2020 Rhif 833 (Cy. 182)

Iechyd Planhigion, Cymru
Hadau, Cymru

Rheoliadau Marchnata Hadau, Planhigion a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2020

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19721 mewn perthynas â’r polisi amaethyddol cyffredin2.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1), (1A), (3), (4) a 36 o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 19643 ac adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â chynrychiolwyr y buddiannau hynny sy’n ymddangos iddynt hwy yn berthnasol yn unol ag adran 16(1) o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964.

Enwi, cymhwyso a chychwyn1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Marchnata Hadau, Planhigion a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2020, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 29 Awst 2020.

Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Llysieuol 19952

1

Mae Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Llysieuol 19954 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 2(1), ar ôl y diffiniad o “Directive 2008/72/EC” mewnosoder—

  • “EU Plant Health Regulation” means Regulation (EU) 2016/2031 of the European Parliament and of the Council on protective measures against pests of plants5;

3

Yn rheoliad 5—

a

mae’r testun presennol yn dod yn baragraff (1);

b

ym mharagraff (1), yn lle is-baragraff (a) rhodder—

a

at the place of production it was found, at least on visual inspection, to be practically free from all pests listed in relation to that plant material in the Annex to Directive 93/61/EEC;

ab

the quantity of any RNQP present on the plant material does not, at least on visual inspection, exceed the threshold set out in respect of that RNQP in the Annex to Directive 93/61/EEC;

ac

it is found, at least on visual inspection, to be practically free from any pests which reduce its usefulness and quality as plant material, other than those pests listed in the Annex to Directive 93/61/EEC in relation to that plant material;

ad

it complies with the requirements concerning Union quarantine pests, protected zone quarantine pests and RNQPs set out in the EU Plant Health Regulation and in the implementing acts adopted pursuant to that Regulation, including measures adopted pursuant to Article 30(1) of that Regulation;

c

ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

2

In this regulation—

  • “protected zone quarantine pest” means a pest within the meaning given by Article 32(1) of the EU Plant Health Regulation;

  • “RNQP” means a Union regulated non-quarantine pest within the meaning given by Article 36 of the EU Plant Health Regulation;

  • “Union quarantine pest” means a pest within the meaning given by Article 4 of the EU Plant Health Regulation.

4

Yn lle rheoliad 6 rhodder—

6

1

A producer must—

a

report to an inspector any plant material that fails to comply with the requirements of regulation 5(1)(a) or (ab);

b

immediately report to an inspector any plant material that shows the presence of a plant pest of a description specified in Annex 2 or 3 to the Phytosanitary Conditions Regulation and carry out any measures laid down by the inspector; and

c

keep plant material in lots of homogenous composition and origin during growing and lifting or removal from parent material.

2

In this regulation—

  • “the Phytosanitary Conditions Regulation” means Commission Implementing Regulation (EU) 2019/2072 establishing uniform conditions for the implementation of Regulation (EU) 2016/2031 of the European Parliament and of the Council, as regards protective measures against pests of plants6.

5

Hepgorer rheoliadau 7 ac 8(5).

6

Yn rheoliad 9(4)(c), yn lle “harmful organisms referred to in regulation 5(a)” rhodder “pests referred to in regulations 5(1)(a), (ab) and 6(1)(b)”.

7

Yn rheoliad 11(4), yn lle “5(a)” rhodder “5(1)(a) to (ac)”.

Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Lluosogi Planhigion Addurniadol 19993

1

Mae Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Lluosogi Planhigion Addurniadol 19997 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 2(1), cyn y diffiniad o “Directive 98/56/EC” mewnosoder—

3

Yn rheoliad 4—

a

mae’r testun presennol yn dod yn baragraff (1);

b

ym mharagraff (1), ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—

ab

have been found at the place of production to be practically free, at least on visual inspection, from all pests listed in the Annex to Directive 93/49/EEC in relation to that propagating material;

ac

be free, at least on visual inspection, from any RNQP in a quantity exceeding the thresholds set out in the Annex to Directive 93/49/EEC for the presence of that RNQP;

ad

be, at least on visual inspection, practically free from, and from any signs or symptoms of, any pests which reduce its usefulness or quality as propagating material, other than the pests listed in the Annex to Directive 93/49/EEC with regard to the respective propagating material;

ae

comply with the requirements concerning Union quarantine pests, protected zone quarantine pests and RNQPs set out in the implementing acts adopted pursuant to the EU Plant Health Regulation, and measures adopted pursuant to Article 30(1) of that Regulation;

c

ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

2

In this regulation—

  • “protected zone quarantine pest” means a pest within the meaning given by Article 32(1) of the EU Plant Health Regulation;

  • “RNQP” means a Union regulated non-quarantine pest within the meaning given by Article 36 of the EU Plant Health Regulation;

  • “Union quarantine pest” means a pest within the meaning given by Article 4 of the EU Plant Health Regulation.

4

Hepgorer rheoliad 6A.

Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 20124

1

Mae Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 20129 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn Atodlen 2—

a

cyn Rhan 1 mewnosoder—

Rhan A1Rhagymadrodd

A1Dehongli

Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “pla cwarantin parth gwarchodedig” (“protected zone quarantine pest”) yw pla o fewn yr ystyr a roddir gan Erthygl 32(1) o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE;

  • ystyr “pla cwarantin yr Undeb” (“Union quarantine pest”) yw pla o fewn yr ystyr a roddir gan Erthygl 4 o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE;

  • ystyr “PRHG” (“RNQP”) yw pla a reoleiddir gan yr Undeb heb gwarantin o fewn yr ystyr a roddir gan Erthygl 36 o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE;

  • ystyr “Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE” (“EU Plant Health Regulation”) yw Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar fesurau diogelu rhag plâu planhigion.;

b

yn lle paragraff 15(4) rhodder—

4

Rhaid i’r cnwd a’r hadau a gynhyrchir gan y cnwd fod yn rhydd i bob pwrpas rhag unrhyw blâu sy’n lleihau defnyddioldeb ac ansawdd yr hadau.

5

Rhaid i’r cnwd a’r hadau a gynhyrchir gan y cnwd gydymffurfio â’r gofynion sy’n ymwneud â phlâu cwarantin yr Undeb, plâu cwarantin parth gwarchodedig a PRHGau a nodir mewn actau gweithredu a fabwysiedir yn unol â Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE, a mesurau a fabwysiedir yn unol ag Erthygl 30(1) o’r Rheoliad hwnnw.

c

ym mharagraffau 28 a 42, yn lle is-baragraff (3) ym mhob achos rhodder—

3

Rhaid i’r cnwd a’r hadau a gynhyrchir gan y cnwd fod yn rhydd i bob pwrpas rhag unrhyw blâu sy’n lleihau defnyddioldeb ac ansawdd yr hadau.

4

Rhaid i’r cnwd a’r hadau a gynhyrchir gan y cnwd gydymffurfio â’r gofynion sy’n ymwneud â phlâu cwarantin yr Undeb, plâu cwarantin parth gwarchodedig a PRHGau a nodir mewn actau gweithredu a fabwysiedir yn unol â Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE, a mesurau a fabwysiedir yn unol ag Erthygl 30(1) o’r Rheoliad hwnnw.

d

yn lle paragraff 50(4) rhodder—

4

Rhaid i’r cnwd a’r hadau a gynhyrchir gan y cnwd fod yn rhydd i bob pwrpas rhag unrhyw blâu sy’n lleihau defnyddioldeb ac ansawdd yr hadau.

4A

Rhaid i’r cnwd a’r hadau a gynhyrchir gan y cnwd gydymffurfio â’r gofynion sy’n ymwneud â phlâu cwarantin yr Undeb, plâu cwarantin parth gwarchodedig a PRHGau a nodir mewn actau gweithredu a fabwysiedir yn unol â Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE, a mesurau a fabwysiedir yn unol ag Erthygl 30(1) o’r Rheoliad hwnnw.

Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 20165

1

Mae Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 201610 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 3, yn lle’r diffiniad o “Cyfarwyddeb 2014/21/EU” rhodder—

3

Yn Atodlen 1—

a

ym mharagraff 3(c), yn lle paragraffau (vi) a (vii) rhodder—

vi

Chwilen Golorado (Leptinotarsa decemlineata (Say));

vii

Llyngyr y Gloronen (Ditylenchus destructor (Thorne));

viii

Candidatus Liberibacter solanacearum Liefting et al.; a

ix

Candidatus Phytoplasma solani Quaglino et al;

b

ym mharagraff 8, yn y geiriau ar ôl is-baragraff (b)(iii), hepgorer “sy’n gyffredin yn Ewrop”;

c

ym mharagraff 10, yn y geiriau ar ôl is-baragraff (b)(ii), hepgorer “sy’n gyffredin yn Ewrop”.

4

Yn Atodlen 3—

a

yn y tabl yn Rhan 1, yng ngholofn 1—

i

o dan y pennawd “Grŵp II”, yn lle’r geiriau o “Pydredd Du’r Coesyn” hyd at “et al neu’r ddau” rhodder “Pydredd Du’r Coesyn (Dickeya Samson et al. spp. neu Pectobacterium Waldee emend. Hauben et al. spp. neu’r ddau)”;

ii

o dan y pennawd “Grŵp IV”, yn lle “Y Cen Du (Rhizoctonia solani Kuhn)” rhodder “Y cen du fel y’i hachosir gan Thanatephorus cucumeris (A.B. Frank) Donk”;

b

yn y tabl yn Rhan 1, o dan y pennawd “Grŵp 1”, ar ôl y cofnod “Chwilen Golorado” mewnosoder—

Candidatus Liberibacter solanacearum Liefting et al

Dim

Candidatus Phytoplasma solani Quaglino et al

Dim

c

yn lle Rhannau 2 a 3 rhodder—

RHAN 2Tatws hadyd cyn-sylfaenol o radd PB yr Undeb a gynhyrchir yng Nghymru

Colofn 1

Colofn 2

Colofn 3

Colofn 4

Clefydau neu blâu, difrod a diffygion penodedig

Goddefiannau unigol

Goddefiannau grŵp

Goddefiannau grŵp cyfunol

Grŵp I

Clefyd y Ddafaden (Synchytrium endobioticum (Schlib) Perc)

Dim

-

-

Llyngyr y Gloronen (Ditylenchus destructor Thorne)

Dim

-

-

Llyngyr Tatws (rhywogaeth Globodera sy’n heintio tatws)

Dim

-

-

Pydredd Cylch (Clavibacter michiganensis (Smith) Davis et al spp sepedonicus (Spieck & Kotth) Davis et al)

Dim

-

-

Pydredd Coch (Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al)

Dim

-

-

Firoid y Gloronen Bigfain

Dim

-

-

Chwilen Golorado (Lepinotarsa decemlineata (Say))

Dim

-

-

Candidatus Liberibacter solanacearum Liefting et al

Dim

-

-

Candidatus Phytoplasma solani Quaglino et al

Dim

-

-

Grŵp II

Y Clwy Tatws (Phytophthora infestans (Mont) de Bary)

0.2%

)

)

Pydredd Du’r Coesyn (Dickeya Samson et al. spp. neu Pectobacterium Waldee emend. Hauben et al. spp. neu’r ddau)

0.2%

)

)

Pydreddau Meddal gan gynnwys: Pydredd yr Archoll Diferol (Pythium ultimum Trow)

0.2%

)

)

Y Pydredd Pinc (Phytophthora erythroseptica Pethybridge) a Phydredd y Manbant

0.2%

) 0.2%

)

Y Pydredd Sych (rhywogaeth Fusarium)

0.2%

)

)

Y Madredd (rhywogaeth Phoma)

0.2%

)

)

Cloron a ddifrodwyd gan rew

0.2%

)

)

Grŵp III

Brychni’r croen (Polyscytalum pustulans (Owen & Wake-field)) M B Ellis

0.2%

)

) 6.0%

Grŵp IV

Y cen du fel y’i hachosir gan Thanatephorus cucumeris (A.B. Frank) Donk Cyn belled ag y bernir bod tatws hadyd sydd ag o leiaf ddau ysmotyn du yn y pen blaguro sy’n gyfan gwbl heb eu heffeithio ac sydd â llai nag un rhan o ddeg o’u harwynebedd wedi ei effeithio heb gael eu heffeithio gan y clefyd

1.0%

) 5.0%

)

Y Crach Cyffredin (rhywogaeth Streptomyces) Cyn belled ag y bernir bod tatws hadyd sydd ag o leiaf ddau ysmotyn du yn y pen blaguro sy’n gyfan gwbl heb eu heffeithio ac sydd â llai nag un rhan o dair o’u harwynebedd wedi ei effeithio heb gael eu heffeithio gan y clefyd

5.0%

)

)

Grŵp V

Y crach llychlyd (Spongospora subterranea (Wallr) Legerh) Cyn belled ag y bernir bod tatws hadyd sydd ag o leiaf ddau ysmotyn du yn y pen blaguro sy’n gyfan gwbl heb eu heffeithio ac sydd â llai nag un rhan o ddeg o’u harwynebedd wedi ei effeithio heb gael eu heffeithio gan y clefyd

1.0%

)

)

Grŵp VI

Brychau allanol gan gynnwys cloron wedi eu niweidio neu gloron ac eithrio cloron wedi eu heintio â’u siâp heb fod yn nodweddiadol o’r amrywogaeth

3.0%

)

)

Madredd arwynebol a achosir gan firws tatws Y

Nil

) 3.0%

)

Cloron wedi crebachu oherwydd dadhydradu gormodol neu ddadhydradu a achosir gan gen arian (Helminthosporium solani)

0.5%

)

)

Grŵp VII

Baw neu sylwedd estronol arall

1.0%

-

-

RHAN 3Tatws hadyd sylfaenol a thatws hadyd ardystiedig a gynhyrchir yng Nghymru

Colofn 1

Colofn 2

Colofn 3

Colofn 4

Clefydau neu blâu, difrod a diffygion penodedig

Goddefiannau unigol

Goddefiannau grŵp

Goddefiannau grŵp cyfunol

Grŵp I

Clefyd y Ddafaden (Synchytrium endobioticum (Schlib) Perc)

Dim

-

-

Llyngyr y Gloronen (Ditylenchus destructor Thorne)

Dim

-

-

Llyngyr Tatws (rhywogaeth Globodera sy’n heintio tatws)

Dim

-

-

Pydredd Cylch (Clavibacter michiganensis (Smith) Davis et al spp sepedonicus (Spieck & Kotth) Davis et al)

Dim

-

-

Pydredd Coch (Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al)

Dim

-

-

Firoid y Gloronen Bigfain

Dim

-

-

Chwilen Golorado (Lepinotarsa decemlineata (Say))

Dim

-

-

Candidatus Liberibacter solanacearum Liefting et al

Dim

-

-

Candidatus Phytoplasma solani Quaglino et al

Dim

-

-

Grŵp II

Y Clwy Tatws (Phytophthora infestans (Mont) de Bary)

0.5%

)

)

Pydredd Du’r Coesyn (Dickeya Samson et al. spp. neu Pectobacterium Waldee emend. Hauben et al. spp. neu’r ddau)

0.5%

)

)

Pydreddau Meddal gan gynnwys Pydredd yr Archoll Diferol (Pythium ultimum Trow)

0.5%

)

)

Y Pydredd Pinc (Phytophthora erythroseptica Pethybridge) a Phydredd y Manbant

0.5%

) 0.5%

)

Y Pydredd Sych (rhywogaeth Fusarium)

0.5%

)

)

Y Madredd (rhywogaeth Phoma)

0.5%

)

)

Cloron a ddifrodwyd gan rew

0.5%

)

)

Unrhyw un o’r diffygion Grŵp II sy’n ymddangos fel symptom pydredd gwlyb

0.2%

)

)6.0% ar gyfer tatws hadyd sylfaenol ac 8.0% ar gyfer tatws hadyd ardystiedig

Grŵp III

Brychni’r croen (Polyscytalum pustulans (Owen & Wakefield) M B Ellis)

0.5% ac eithrio gradd E yr Undeb, gradd A y Undeb a gradd B yr Undeb; 2.0% ar gyfer gradd E yr Undeb, gradd A yr Undeb a gradd B yr Undeb yn unig

)

)

Y crach llychlyd (Spongospora subterranea (Wallr) Legerh) Cyn belled ag y bernir bod tatws hadyd sydd ag o leiaf ddau ysmotyn du yn y pen blaguro sy’n gyfan gwbl heb eu heffeithio ac sydd â llai nag un rhan o ddeg o’u harwynebedd wedi ei effeithio heb gael eu heffeithio gan y clefyd (ac eithrio pan fo’r crach llychlyd yn ei ffurf ganseraidd)

3.0%

) 5.0%

)

Grŵp IV

Y cen du fel y’i hachosir gan Thanatephorus cucumeris (A.B. Frank) Donk Cyn belled ag y bernir bod tatws hadyd sydd ag o leiaf ddau ysmotyn du yn y pen blaguro sy’n gyfan gwbl heb eu heffeithio ac sydd â llai nag un rhan o ddeg o’u harwynebedd wedi ei effeithio heb gael eu heffeithio gan y clefyd

5.0%

)

)

Y Crach Cyffredin (rhywogaeth Streptomyces) Cyn belled ag y bernir bod tatws hadyd sydd ag o leiaf ddau ysmotyn du yn y pen blaguro sy’n gyfan gwbl heb eu heffeithio ac sydd â llai nag un rhan o dair o’u harwynebedd wedi ei effeithio heb gael eu heffeithio gan y clefyd

5.0%

)

)

Grŵp V

Brychau allanol gan gynnwys cloron wedi eu niweidio neu gloron ac eithrio cloron afiach â’u siâp heb fod yn nodweddiadol o’r amrywogaeth

3.0%

)

)

Cloron wedi crebachu oherwydd dadhydradu gormodol neu ddadhydradu a achosir gan gen arian (Helminthosporium solani)

1.0%

) 3.0%

)

Madredd arwynebol a achosir gan fathau o firws tatws Y

0.1%

)

)

Grŵp VI

Baw neu sylwedd estronol arall

1.0%

-

-

d

yn y tabl yn Rhan 4, ar ôl y cofnod ar gyfer “Chwilen Golorado” mewnosoder—

Candidatus Liberibacter solanacearum Liefting et al

Dim

-

Candidatus Phytoplasma solani Quaglino et al

Dim

-

5

Yn Rhan 1 o Atodlen 4, yn nhabl 1—

a

yn y cofnod ar gyfer gradd yr Undeb “PBTC”, yn yr ail golofn—

i

ym mharagraff (1)(a)(i), ar ôl “Dickeya spp.,” mewnosoder “Candidatus Liberibacter solanacearum, Candidatus Phytoplasma solani, Firoid y gloronen bigfain,”;

ii

ym mharagraff (1)(b)(i), ar y dechrau mewnosoder “Candidatus Liberibacter solanacearum, Candidatus Phytoplasma solani, Firoid y gloronen bigfain,”;

b

yn y cofnod ar gyfer gradd yr Undeb “PB”, yn yr ail golofn—

i

ym mharagraff (1)(a)(ii), ar ôl “Dickeya spp.,” mewnosoder “Candidatus Liberibacter solanacearum, Candidatus Phytoplasma solani, Firoid y gloronen bigfain,”;

ii

ym mharagraff (2)(i), ar y dechrau mewnosoder “Candidatus Liberibacter solanacearum, Candidatus Phytoplasma solani, Firoid y gloronen bigfain,”.

6

Yn Atodlen 5, ym mharagraff 3(f)(ii), hepgorer “sy’n gyffredin yn Ewrop”.

Rheoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 20176

1

Mae Rheoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 201712 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 2, yn y lle priodol mewnosoder—

  • ystyr “PRHG” (“RNQP”) yw pla a reoleiddir gan yr Undeb heb gwarantin o fewn yr ystyr a roddir gan Erthygl 36 o Reoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar fesurau diogelu rhag plâu planhigion;

3

Yn rheoliad 3(1), yn lle’r diffiniad o “Cyfarwyddeb 2014/98/EU” rhodder—

4

Ar ôl rheoliad 14 mewnosoder—

Cyflenwyr: gofynion hysbysu14A

1

Rhaid i gyflenwr adrodd ar unwaith i arolygydd ynghylch—

a

deunyddiau planhigion sy’n dangos presenoldeb unrhyw PRHG a restrir yn Atodiad 1 neu 2 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU;

b

presenoldeb yn y pridd unrhyw PRHG a restrir yn Atodiad 3 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU;

c

presenoldeb unrhyw PRHG yn y safle cynhyrchu ar lefel uwch na’r goddefiant a bennwyd ar gyfer yr organeb honno yn Atodiad 4 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU; neu

d

deunyddiau planhigion sy’n dangos presenoldeb unrhyw bla a restrir yn Atodiad 2 neu 3 i Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/2072 sy’n sefydlu amodau unffurf ar gyfer gweithredu Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor, o ran mesurau diogelu rhag plâu planhigion.

2

Pan fo cyflenwr wedi adrodd i arolygydd ynghylch deunyddiau planhigion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(d), rhaid i’r cyflenwr gyflawni unrhyw fesurau a osodir gan yr arolygydd.

5

Yn rheoliad 15(1)(g)—

a

ym mharagraff (i), hepgorer “Rhan A o”;

b

hepgorer paragraff (ii) a’r “a” sy’n ei ddilyn;

c

ym mharagraff (iii), yn lle “Atodiad 2, 3 neu 4” rhodder “Atodiad 2 neu 3”;

d

ar ôl paragraff (iii) mewnosoder—

iv

unrhyw PRHG a restrir yn Atodiad 3 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, pan fo’n bresennol yn y pridd; a

v

unrhyw PRHG ar lefel uwch na’r goddefiant a bennir ar gyfer y PRHG hwnnw yn Atodiad 4 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU.

6

Yn Atodlen 1—

a

ym mharagraff 1(2), yn lle paragraffau (c) a (d) rhodder—

c

yn cydymffurfio â’r gofynion iechyd ym mharagraff 4;

d

yn cydymffurfio â’r gofynion ynghylch diffygion ym mharagraff 5; ac

e

yn cydymffurfio â’r gofynion ynghylch y safle cynhyrchu ym mharagraff 6.

b

ym mharagraff 2(2), yn lle paragraffau (b) ac (c) rhodder—

b

yn cydymffurfio â’r gofynion iechyd ym mharagraff 4;

c

yn cydymffurfio â’r gofynion ynghylch diffygion ym mharagraff 5; a

d

yn cydymffurfio â’r gofynion ynghylch y safle cynhyrchu ym mharagraff 6.

c

ym mharagraff 4, yn lle is-baragraffau (1) i (5) rhodder—

1

Rhaid canfod bod deunyddiau CAC, drwy arolygiad gweledol gan y cyflenwr yn ystod y cam cynhyrchu, yn rhydd i bob pwrpas rhag y PRHGau a restrir yn Atodiad 1 neu 2 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU mewn perthynas â’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, oni nodir fel arall yn Atodiad 4 i’r Gyfarwyddeb honno.

2

Rhaid i’r cyflenwr samplu a phrofi’r ffynhonnell ddeunyddiau adnabyddedig neu’r deunyddiau CAC—

a

mewn achosion pan fo amheuaeth ynghylch presenoldeb unrhyw PRHG a restrir yn Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, am y plâu hynny;

b

am y PRHGau a restrir yn Atodiad 2 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, yn ddarostyngedig i ofynion Atodiad 4 i’r Gyfarwyddeb honno a bennir mewn perthynas â’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, a’r categori.

3

Ar ôl ei gynhyrchu, rhaid canfod bod deunyddiau CAC, drwy arolygiad gweledol gan y cyflenwr, yn rhydd rhag arwyddion neu symptomau unrhyw PRHG a restrir yn Atodiad 1 neu 2 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU.

4

Rhaid cynnal arolygiadau gweledol a gwaith samplu a phrofi yn unol â’r gofynion a bennir yn Atodiad 4 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU mewn perthynas â’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, a’r categori.

5

Ond nid yw is-baragraffau (1) i (3) yn gymwys i ddeunyddiau CAC yn ystod rhewgadw.

d

ar ôl paragraff 5 mewnosoder—

6Gofynion ynghylch y safle cynhyrchu

Rhaid cynhyrchu deunyddiau CAC yn unol â’r gofynion ar gyfer y safle cynhyrchu, y man cynhyrchu neu’r ardal a nodir yn Atodiad 4 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU ac a bennir mewn perthynas â’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw.

7

Yn Atodlen 5—

a

ym mharagraffau 3(2) a 4(2), ar ôl paragraff (f) ym mhob achos, mewnosoder—

g

yn cydymffurfio â’r gofynion ynghylch y safle cynhyrchu ym mharagraff 12A.

b

ym mharagraffau 5(1)(a) a 6, yn lle “12” rhodder “12A”;

c

ym mharagraff 10—

i

yn lle is-baragraffau (1) a (2) rhodder—

1

Rhaid canfod bod planhigyn tarddiol cyn-sylfaenol neu ddeunyddiau cyn-sylfaenol yn rhydd rhag unrhyw PRHG a restrir yn Atodiad 1 neu 2 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU mewn perthynas â’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, yn ddarostyngedig i ofynion Atodiad 4 i’r Gyfarwyddeb honno a bennir mewn perthynas â’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, a’r categori.

2

Rhaid i arolygydd a, phan fo’n briodol, y cyflenwr wneud gwaith samplu a phrofi ar y planhigyn tarddiol cyn-sylfaenol neu’r deunyddiau cyn-sylfaenol—

a

mewn achosion pan fo amheuaeth ynghylch presenoldeb unrhyw PRHG a restrir yn Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, am y plâu hynny;

b

am y PRHGau a restrir yn Atodiad 2 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, yn ddarostyngedig i ofynion Atodiad 4 i’r Gyfarwyddeb honno a bennir mewn perthynas â’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, a’r categori.

ii

yn lle is-baragraff (4) rhodder—

4

Caiff cydymffurfedd ag is-baragraff (1) ei gadarnhau drwy arolygiad gweledol gan arolygydd a, phan fo’n briodol, y cyflenwr.

d

ar ôl paragraff 12 mewnosoder—

12AGofynion ynghylch y safle cynhyrchu

Rhaid cynhyrchu planhigion tarddiol cyn-sylfaenol a deunyddiau cyn-sylfaenol yn unol â’r gofynion ar gyfer y safle cynhyrchu, y man cynhyrchu neu’r ardal a nodir yn Atodiad 4 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU ac a bennir mewn perthynas â’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw.

e

ym mharagraffau 14(2) a 15(2), yn lle paragraffau (g) ac (h) rhodder—

g

wedi eu cynnal yn unol â pharagraff 18;

h

pan fo’n briodol, wedi eu lluosi yn unol â pharagraff 19; ac

i

wedi eu cynhyrchu yn unol â’r gofynion ynghylch y safle cynhyrchu ym mharagraff 12A.

f

ym mharagraff 14(3), yn lle “(h)” rhodder “(i)”;

g

ym mharagraff 16—

i

yn lle is-baragraffau (1) a (2) rhodder—

1

Rhaid canfod bod planhigyn tarddiol sylfaenol neu ddeunyddiau sylfaenol yn rhydd rhag unrhyw PRHG a restrir yn Atodiad 1 neu 2 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU mewn perthynas â’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, yn ddarostyngedig i ofynion Atodiad 4 i’r Gyfarwyddeb honno a bennir mewn perthynas â’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, a’r categori.

2

Rhaid i arolygydd a, phan fo’n briodol, y cyflenwr wneud gwaith samplu a phrofi ar y planhigyn tarddiol sylfaenol neu’r deunyddiau sylfaenol—

a

mewn achosion pan fo amheuaeth ynghylch presenoldeb unrhyw PRHG a restrir yn Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, am y plâu hynny;

b

am y PRHGau a restrir yn Atodiad 2 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, yn ddarostyngedig i ofynion Atodiad 4 i’r Gyfarwyddeb honno a bennir mewn perthynas â’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, a’r categori.

ii

yn lle is-baragraff (4) rhodder—

4

Caiff cydymffurfedd ag is-baragraff (1) ei gadarnhau drwy arolygiad gweledol gan arolygydd a, phan fo’n briodol, y cyflenwr.

h

ym mharagraff 20—

i

yn is-baragraff (2), yn lle paragraffau (e) ac (f) rhodder—

e

yn cydymffurfio â’r gofynion iechyd ym mharagraff 22;

f

yn cael eu tyfu mewn pridd y canfyddir, drwy waith samplu a phrofi, ei fod yn cydymffurfio â pharagraff 23; ac

g

yn cydymffurfio â’r gofynion ynghylch y safle cynhyrchu ym mharagraff 12A.

ii

yn is-baragraff (4), yn y geiriau cyn paragraff (a), yn lle “(f)” rhodder “(g)”;

i

ym mharagraff 22—

i

yn lle is-baragraffau (1) a (2) rhodder—

1

Rhaid canfod bod planhigyn tarddiol ardystiedig neu ddeunyddiau ardystiedig yn rhydd rhag unrhyw PRHG a restrir yn Atodiad 1 neu 2 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU mewn perthynas â’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, yn ddarostyngedig i ofynion Atodiad 4 i’r Gyfarwyddeb honno a bennir mewn perthynas â’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, a’r categori.

2

Rhaid i arolygydd a, phan fo’n briodol, y cyflenwr wneud gwaith samplu a phrofi ar y planhigyn tarddiol ardystiedig neu’r deunyddiau ardystiedig—

a

mewn achosion pan fo amheuaeth ynghylch presenoldeb unrhyw PRHG a restrir yn Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, am y plâu hynny;

b

am y PRHGau a restrir yn Atodiad 2 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, yn ddarostyngedig i ofynion Atodiad 4 i’r Gyfarwyddeb honno a bennir mewn perthynas â’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, a’r categori.

ii

yn is-baragraff (4), yn lle’r geiriau o “is-baragraffau (1)” hyd at y diwedd rhodder “is-baragraff (1) drwy arolygiad gweledol”;

j

ym mharagraff 23(4)(a), ar y dechrau mewnosoder “oni nodir fel arall,”.

Lesley GriffithsGweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb Weithredu’r Comisiwn (EU) 2020/177 sy’n diwygio Cyfarwyddebau’r Cyngor 66/401/EEC, 66/402/EEC, 68/193/EEC, 2002/55/EC, 2002/56/EC a 2002/57/EC, Cyfarwyddebau’r Comisiwn 93/49/EEC a 93/61/EEC a Chyfarwyddebau Gweithredu 2014/21/EU a 2014/98/EU o ran plâu planhigion ar hadau a deunyddiau lluosogi planhigion arall (OJ Rhif L 41, 13.2.2020, t. 1).

Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn diwygio’r Rheoliadau a ganlyn (“y Rheoliadau Marchnata”)—

  • Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Llysieuol 1995 (O.S. 1995/2652) (“Rheoliadau 1995”),

  • Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Lluosogi Planhigion Addurniadol 1999 (O.S. 1999/1801) (“Rheoliadau 1999”),

  • Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012 (O.S. 2012/245) (Cy. 39) (“Rheoliadau 2012”),

  • Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016 (O.S. 2016/106) (Cy. 52) (“Rheoliadau 2016”), a

  • Rheoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2017 (O.S. 2017/691) (Cy. 163) (“Rheoliadau 2017”).

Mae Rheoliadau 1995 yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 2008/72/EC ar farchnata deunyddiau lluosogi a phlannu llysiau, ac eithrio hadau (OJ Rhif L 205, 1.8.2008, t. 28) (“Cyfarwyddeb y Cyngor 2008/72/EC”) a Chyfarwyddeb y Comisiwn 93/61/EEC sy’n nodi’r atodlenni sy’n dangos yr amodau sydd i’w bodloni gan ddeunyddiau lluosogi a phlannu llysiau, ac eithrio hadau, yn unol â Chyfarwyddeb 92/33/EEC (OJ Rhif L 250, 7.10.1993, t. 19).

Mae Rheoliadau 1999 yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 98/56/EC ar farchnata deunyddiau lluosogi planhigion addurniadol (OJ Rhif L 226, 13.8.1998, t. 16) a Chyfarwyddeb y Comisiwn 93/49/EEC sy’n nodi’r atodlen sy’n dangos yr amodau sydd i’w bodloni gan ddeunyddiau lluosogi planhigion addurniadol a phlanhigion addurniadol yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 91/682/EEC (OJ Rhif L 250, 7.10.1993, t. 9).

Mae Rheoliadau 2012 yn gweithredu gwahanol offerynnau’r UE, yn enwedig Cyfarwyddeb y Cyngor 66/401/EEC ar farchnata hadau planhigion porthiant (OJ Rhif L 125, 11.7.1966, t. 2298), Cyfarwyddeb y Cyngor 66/402/EEC ar farchnata hadau ŷd (OJ Rhif L 125, 11.7.1966, t. 2309), Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/55/EC ar farchnata hadau llysiau (OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. 33) a Chyfarwyddeb y Cyngor 2002/57/EC ar farchnata hadau planhigion olew a ffeibr (OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. 74).

Mae Rheoliadau 2016 yn gweithredu gwahanol offerynnau’r UE, yn enwedig Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/56/EC ar farchnata tatws hadyd (OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. 60) a Chyfarwyddeb Weithredu’r Comisiwn 2014/21/EU sy’n pennu amodau gofynnol a graddau’r Undeb ar gyfer tatws hadyd cyn-sylfaenol (OJ Rhif L 38, 7.2.2014, t. 39).

Mae Rheoliadau 2017 yn gweithredu gwahanol offerynnau’r UE, yn enwedig Cyfarwyddeb y Cyngor 2008/90/EC ar farchnata deunyddiau lluosogi planhigion ffrwythau a phlanhigion ffrwythau a fwriedir ar gyfer cynhyrchu ffrwythau (OJ Rhif L 267, 8.10.2008, t. 8) (“Cyfarwyddeb y Cyngor 2008/90/EC”) a Chyfarwyddeb Weithredu’r Comisiwn 2014/98/EU sy’n gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 2008/90/EC o ran gofynion penodol mewn perthynas â genws a rhywogaeth planhigion ffrwythau y cyfeirir atynt yn Atodiad I iddi, gofynion penodol sydd i’w bodloni gan gyflenwyr a rheolau manwl sy’n ymwneud ag arolygiadau swyddogol (OJ Rhif L 298, 16.10.2014, t. 22).

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio darpariaethau yn y Rheoliadau Marchnata i’w gwneud yn ofynnol i hadau, planhigion a deunyddiau lluosogi planhigion (“deunyddiau planhigion”) a fwriedir ar gyfer eu marchnata yng Nghymru fod yn rhydd i bob pwrpas rhag plâu a reoleiddir heb gwarantin yn y man cynhyrchu a sicrhau nad yw presenoldeb y plâu hynny ar ddeunyddiau planhigion yn uwch na throthwyon penodedig.

Mae rheoliad 2(4) hefyd yn diwygio Rheoliadau 1995 i sicrhau y caiff Cyfarwyddeb y Cyngor 2008/72/EC ei gweithredu’n briodol.

Mae rheoliad 5(4) hefyd yn diwygio Rheoliadau 2016 i gywiro gwallau fformadu yn y tablau yn Rhannau 2 a 3 o Atodlen 3 i Reoliadau 2016.

Mae rheoliad 6(4) hefyd yn diwygio Rheoliadau 2017 i sicrhau y caiff Cyfarwyddeb y Cyngor 2008/90/EC ei gweithredu’n briodol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.