2020 Rhif 778 (Cy. 172)
Tai, Cymru

Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Tenantiaethau Sicr a Thenantiaethau Byrddaliadol Sicr, Estyn Cyfnodau Hysbysu) (Diwygio) (Cymru) 2020

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pŵer a roddir gan baragraff 13(1) o Atodlen 29 i Ddeddf y Coronafeirws 20201.

Enwi a chychwyn1.

(1)

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Tenantiaethau Sicr a Thenantiaethau Byrddaliadol Sicr, Estyn Cyfnodau Hysbysu) (Diwygio) (Cymru) 2020.

(2)

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 24 Gorffennaf 2020.

Diwygio Atodlen 29 i Ddeddf y Coronafeirws 20202.

(1)

Mae Atodlen 29 i Ddeddf y Coronafeirws 2020 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)

Ym mharagraff 6, yn is-baragraffau (c) a (d), ar ôl ““three months”” mewnosoder “in relation to a dwelling-house in England and “six months” in relation to a dwelling-house in Wales”.

(3)

Ym mharagraff 7—

(a)

yn is-baragraff (a), ar ôl ““three months’”” mewnosoder “in relation to a dwelling-house in England and “six months’” in relation to a dwelling-house in Wales”;

(b)

yn is-baragraff (b), ar ôl ““three months”” mewnosoder “in relation to a dwelling-house in England and “six months” in relation to a dwelling-house in Wales”.

(4)

Ym mharagraff 11—

(a)

yn is-baragraff (a), yn lle ““3 months”” rhodder ““6 months””;

(b)

yn is-baragraff (b)—

(i)

ym mharagraff (i), yn lle ““3 months”” rhodder ““6 months””, a

(ii)

ym mharagraff (ii), yn lle ““three months”” rhodder ““six months””.

Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 29 i Ddeddf y Coronafeirws 2020 (“y Ddeddf”) mewn cysylltiad â thenantiaethau sicr a thenantiaethau byrddaliadol sicr yng Nghymru. Maent yn diwygio paragraff 6(c) a (d) a pharagraff 7(a) a (b) o Atodlen 29 i’r Ddeddf er mwyn estyn y cyfnod hysbysu y mae rhaid i landlord ei roi i denant o dan adran 8(4A) neu (4B) ac adran 21(1) neu (4) o Ddeddf Tai 1988 (“Deddf 1988”).

Yn rhinwedd paragraffau 6 a 7 o Atodlen 29 i’r Ddeddf, mae’r cyfnodau hysbysu estynedig yn gymwys yn ystod y cyfnod perthnasol. Mae “relevant period” wedi ei ddiffinio ym mharagraff 1 o Atodlen 29 i’r Ddeddf a chaniateir i Weinidogion Cymru ei ddiwygio o ran Cymru.

Mae rheoliad 2 yn diwygio’r cyfnodau a nodir ym mharagraff 6(c) a (d) a pharagraff 7(a) a (b) o Atodlen 29 i’r Ddeddf fel bod y cyfnod hysbysu y mae’n ofynnol ei roi o dan adran 8(4A) neu (4B) ac adran 21(1) neu (4) o Ddeddf 1988 wedi ei estyn o dri mis i chwe mis. Mae’r cyfnod hysbysu estynedig yn gymwys i hysbysiadau a roddir o dan adran 8(4A) neu (4B) ac adran 21(1) neu (4) o Ddeddf 1988 ar y dyddiad y mae’r Rheoliadau hyn yn dod i rym neu wedi hynny.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio’r cyfnodau hysbysu a nodir ym mharagraff 11(a) a (b) o Atodlen 29 i’r Ddeddf. Effaith hyn yw ei gwneud yn ofynnol i’r cyfeiriadau perthnasol yn Ffurflen 3 yn yr Atodlen i Reoliadau Tenantiaethau Sicr a Meddianaethau Amaethyddol (Ffurflenni) 1997, a ddefnyddir wrth gyflwyno hysbysiad o dan adran 8 o Ddeddf 1988, gael eu darllen fel pe baent yn gyfeiriadau at 6 mis.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.