | Erthyglau 1(1) a 7(5) |
Yr is-baragraff cyntaf o Erthygl 7(7) (gwaharddiad ar fynegi gwerth egni a swm maetholion fel canran o’r cymeriant cyfeirio) | Erthyglau 1(1) a 7(5) |
Erthygl 7(8) (cyflwyno manylion a gynhwysir yn y datganiad ynglŷn â maethiad) | Erthygl 1(1) |
Erthygl 8 (gwaharddiad ar wneud honiadau am faethiad ac iechyd ar fformiwla fabanod) | Erthygl 1(1) |
Erthygl 9(1) (datganiad “lactose only”) | Erthygl 1(1) |
Yr is-baragraff cyntaf o Erthygl 9(2) (datganiad “lactose free”) | Erthygl 1(1) |
Yr ail is-baragraff o Erthygl 9(2) (datganiad nad yw fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol “lactose free” yn addas ar gyfer babanod â galactosemia) | Erthygl 1(1) |
Erthygl 9(3) (gwaharddiad ar gyfeiriadau at asid docosahecsenoig pan fo fformiwla fabanod yn cael ei rhoi ar y farchnad ar 22 Chwefror 2025 neu wedi hynny) | Erthygl 1(1) |
Erthygl 10(1) (cyfyngiad ar hysbysebu ar gyfer fformiwla fabanod) | Erthygl 1(1) |
Erthygl 10(2) (gwaharddiad ar ddulliau hyrwyddo er mwyn cymell gwerthiant o fformiwla fabanod) | Erthygl 1(1) |
Erthygl 10(3) (gwaharddiad ar ddarparu cynhyrchion, samplau neu anrhegion hyrwyddo eraill, am ddim neu am bris isel, i’r cyhoedd, i fenywod beichiog, i famau neu i aelodau o’u teuluoedd) | Erthygl 1(1) |
Erthygl 10(4) (gofynion ar gyfer rhoddion neu werthiannau am bris isel o gyflenwadau o fformiwla fabanod i sefydliadau neu gyrff) | Erthygl 1(1) |
Erthygl 11(2) (gofynion o ran gwybodaeth sy’n ymwneud â bwydo babanod a phlant ifanc) | Erthygl 1(1) |
Erthygl 11(3) (gofynion o ran rhoddion o gyfarpar neu ddeunyddiau at ddibenion gwybodaeth neu addysg) | |
Erthygl 12 (gofynion hysbysu) | Erthygl 1(1) |
ATODLEN 2Addasu darpariaethau’r Ddeddf
RHAN 1Addasu adran 10 o’r Ddeddf
1.
“(1)
If an authorised officer of an enforcement authority has reasonable grounds for believing that a person is failing to comply with a specified EU law requirement, the authorised officer may, by a notice served on that person (in this Act referred to as an “improvement notice”)—
(a)
state the officer’s grounds for believing that the person is failing to comply or, as the case may be, that the food does not comply with the specified EU law requirement;
(b)
specify the matters which constitute the failure to comply;
(c)
specify the measures which, in the officer’s opinion, the person must take in order to secure compliance; and
(d)
require the person to take those measures, or such measures that are at least equivalent to them, within such period as may be specified in the notice.”
RHAN 2Addasu adran 32 o’r Ddeddf
2.
(a)
“(a)
to enter any premises within the authority’s area for the purpose of ascertaining whether there has been any contravention of a specified EU law requirement;
(b)
to enter any business premises, whether within or outside the authority’s area, for the purpose of ascertaining whether there is on the premises any evidence of any contravention of a specified EU law requirement; and
(c)
when exercising a power of entry under this section, to exercise the associated powers in subsections (5) and (6) relating to records;”;
(b)
is-adran (9) wedi ei hepgor.
RHAN 3Addasu adran 35 o’r Ddeddf
3.
“(1B)
A person guilty of an offence under section 10(2), as applied by regulation 4(1) of the Infant Formula and Follow-on Formula (Wales) Regulations 2020, is liable on summary conviction, to a fine.”
RHAN 4Addasu adran 37 o’r Ddeddf
4.
Mae adran 37 o’r Ddeddf (apelau i lys ynadon neu siryf) yn gymwys fel pe bai—
(a)
“Appeals” wedi ei roi yn lle’r pennawd;
(b)
“(1)
Any person who is aggrieved by a decision of an authorised officer of an enforcement authority to serve an improvement notice under section 10(1), as applied and modified by regulation 4(1) of, and Part 1 of Schedule 2 to, the Infant Formula and Follow-on Formula (Wales) Regulations 2020 may appeal to the magistrates’ court.”;
(c)
is-adran (2) wedi ei hepgor;
(d)
“(5)
The period within which such an appeal as is mentioned in subsection (1) above may be brought must be—whichever ends the earlier—
(a)
one month from the date on which notice of the decision was served on the person desiring to appeal; or
(b)
the period specified in the improvement notice
and in the case of such an appeal, the making of the complaint shall be deemed for the purposes of this subsection to be the bringing of the appeal.”
(e)
yn is-adran (6)—
(i)
“subsection (1)” wedi ei roi yn lle “subsection (3) or (4)”; a
(ii)
ym mharagraff (a), “or to the sheriff” wedi ei hepgor.
RHAN 5Addasu adran 39 o’r Ddeddf
5.
Mae adran 39 o’r Ddeddf (apelau yn erbyn hysbysiadau gwella) yn gymwys fel pe bai, yn is-adran (3), “for want of prosecution” wedi ei hepgor.
RHAN 6Addasiadau pellach i ddarpariaethau’r Ddeddf
6.
Mae adran 3 o Ddeddf 1990 (rhagdybiaethau y bwriedir i fwyd gael ei fwyta gan bobl) yn gymwys fel pe bai, yn is-adran (1), “the 2020 Regulations” wedi ei roi yn lle “this Act”.
7.
Mae adran 20 o’r Ddeddf (troseddau oherwydd bai person arall) yn gymwys fel pe bai “the 2020 Regulations” wedi ei roi yn lle “any of the preceding provisions of this Part”.
8.
Mae adran 21 o’r Ddeddf (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy) yn gymwys fel pe bai, yn is-adran (1), “the 2020 Regulations” wedi ei roi yn lle “any of the preceding provisions of this Part”.
9.
Mae adran 22 o’r Ddeddf (amddiffyniad cyhoeddi yng nghwrs busnes) yn gymwys fel pe bai “the 2020 Regulations” wedi ei roi yn lle “any of the preceding provisions of this Part”.
10.
Mae adran 29 o’r Ddeddf (caffael samplau) yn gymwys fel pe bai, ym mharagraff (b)(ii), “including under section 32 as applied and modified by regulation 4(2) of, and Part 2 of Schedule 2 to, the 2020 Regulations” wedi ei fewnosod ar ôl “under section 32 below”.
11.
Mae adran 30 o’r Ddeddf (dadansoddi etc. samplau) yn gymwys fel pe bai—
(a)
yn is-adran (1), “including under section 29 as applied and modified by regulation 4(6) of, and Part 6 of Schedule 2 to, the 2020 Regulations” wedi ei fewnosod ar ôl “under section 29 above”; a
(b)
yn is-adran (8), “the 2020 Regulations” wedi ei roi yn lle “this Act”.
12.
Mae adran 33 o’r Ddeddf (rhwystro etc. swyddogion) yn gymwys fel pe bai, yn is-adran (1), “the 2020 Regulations” wedi ei roi yn lle “this Act” (ym mhob lle y mae’n digwydd).
13.
Mae adran 36 o’r Ddeddf (troseddau gan gyrff corfforedig) yn gymwys fel pe bai, yn is-adran (1), “the 2020 Regulations” wedi ei roi yn lle “this Act”.
14.
15.
Mae adran 44 o’r Ddeddf (amddiffyn swyddogion sy’n gweithredu’n ddidwyll) yn gymwys fel pe bai “the 2020 Regulations” wedi ei roi yn lle “this Act” ym mhob lle y mae’r geiriau hynny yn ymddangos.
16.
Mae adran 53 (dehongli cyffredinol) yn gymwys fel pe bai—
(a)
““the 2020 Regulations” means the Infant Formula and Follow-on Formula (Wales) Regulations 2020;”;
(b)
““specified EU law requirement” has the meaning given in regulation 2(1) of the 2020 Regulations;”.
ATODLEN 3Dirymiadau sy’n gysylltiedig â Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol
Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 |
|---|---|---|
Offeryn | Cyfeirnod | Graddau’r dirymu |
Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2007 | Y Rheoliadau cyfan, ac eithrio rheoliad 30 | |
Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Diwygio) (Cymru) 2008 | Rheoliad 2 | |
Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) (Diwygio) 2014 | Y Rheoliadau cyfan | |
Rheoliadau Trosglwyddo Swyddogaethau (Bwyd) (Cymru) 2014 | Rheoliad 5 | |
Rheoliadau Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Gofynion o ran Gwybodaeth a Chyfansoddiad) (Cymru) 2016 | Atodlen 3, paragraff 4 |
F2ATODLEN 4Rheoleiddio fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol sydd wedi eu gweithgynhyrchu o hydrolysadau protein tan 22 Chwefror 2022
Dehongli
1.
(1)
Yn yr Atodlen hon—
mae i “awdurdod bwyd” yr ystyr a roddir i “food authority” yn rhinwedd adran 5(1A) o’r Ddeddf;
ystyr “babanod” (“infants”) yw plant o dan 12 mis oed;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
ystyr “fformiwla ddilynol” (“follow-on formula”) yw bwydydd a fwriedir at ddefnydd maethol neilltuol gan fabanod pan gyflwynir bwydo ategol priodol ac sy’n ffurfio’r brif elfen hylif yn neiet y babanod hynny sy’n amrywio’n gynyddol;
ystyr “fformiwla fabanod” (“infant formula”) yw bwydydd a fwriedir at ddefnydd maethol neilltuol gan fabanod yn ystod misoedd cyntaf eu bywyd ac sydd ar eu pennau eu hunain yn bodloni gofynion maethol y babanod hynny hyd nes y cyflwynir bwydo ategol priodol;
ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2006/141/EC ar fformiwlâu babanod a fformiwlâu dilynol ac sy’n diwygio Cyfarwyddeb 1999/21/EC;
ystyr “plant ifanc” (“young children”) yw plant rhwng un a thair blwydd oed;
ystyr “system gofal iechyd” (“health care system”) yw sefydliadau neu gyrff sy’n ymwneud, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, â gofal iechyd i famau, babanod a menywod beichiog, gan gynnwys meithrinfeydd neu sefydliadau gofal plant a gweithwyr iechyd mewn practis preifat.
(2)
Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn yr Atodlen hon, ac eithrio un a ddiffinnir yn is-baragraff (1), ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Ddeddf, yr ystyr a roddir i’r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn y Ddeddf.
(3)
Mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn yr Atodlen hon ac yn y Gyfarwyddeb yr ystyr a roddir i’r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn y Gyfarwyddeb.
(4)
Yn yr Atodlen hon, mae unrhyw gyfeiriad at Atodiad â rhif yn gyfeiriad at yr Atodiad sy’n dwyn y rhif hwnnw yn y Gyfarwyddeb.
Gwaharddiad ar farchnata fformiwla fabanod neu fformiwla ddilynol oni bai bod amodau penodol wedi eu bodloni
2.
(1)
Ni chaiff unrhyw berson farchnata fformiwla fabanod sy’n mynd yn groes i baragraff 4, 5, 7, 9, 10, 11, 13(1), (2) neu (3), 14, 16, 18 neu 19(1) neu sy’n methu â chydymffurfio ag ef.
(2)
Ni chaiff unrhyw berson farchnata fformiwla ddilynol sy’n mynd yn groes i baragraff 4, 6, 8, 9, 10, 11, 13(1), (2) neu (3), 15, 17, 18 neu 19(2) neu sy’n methu â chydymffurfio ag ef.
Gwaharddiad ar farchnata cynhyrchion ac eithrio fformiwla fabanod ar gyfer babanod normal iach
3.
Ni chaiff unrhyw berson farchnata neu honni fel arall fod cynnyrch yn addas ar ei ben ei hun i fodloni gofynion maethol babanod normal iach yn ystod misoedd cyntaf eu bywyd hyd nes y cyflwynir bwydo ategol priodol oni bai bod y cynnyrch hwnnw yn fformiwla fabanod.
Meintiau o sylweddau sy’n peryglu iechyd babanod a phlant ifanc
4.
Ni chaiff fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol gynnwys unrhyw feintiau o unrhyw sylwedd sy’n peryglu iechyd babanod a phlant ifanc.
Hydrolysadau protein a chynhwysion bwyd eraill sy’n addas i fabanod o’u genedigaeth (fformiwla fabanod)
5.
(1)
Rhaid i fformiwla fabanod fod wedi ei gweithgynhyrchu—
(a)
o hydrolysadau protein; a
(b)
o gynhwysion bwyd eraill y cafodd eu haddasrwydd at ddefnydd maethol neilltuol gan fabanod o’u genedigaeth ei sefydlu drwy ddata gwyddonol a dderbynnir yn gyffredinol ac a gafodd ei ddangos yn unol ag is-baragraff (2).
(2)
Mae addasrwydd i’w ddangos drwy adolygiad systematig o’r data sydd ar gael sy’n ymwneud â’r manteision a ddisgwylir ac ag ystyriaethau diogelwch yn ogystal â thrwy astudiaethau priodol, pan fo angen hynny, a wnaed gan ddilyn canllawiau arbenigol a dderbynnir yn gyffredinol ar ddylunio a chynnal astudiaethau o’r fath.
Hydrolysadau protein a chynhwysion bwyd eraill sy’n addas i fabanod dros 6 mis oed (fformiwla ddilynol)
6.
Rhaid i fformiwla ddilynol fod wedi ei gweithgynhyrchu—
(a)
o hydrolysadau protein; a
(b)
o gynhwysion bwyd eraill y cafodd eu haddasrwydd at ddefnydd maethol neilltuol gan fabanod dros 6 mis oed ei sefydlu drwy ddata gwyddonol a dderbynnir yn gyffredinol ac a gafodd ei ddangos yn unol â pharagraff 5(2).
Meini prawf cyfansoddiadol ar gyfer fformiwla fabanod
7.
(1)
Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid i fformiwla fabanod gydymffurfio â’r meini prawf cyfansoddiadol a nodir yn Atodiad I gan ystyried y manylebau yn Atodiad V.
(2)
Yn achos fformiwla fabanod sydd wedi ei gweithgynhyrchu o hydrolysadau protein a bennir ym mhwynt 2.2 o Atodiad I sydd â’u cynnwys protein rhwng yr isafswm a 0.56g/100kJ (2.25g/100kcal)—
(a)
rhaid i addasrwydd y fformiwla fabanod at y defnydd maethol neilltuol gan fabanod gael ei ddangos drwy astudiaethau priodol, a wnaed gan ddilyn canllawiau arbenigol a dderbynnir yn gyffredinol ar ddylunio a chynnal astudiaethau o’r fath; a
(b)
rhaid i’r fformiwla fabanod fod yn unol â’r manylebau priodol a nodir yn Atodiad VI.
Meini prawf cyfansoddiadol ar gyfer fformiwla ddilynol
8.
(1)
Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid i fformiwla ddilynol gydymffurfio â’r meini prawf cyfansoddiadol a nodir yn Atodiad II gan ystyried y manylebau a nodir yn Atodiad V.
(2)
Yn achos fformiwla ddilynol sydd wedi ei gweithgynhyrchu o’r hydrolysadau protein hynny a bennir ym mhwynt 2.2 o Atodiad II sydd â’u cynnwys protein rhwng yr isafswm a 0.56g/100kJ (2.25g/100kcal)—
(a)
rhaid i addasrwydd y fformiwla ddilynol ar gyfer bodloni gofynion maethol babanod normal iach ar y cyd â bwydo ategol gael ei ddangos drwy astudiaethau priodol, a wnaed gan ddilyn canllawiau arbenigol a dderbynnir yn gyffredinol ar ddylunio a chynnal astudiaethau o’r fath; a
(b)
rhaid i’r fformiwla ddilynol fod yn unol â’r manylebau priodol a nodir yn Atodiad VI.
Ychwanegu dŵr (fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol)
9.
Er mwyn gwneud fformiwla fabanod neu fformiwla ddilynol yn barod i’w defnyddio rhaid nad oes angen gwneud dim byd mwy nag ychwanegu dŵr.
Gwaharddiadau a therfynau ar y defnydd o gynhwysion bwyd (fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol)
10.
Rhaid cadw at y gwaharddiadau a’r terfynau ar y defnydd o gynhwysion bwyd mewn fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol, a nodir yn y drefn honno yn Atodiadau I a II.
Sylweddau rhestredig a’u meini prawf purdeb (fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol)
11.
(1)
Dim ond y sylweddau a restrir yn Atodiad III y caniateir eu defnyddio wrth weithgynhyrchu fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol er mwyn bodloni gofynion Atodiadau I a II yn y drefn honno—
(a)
ar sylweddau mwynol;
(b)
ar fitaminau;
(c)
ar asidau amino a chyfansoddion nitrogen eraill; a
(d)
ar sylweddau eraill sydd â diben maethol neilltuol.
(2)
Rhaid i sylweddau a ddefnyddir wrth weithgynhyrchu fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol yn unol ag is-baragraff (1) fodloni’r meini prawf purdeb perthnasol.
(3)
Y meini prawf purdeb perthnasol at ddibenion is-baragraff (2) yw—
(a)
y meini prawf purdeb ar gyfer sylweddau, fel y darperir ar eu cyfer F3mewn cyfraith a gymathwyd ynghylch y defnydd o sylweddau a restrir yn Atodiad III, wrth weithgynhyrchu bwydydd at ddibenion ac eithrio’r rheini a gwmpesir gan y Gyfarwyddeb; a
(b)
yn absenoldeb meini prawf purdeb o’r fath, meini prawf purdeb a dderbynnir yn gyffredinol a argymhellir gan gyrff rhyngwladol.
Hysbysiad o fformiwla fabanod
12.
Ni chaiff unrhyw weithredwr busnes bwyd roi fformiwla fabanod ar y farchnad yng Nghymru nad yw eto wedi ei rhoi ar y farchnad yn y Deyrnas Unedig oni bai bod y gweithredwr busnes bwyd wedi rhoi hysbysiad ymlaen llaw i Weinidogion Cymru drwy anfon atynt fodel o’r label a ddefnyddir ar gyfer y cynnyrch.
Gweddillion plaladdwyr (fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol)
13.
(1)
Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3), ni chaiff fformiwla fabanod na fformiwla ddilynol gynnwys lefelau uwch na 0.01 mg/kg o weddillion plaladdwyr unigol.
(2)
Ni chaiff fformiwla fabanod na fformiwla ddilynol gynnwys lefel uwch na 0.003 mg/kg o unrhyw weddill plaladdwr o blaladdwr a restrir yn Nhabl 1 neu Dabl 2 o Atodiad VIII.
(3)
Ni chaiff fformiwla fabanod na fformiwla ddilynol gynnwys lefel uwch o unrhyw weddill plaladdwr o blaladdwr a restrir yn Atodiad IX nag uchafswm lefel y gweddill a bennir yn yr Atodiad hwnnw.
(4)
Mae’r lefelau y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (1) i (3) yn gymwys i’r fformiwla fabanod neu’r fformiwla ddilynol—
(a)
sydd wedi ei gweithgynhyrchu ar ffurf sy’n barod i’w defnyddio; neu
(b)
os nad yw wedi ei gweithgynhyrchu felly, fel y mae wedi ei hailgyfansoddi yn ôl cyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchwr.
(5)
Rhaid i ddulliau dadansoddi ar gyfer pennu lefelau gweddillion plaladdwyr at ddibenion y paragraff hwn fod yn ddulliau wedi eu safoni sy’n dderbyniol yn gyffredinol.
Enwi fformiwla fabanod
14.
Ni chaniateir gwerthu fformiwla fabanod onis gwerthir o dan yr enw “infant formula”.
Enwi fformiwla ddilynol
15.
Ni chaniateir gwerthu fformiwla ddilynol onis gwerthir o dan yr enw “follow-on formula”.
Labelu fformiwla fabanod
16.
(1)
Ni chaniateir gwerthu fformiwla fabanod oni bai bod y labelu yn dwyn—
(a)
datganiad i’r perwyl bod y cynnyrch yn addas i’w ddefnyddio at ddiben maethol neilltuol gan fabanod o’u genedigaeth pan nad ydynt yn cael eu bwydo o’r fron;
(b)
y gwerth egni sydd ar gael, wedi ei fynegi mewn kJ a kcal, a chynnwys proteinau, carbohydradau a lipidau, wedi ei fynegi ar ffurf rifyddegol, sydd ym mhob 100ml o’r cynnyrch sy’n barod i’w ddefnyddio;
(c)
pa faint ar gyfartaledd o bob sylwedd mwynol ac o bob fitamin a grybwyllir yn Atodiad I a, phan fo’n gymwys, o golîn, inositol a charnitîn, wedi ei fynegi ar ffurf rifyddegol, sydd ym mhob 100ml o’r cynnyrch sy’n barod i’w ddefnyddio;
(d)
cyfarwyddiadau ar gyfer paratoi, storio a gwaredu’r cynnyrch yn briodol a rhybudd rhag y peryglon i iechyd o’i baratoi a’i storio yn amhriodol; ac
(e)
y geiriau “Important Notice”, neu eiriau cyfatebol iddynt yn cael eu dilyn yn union gan—
(i)
datganiad ynghylch rhagoriaeth bwydo ar y fron; a
(ii)
datganiad sy’n argymell mai dim ond wedi cael cyngor gan bersonau annibynnol sydd â chymwysterau mewn meddygaeth, maethiad neu fferylliaeth, neu broffesiynolion eraill sy’n gyfrifol am ofal mamau a gofal plant y dylid defnyddio’r cynnyrch.
(2)
Rhaid i labelu’r fformiwla fabanod—
(a)
bod wedi ei ddylunio i ddarparu’r wybodaeth angenrheidiol am y defnydd priodol o’r cynnyrch mewn modd nad yw’n annog peidio â bwydo ar y fron; a
(b)
peidio â chynnwys y termau “humanised”, “maternalised”, “adapted” neu unrhyw derm tebyg.
(3)
Ni chaniateir i labelu fformiwla fabanod gynnwys—
(a)
unrhyw lun o faban; neu
(b)
unrhyw lun arall neu destun a all ddelfrydu defnyddio’r cynnyrch,
ond caiff gynnwys delweddau graffig er mwyn adnabod y cynnyrch yn hawdd neu er mwyn dangos dulliau paratoi.
(4)
Ni chaiff labelu fformiwla fabanod ddwyn honiadau o ran maethiad ac iechyd ond—
(a)
pan yw’r honiad wedi ei restru yng ngholofn gyntaf Atodiad IV ac wedi ei fynegi yn y termau a nodir yno; a
(b)
pan yw’r amod a bennir yn ail golofn Atodiad IV mewn perthynas â’r honiad perthnasol a wneir yn y golofn gyntaf wedi ei fodloni.
(5)
Caiff labelu fformiwla fabanod ddwyn manylion ynghylch pa faint ar gyfartaledd o’r maetholion a grybwyllir yn Atodiad III, pan nad yw is-baragraff (1)(c) yn cwmpasu gwybodaeth o’r fath, wedi ei fynegi ar ffurf rifyddegol, sydd ym mhob 100 ml o’r cynnyrch sy’n barod i’w ddefnyddio.
Labelu fformiwla ddilynol
17.
(1)
Ni chaniateir gwerthu fformiwla ddilynol oni bai bod y labelu yn dwyn—
(a)
datganiad i’r perwyl—
(i)
mai dim ond i’w ddefnyddio at ddiben maethol neilltuol gan fabanod dros 6 mis oed y mae’r cynnyrch yn addas;
(ii)
na ddylai fod ond yn rhan o ddeiet amrywiol;
(iii)
nad yw i gael ei ddefnyddio gan fabanod yn lle llaeth y fron yn ystod 6 mis cyntaf eu bywyd; a
(iv)
mai dim ond wedi cael cyngor gan bersonau annibynnol sydd â chymwysterau mewn meddygaeth, maethiad neu fferylliaeth, neu broffesiynolion eraill sy’n gyfrifol am ofal mamau neu ofal plant y dylid gwneud y penderfyniad i ddechrau bwydo ategol, gan gynnwys unrhyw benderfyniad o ran gwneud eithriad i’r egwyddor o beidio â defnyddio fformiwla ddilynol cyn 6 mis oed, a hynny ar sail anghenion twf a datblygiad penodol y baban unigol;
(b)
y gwerth egni sydd ar gael, wedi ei fynegi mewn kJ a kcal, a chynnwys proteinau, carbohydradau a lipidau, wedi ei fynegi ar ffurf rifyddegol, sydd ym mhob 100ml o’r cynnyrch sy’n barod i’w ddefnyddio;
(c)
pa faint ar gyfartaledd o bob sylwedd mwynol ac o bob fitamin a grybwyllir yn Atodiad II a, phan fo’n gymwys, o golîn, inositol a charnitîn, wedi ei fynegi ar ffurf rifyddegol, sydd ym mhob 100ml o’r cynnyrch sy’n barod i’w ddefnyddio;
(d)
cyfarwyddiadau ar gyfer paratoi, storio a gwaredu’r cynnyrch yn briodol a rhybudd rhag y peryglon i iechyd o’i baratoi a’i storio yn amhriodol.
(2)
Rhaid i labelu fformiwla ddilynol—
(a)
bod wedi ei ddylunio i ddarparu’r wybodaeth angenrheidiol am y defnydd priodol o’r cynnyrch mewn modd nad yw’n annog peidio â bwydo ar y fron; a
(b)
peidio â chynnwys y termau “humanised”, “maternalised”, “adapted” neu unrhyw derm tebyg.
(3)
Caiff labelu fformiwla ddilynol ddwyn manylion ynghylch—
(a)
pa faint ar gyfartaledd o’r maetholion a grybwyllir yn Atodiad III, pan nad yw is-baragraff (1)(c) yn cwmpasu gwybodaeth o’r fath, wedi ei fynegi ar ffurf rifyddegol, sydd ym mhob 100 ml o’r cynnyrch sy’n barod i’w ddefnyddio; a
(b)
yn ychwanegol at wybodaeth rifyddegol, gwybodaeth ar fitaminau a mwynau sydd wedi eu cynnwys yn Atodiad VII, wedi ei mynegi fel canran o’r gwerthoedd cyfeiriadol a roddir yn yr Atodiad hwnnw, sydd ym mhob 100ml o’r cynnyrch sy’n barod i’w ddefnyddio.
Osgoi’r risg o ddryswch rhwng fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol
18.
Rhaid labelu fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol mewn ffordd sy’n galluogi defnyddwyr i wahaniaethu’n glir rhwng y cynhyrchion hynny er mwyn osgoi unrhyw risg o ddryswch rhwng fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol.
Cyflwyniad (fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol)
19.
(1)
Rhaid i gyflwyniad fformiwla fabanod gydymffurfio â darpariaethau paragraffau 16(1)(e), (2), (3) a (4) a 18.
(2)
Rhaid i gyflwyniad fformiwla ddilynol gydymffurfio â darpariaethau paragraffau 17(2) a 18.
(3)
At ddibenion y paragraff hwn, mae “cyflwyniad” yn cynnwys siâp, gwedd neu ddull pacio’r cynhyrchion o dan sylw, y deunyddiau pacio a ddefnyddir, y ffordd y maent wedi eu trefnu a’r man lle y maent yn cael eu harddangos.
Cyfyngiadau ar hysbysebu fformiwla fabanod
20.
(1)
Ni chaiff unrhyw berson hysbysebu fformiwla fabanod—
(a)
ac eithrio—
(i)
mewn cyhoeddiad gwyddonol; neu
(ii)
at ddibenion masnach cyn y cyfnod manwerthu, mewn cyhoeddiad a fwriedir ar gyfer darllenwyr ar wahân i’r cyhoedd yn gyffredinol; na
(b)
oni bai bod yr hysbyseb yn cydymffurfio â darpariaethau paragraff 16(1)(e), (2), (3) a (4), paragraff 18 ac is-baragraffau (2) a (3).
(2)
Ni chaiff hysbysebion ar gyfer fformiwla fabanod gynnwys ond gwybodaeth o natur wyddonol a ffeithiol.
(3)
Ni chaiff yr wybodaeth mewn hysbysebion ar gyfer fformiwla fabanod awgrymu neu greu cred bod bwydo â photel yn cyfateb i fwydo ar y fron neu’n rhagori arno.
Cyfyngiadau ar hysbysebu fformiwla ddilynol
21.
Ni chaiff unrhyw berson hysbysebu fformiwla ddilynol pan fo’r hysbyseb yn mynd yn groes i’r darpariaethau a nodir ym mharagraffau 17(2) a 18 neu’n methu â chydymffurfio â hwy.
Cyfyngiadau ar hyrwyddo fformiwla fabanod
22.
(1)
Mewn unrhyw fan lle y gwerthir fformiwla fabanod drwy ei manwerthu ni chaiff unrhyw berson—
(a)
hysbysebu unrhyw fformiwla fabanod;
(b)
gwneud unrhyw arddangosiad arbennig o fformiwla fabanod sydd wedi ei ddylunio i hyrwyddo gwerthiannau;
(c)
rhoi i ffwrdd—
(i)
unrhyw fformiwla fabanod fel sampl am ddim; na
(ii)
unrhyw gwpon y gellir ei ddefnyddio i brynu fformiwla fabanod ar ddisgownt;
(d)
hyrwyddo gwerthiant fformiwla fabanod drwy bremiymau, gwerthiannau arbennig, gwerthiannau islaw cost neu werthiannau rhwym; nac
(e)
ymgymryd ag unrhyw weithgaredd hyrwyddo arall i gymell gwerthiant o fformiwla fabanod.
(2)
Ni chaiff unrhyw weithgynhyrchwr na dosbarthwr unrhyw fformiwla fabanod ddarparu unrhyw fformiwla fabanod am ddim neu am bris gostyngol neu ar ddisgownt er mwyn ei hyrwyddo, nac unrhyw samplau neu rodd gyda’r bwriad o hyrwyddo gwerthiant fformiwla fabanod—
(a)
i’r cyhoedd yn gyffredinol;
(b)
i fenywod beichiog;
(c)
i famau; na
(d)
i aelodau o deuluoedd personau a grybwyllir ym mharagraffau (b) ac (c),
naill ai yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy’r system gofal iechyd neu drwy weithwyr iechyd.
Darparu deunydd gwybodaethol ac addysgol sy’n ymdrin â bwydo babanod
23.
(1)
Ni chaiff unrhyw berson gynhyrchu na chyhoeddi unrhyw ddeunydd gwybodaethol neu addysgol, pa un ai ar ffurf ysgrifenedig neu glyweledol, sy’n ymdrin â bwydo babanod ac y bwriedir iddo gyrraedd menywod beichiog a mamau babanod a mamau plant ifanc, onid yw’r deunydd hwnnw yn cynnwys gwybodaeth glir ar bob un o’r pwyntiau a ganlyn—
(a)
manteision a rhagoriaeth bwydo ar y fron;
(b)
maethiad y fam;
(c)
paratoi ar gyfer bwydo ar y fron a’i gynnal;
(d)
effaith negyddol bosibl cyflwyno bwydo rhannol â photel ar fwydo ar y fron;
(e)
anhawster newid y penderfyniad i beidio â bwydo ar y fron; ac
(f)
pan fo angen, y defnydd priodol o fformiwla fabanod.
(2)
Pan yw’r deunydd y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) yn cynnwys gwybodaeth am y defnydd o fformiwla fabanod, rhaid iddo gynnwys gwybodaeth—
(a)
am y goblygiadau cymdeithasol ac ariannol o’i ddefnyddio;
(b)
am beryglon bwydydd neu ddulliau bwydo amhriodol i iechyd; ac
(c)
am beryglon camddefnyddio fformiwla fabanod i iechyd.
(3)
Pan yw’r deunydd y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) yn cynnwys gwybodaeth am y defnydd o fformiwla fabanod, ni chaiff ddefnyddio unrhyw luniau a all ddelfrydu’r defnydd o fformiwla fabanod.
(4)
Ni chaiff unrhyw weithgynhyrchwr na dosbarthwr fformiwla fabanod wneud rhodd o unrhyw gyfarpar na deunyddiau gwybodaethol neu addysgol ac eithrio yn unol â’r amodau a ganlyn—
(a)
rhaid bod y rhodd wedi ei gwneud ar ôl cael cais amdani gan y sawl y bwriedir iddo ei derbyn;
(b)
rhaid bod y rhodd wedi ei gwneud gydag awdurdod ysgrifenedig Gweinidogion Cymru neu yn unol â chanllawiau a luniwyd gan Weinidogion Cymru;
(c)
rhaid peidio â marcio na labelu’r cyfarpar na’r deunyddiau gydag enw brand perchnogaethol o fformiwla fabanod; a
(d)
dim ond drwy’r system gofal iechyd y mae rhaid dosbarthu’r cyfarpar neu’r deunyddiau.
Fformiwla fabanod ddi-dâl neu am bris gostyngol
24.
Rhaid i sefydliad neu gorff sy’n cael unrhyw fformiwla fabanod yn ddi-dâl neu am bris gostyngol—
(a)
os yw’r fformiwla fabanod honno i’w defnyddio yn y sefydliad neu’r corff, ei defnyddio yn unig ar gyfer babanod y mae rhaid eu bwydo ar fformiwla fabanod a dim ond cyhyd ag y mae hynny’n angenrheidiol i’r babanod hynny; neu
(b)
os yw’r fformiwla fabanod honno i’w dosbarthu y tu allan i’r sefydliad neu’r corff, ei dosbarthu yn unig ar gyfer babanod y mae rhaid eu bwydo ar fformiwla fabanod a dim ond cyhyd ag y mae hynny’n angenrheidiol i’r babanod hynny.
Troseddau a gorfodi
25.
(1)
Mae unrhyw berson sy’n mynd yn groes i unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau sydd wedi eu cynnwys ym mharagraffau 2, 3, 12, 20(1), 21, 22, 23 a 24 neu sy’n methu â chydymffurfio ag unrhyw un neu ragor ohonynt yn euog o drosedd ac yn agored, ar euogfarn ddiannod, i ddirwy.
(2)
Rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu’r Atodlen hon yn ei ardal.
Cymhwyso darpariaethau hysbysiadau gwella’r Ddeddf
26.
(1)
Mae adran 10(1) a (2) o’r Ddeddf (hysbysiadau gwella) yn gymwys, gyda’r addasiad (yn achos adran 10(1)) a bennir yn is-baragraff (2), at ddibenion—
(a)
galluogi i hysbysiad gwella gael ei gyflwyno i berson, sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person sicrhau cydymffurfedd ag unrhyw un neu ragor o’r gofynion a bennir ym mharagraff 2; a
(b)
gwneud methu â chydymffurfio â hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (a) yn drosedd.
(2)
“(1)
If an authorised officer of an enforcement authority has reasonable ground for suspecting that a person is failing to comply with paragraph 2 of Schedule 4 to the Infant Formula and Follow-on Formula (Wales) Regulations 2020, the authorised officer may, by a notice served on that person (in this Act referred to as an “improvement notice”)—
(a)
state the officer’s grounds for suspecting that the person is failing to comply or as the case may be, that the food does not comply with the relevant provision;
(b)
specify the matters which constitute the failure to so comply;
(c)
specify the measures which, in the officer’s opinion, the person must take in order to secure compliance; and
(d)
require the person to take those measures, or such measures that are at least equivalent to them, within such period as may be specified in the notice.”
(3)
Mae adran 32(1) i (8) o’r Ddeddf (pwerau mynediad) yn gymwys, gyda’r addasiad (yn achos adran 32(1)) a bennir yn is-baragraff (4), at ddibenion galluogi swyddog awdurdodedig o awdurdod gorfodi—
(a)
i arfer pŵer mynediad i ganfod a yw bwyd nad yw’n cydymffurfio â gofynion paragraff 2 yn cael ei werthu neu wedi ei werthu; a
(b)
i arfer pŵer mynediad i ganfod a oes unrhyw dystiolaeth o unrhyw doriad o baragraff 2.
(4)
“(a)
to enter any premises within the authority’s area for the purposes of ascertaining whether there has been any contravention of paragraph 2 of Schedule 4 to the Infant Formula and Follow-on Formula (Wales) Regulations 2020; and
(b)
to enter any business premises, whether within or outside the authority’s area, for the purpose of ascertaining whether there is on the premises any evidence of any contravention of that paragraph.”
(5)
Mae adran 35 o’r Ddeddf (cosbi troseddau) yn gymwys, gyda’r addasiad a bennir yn is-baragraff (6), at ddiben pennu’r gosb am drosedd a gyflawnir o dan baragraff 26(1)(b).
(6)
“(1A)
A person guilty of an offence under section 10(2), as applied and modified by paragraph 26(1) and (2) of Schedule 4 to the Infant Formula and Follow-on Formula (Wales) Regulations 2020, is liable, on summary conviction, to a fine.”
(7)
Mae adran 37(1), (3), (5) a (6) o’r Ddeddf (apelau) yn gymwys at ddiben galluogi i benderfyniad i gyflwyno hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff 26(1)(a) gael ei ddiddymu, gyda’r addasiadau a ganlyn—
(a)
yn lle’r pennawd rhodder “Appeals”;
(b)
“(1)
Any person who is aggrieved by a decision of an authorised officer of an enforcement authority to serve an improvement notice under section 10(1) as applied and modified by paragraph 26(1) and (2) of Schedule 4 to the Infant Formula and Follow-on Formula (Wales) Regulations 2020, may apply to the magistrates’ court.”;
(c)
“(5)
The period within which such an appeal as is mentioned in sub-section (1) above may be brought must be, whichever ends the earlier—
(a)
one month from the date on which notice of the decision was served on the person desiring to appeal; or
(b)
the period specified in the improvement notice,
and in the case of such an appeal, the making of the complaint shall be deemed for the purposes of this subsection to be the bringing of the appeal.”;
(d)
yn adran 37(6)—
(i)
yn lle “subsection (3) or (4)” rhodder “subsection (1)”; a
(ii)
ym mharagraff (a), hepgorer “or to the sheriff”.
(8)
Mae adran 39 o’r Ddeddf (apelau yn erbyn hysbysiadau gwella) yn gymwys, gyda’r addasiad a bennir yn is-baragraff (9), at ddiben ymdrin ag apelau yn erbyn penderfyniad i gyflwyno hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff 26(1)(a).
(9)
Yn adran 39(3) (apelau yn erbyn hysbysiadau gwella), hepgorer “for want of prosecution”.
Cymhwyso adrannau amrywiol o’r Ddeddf
27.
Mae’r darpariaethau a ganlyn yn y Ddeddf yn gymwys at ddibenion yr Atodlen hon gyda’r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu at Ran ohoni i’w ddehongli fel cyfeiriad at yr Atodlen hon—
(a)
adran 3 (rhagdybiaethau y bwriedir i fwyd gael ei fwyta gan bobl);
(b)
adran 20 (troseddau oherwydd bai person arall);
(c)
adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy), fel y mae’n gymwys at ddiben adran 14 neu 15;
(d)
adran 30(8) (sy’n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
(e)
adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);
(f)
adran 33(2), gyda’r addasiad bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” i’w ddehongli fel cyfeiriad at unrhyw ofyniad o’r fath a grybwyllir yn adran 33(1)(b) fel y’i cymhwysir gan is-baragraff (e);
(g)
adran 35(1) (cosbi troseddau), i’r graddau y mae’n ymwneud â throseddau o dan adran 33(1) fel y’i cymhwysir gan is-baragraff (e);
(h)
adran 35(2), i’r graddau y mae’n ymwneud â throseddau o dan adran 33(2) fel y’i cymhwysir gan is-baragraff (f);
(i)
adran 36 (troseddau gan gyrff corfforedig);
(j)
adran 36A (troseddau gan bartneriaethau Albanaidd); ac
(k)
adran 44 (amddiffyn swyddogion sy’n gweithredu’n ddidwyll).
Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys i Gymru, yn gwneud darpariaeth i orfodi Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2016/127 dyddiedig 25 Medi 2015 sy’n ychwanegu at Reoliad (EU) Rhif 609/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch y gofynion penodol o ran cyfansoddiad a gwybodaeth ar gyfer fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol ac ynghylch gofynion o ran gwybodaeth sy’n ymwneud â bwydo babanod a phlant ifanc (OJ Rhif L 25, 2.2.2016, t. 1, “y Rheoliad Dirprwyedig”).
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68) ac mae’r cyfeiriadau ynddynt at ddarpariaethau’r Rheoliad Dirprwyedig i’w dehongli fel cyfeiriadau at y darpariaethau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.
Mae rheoliad 3 yn darparu bod rhaid i bob awdurdod bwyd weithredu a gorfodi’r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal. Mae rheoliad 2(1) yn cynnwys diffiniad o “awdurdod bwyd”.
Mae rheoliad 4 ac Atodlen 2 yn cymhwyso, gydag addasiadau, ddarpariaethau penodol yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 (p. 16) at ddibenion y Rheoliadau hyn.
Mae rheoliad 5 ac Atodlen 3 yn gwneud darpariaeth ar gyfer dirymiadau ac arbedion o ganlyniad i’r Rheoliadau hyn. Mae Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2007 (O.S. 2007/3573 Cy. 316) (“Rheoliadau 2007”) a’r darpariaethau sy’n diwygio’r Rheoliadau hynny wedi eu dirymu. Mae Rheoliadau 2007 yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2006/141/EC ddyddiedig 22 Rhagfyr 2006 ar fformiwlâu babanod a fformiwlâu dilynol ac sy’n diwygio Cyfarwyddeb 1999/21/EC (OJ Rhif L 401, 30.12.2006, t. 1) a Chyfarwyddeb y Cyngor 95/52/EEC ar fformiwlâu babanod a fformiwlâu dilynol a fwriedir ar gyfer eu hallforio i drydydd gwledydd (OJ Rhif L 179, 1.7.1992, t. 129). Mae Erthygl 13 o’r Rheoliad Dirprwyedig yn diddymu’r Gyfarwyddeb honno gydag effaith o 22 Chwefror 2020, ac o 22 Chwefror 2021 yn achos fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol sydd wedi eu gweithgynhyrchu o hydrolysadau protein.
Mae rheoliad 5 o’r Rheoliadau hyn yn darparu ymhellach ar gyfer y dirymiadau sydd i’w harbed at ddibenion y trefniadau trosiannol yn y rheoliad hwnnw. Mae’r trefniadau trosiannol hynny yn darparu, pan fo fformiwla fabanod neu fformiwla ddilynol wedi ei rhoi ar y farchnad neu ei labelu cyn dyddiad cymhwyso’r Rheoliad Dirprwyedig (22 Chwefror 2020 neu, yn achos fformiwla fabanod neu fformiwla ddilynol sydd wedi ei gweithgynhyrchu o hydrolysadau protein, 22 Chwefror 2021), y caiff barhau i gael ei marchnata nes i’r stociau gael eu disbyddu, ar yr amod bod gofynion penodol wedi eu bodloni.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.