Rheoliadau Llacio’r Gofynion Adrodd mewn Ysgolion (Cymru) (Coronafeirws) 2020
Enwi a dod i rym1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llacio’r Gofynion Adrodd mewn Ysgolion (Cymru) (Coronafeirws) 2020.
(2)
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 7 Awst 2020.
Diwygio Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 20112.
(1)
(2)
“Datgymhwyso gofynion penodol ar gyfer y flwyddyn ysgol 2019-20201A.
Ni chaniateir i’r wybodaeth a bennir ym mharagraffau 6, 7 ac 8(b) o Atodlen 2 ac sy’n ymwneud â’r flwyddyn ysgol 2019-20207 gael ei chynnwys mewn unrhyw adroddiad llywodraethwyr.”
(3)
Mae paragraff 10 o Atodlen 2 wedi ei ddirymu.
Diwygio Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 20113.
“Addasu dyletswyddau ar gyfer y flwyddyn ysgol 2019-20201A.
Mae unrhyw ddyletswydd a osodir ar bennaeth gan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â’r flwyddyn ysgol 2019-20209, ac eithrio’r ddyletswydd yn rheoliad 5(1), i’w thrin fel pe bai wedi ei chyflawni os yw’r pennaeth wedi gwneud ymdrechion rhesymol i gyflawni’r ddyletswydd.”
Diwygio Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 20114.
“Datgymhwyso dyletswyddau penodol ar gyfer y flwyddyn ysgol 2019-20201A.
Ni chaniateir i’r wybodaeth a bennir ym mharagraff 30 o Atodlen 3 ac sy’n ymwneud â’r flwyddyn ysgol 2019-202011 gael ei chynnwys mewn unrhyw brosbectws ysgol.”
Dirymu Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) 20115.
Mae’r canlynol wedi eu dirymu—
(a)
(b)
(c)
(d)
Diwygio Rheoliadau Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion (Cymru) 20116.
(1)
(2)
“Datgymhwyso dyletswyddau penodol ar gyfer y flwyddyn ysgol 2019-20201A.
Ni chaiff yr wybodaeth a ddarperir yn unol â rheoliadau 5, 6 ac 8 gynnwys unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â’r flwyddyn ysgol 2019-202017.”
(3)
Yn rheoliadau 4, 5 a 6, ar ôl “bob blwyddyn” mewnosoder “ysgol”.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio nifer o reoliadau er mwyn llacio nifer o ofynion ar ysgolion o ganlyniad i bandemig y coronafeirws.
Mae Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011 (“y Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol”) yn nodi’r wybodaeth y mae rhaid i gorff llywodraethu ysgol ei chyhoeddi mewn adroddiad blynyddol. Felly, mae rheoliad 2(2) o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod rheoliad newydd yn y Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol ac effaith hynny yw nad yw’n ofynnol cyhoeddi’r wybodaeth a ganlyn ar gyfer y flwyddyn ysgol 2019-2020 mewn unrhyw adroddiad blynyddol llywodraethwyr—
paragraff 6 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol (y crynodeb o berfformiad yr ysgol uwchradd),
paragraff 7 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol (nifer absenoldebau awdurdodedig disgyblion a nifer absenoldebau anawdurdodedig disgyblion), ac
paragraff 8(b) o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol (gwybodaeth bellach sy’n ymwneud ag absenoldebau awdurdodedig ac anawdurdodedig disgyblion).
Mae Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011 (“y Rheoliadau Adrodd”) yn gwneud darpariaeth o ran yr adroddiad y mae’n ofynnol i bennaeth ysgol a gynhelir ei anfon at rieni a disgyblion sy’n oedolion bob blwyddyn ysgol a’r wybodaeth ychwanegol y caiff rhiant ofyn i’r pennaeth amdani. Nid yw pob plentyn yn mynychu’r ysgol ac mae llawer o ddisgyblion ac athrawon yn gweithio ac yn astudio o bell. Mae hyn yn peri heriau i athrawon mewn cysylltiad â darparu’r adroddiad i rieni a disgyblion sy’n oedolion. Felly, mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod darpariaeth newydd yn y Rheoliadau Adrodd ac effaith hynny yw diwygio’r rhwymedigaethau ar y penaethiaid fel eu bod yn rhwymedig i wneud ymdrechion rhesymol i gydymffurfio â’r rhwymedigaethau hynny.
Mae Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 2011 (“y Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion”) yn rhagnodi’r wybodaeth ysgol y mae rhaid i awdurdodau lleol ac ysgolion ei chyhoeddi mewn prosbectws ysgol. Nid yw pob plentyn yn mynychu’r ysgol ac mae llawer o ddisgyblion ac athrawon yn gweithio ac yn astudio o bell. Mae’n debygol y bydd hynny yn cael effaith negyddol ar ansawdd rhywfaint o’r data a reoleiddir gan y Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion. Ystyrir yr effeithir yn benodol ar y data ynghylch absenoldebau disgyblion ac felly ni ddylid eu cyhoeddi mewn prosbectws ysgol. Felly, mae rheoliad 4 o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod darpariaeth yn y Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion ac effaith hynny yw datgymhwyso’r rhwymedigaeth ar gorff llywodraethu ysgol i gynnwys mewn unrhyw brosbectws ysgol y data a nodir ym mharagraff 30 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau hynny (data sy’n ymwneud ag absenoldebau disgyblion) mewn cysylltiad â’r flwyddyn ysgol 2019-2020.
Mae Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) 2011 (“y Rheoliadau Targedau Ysgol”) yn nodi’r targedau perfformiad ysgol y mae rhaid i gorff llywodraethu ysgol eu gosod. Gosodir y targedau am gyfnod o 3 blynedd ac mae’r targedau diwygiedig yn darparu’r sail ar gyfer targedau am y flwyddyn ganlynol. Bydd y ffaith nad yw llawer o ddisgyblion a phlant yn mynychu ysgolion a’u bod yn hytrach yn gweithio o bell yn effeithio’n andwyol y data a fydd yn sail i’r targedau hynny. Mae hyn yn peri problem benodol o ran gosod targedau am flwyddyn ysgol a sut y bydd hynny yn gweithio o ystyried y cylch 3 blynedd o dargedau ac adolygu’r targedau hynny. Felly, mae rheoliad 5 o’r Rheoliadau hyn yn dirymu’r Rheoliadau Targedau Ysgol. Disgwylir y caiff set newydd o’r Rheoliadau hyn ei gwneud ar ôl i’r trefniadau cwricwlwm ac asesu newydd gael eu cyflwyno o 2022 ymlaen.
Mae Rheoliadau Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion (Cymru) 2011 (“y Rheoliadau Perfformiad Ysgolion”) yn rheoleiddio trosglwyddo gwybodaeth sy’n ymwneud â pherfformiad addysgol disgyblion o benaethiaid i gyrff llywodraethu ysgolion, awdurdodau lleol a Gweinidogion Cymru. Fel y’i nodir uchod, nid yw pob plentyn yn mynychu’r ysgol ac mae llawer o ddisgyblion ac athrawon yn gweithio ac yn astudio o bell. Mae’n debygol y bydd hynny yn cael effaith negyddol ar ansawdd rhywfaint o’r data a reoleiddir gan y Rheoliadau Perfformiad Ysgolion. Ni fydd llawer o ysgolion wedi cwblhau asesiadau’r cyfnod sylfaen a’r cyfnodau allweddol ac ni fydd Gweinidogion Cymru, drwy awdurdodau lleol, yn casglu’r data hyn am y flwyddyn ysgol 2019-2020. Felly, mae rheoliad 6(2) o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod darpariaeth yn y Rheoliadau Perfformiad Ysgolion ac effaith hynny yw datgymhwyso’r rhwymedigaethau ar ysgol i gyflenwi’r wybodaeth ragnodedig sy’n ymwneud â’r flwyddyn ysgol 2019-2020 i awdurdodau lleol, ac ar awdurdodau lleol i gyflenwi’r wybodaeth honno i Weinidogion Cymru.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.