NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 (y “prif Reoliadau”).

Mae’r diwygiadau yn cynnwys darpariaeth—

(a)

sy’n galluogi ffeiriau pleser, meysydd chwarae awyr agored a champfeydd awyr agored i agor, ond rhaid i’r rheini sy’n gyfrifol am y mangreoedd hyn gymryd pob mesur rhesymol o dan reoliad 12 o’r prif Reoliadau i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y fangre;

(b)

sy’n egluro bod gan bersonau sy’n mynd i fan addoli esgus rhesymol dros ymgynnull (unwaith eto yn unol â gofynion rheoliad 12).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.