NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”). Diwygiwyd y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn flaenorol gan:

Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofyniad i bersonau sy’n cyrraedd Cymru ynysu am gyfnod o 14 o ddiwrnodau.

Mae gofynion y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn ddarostyngedig i eithriadau, ac mae categorïau penodol o bersonau wedi eu hesemptio rhag gorfod cydymffurfio. Nid yw’n ofynnol i bersonau sy’n dod i Gymru ynysu ar ôl bod mewn un neu ragor o’r gwledydd a restrir yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Cyfeirir at y gwledydd a’r tiriogaethau a restrir yn Atodlen 3 fel “gwledydd a thiriogaethau esempt”.

Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol i dynnu Sbaen oddi ar y rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt.

Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth drosiannol. Mae hyn yn ymwneud â pherson a oedd wedi bod yn Sbaen ddiwethaf o fewn y 14 diwrnod cyn iddo gyrraedd Cymru a chyn i’r diwygiad a wnaed gan reoliad 2 ddod i rym. Os yw’r person hwnnw’n gadael Sbaen yn fuan cyn i’r diwygiad ddod i rym ac yn cyrraedd Cymru wedi hynny mae’r person hwnnw i’w drin (at ddibenion rheoliad 7 (1) (b) ac 8 (1) o’r Rheoliadau teithio rhyngwladol) fel pe bai wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt. Yn yr un modd os yw’r person wedi gadael Sbaen ar unrhyw adeg o fewn y 14 diwrnod cyn i’r diwygiad ddod i rym ac yn cyrraedd Cymru o le arall sydd wedi’i eithrio (neu o rywle arall yn y DU) ar ôl i’r diwygiad ddod i rym, mae’r person hwnnw hefyd i’w drin fel pe bai wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.