Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”).
Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofyniad i bersonau ynysu am gyfnod o 14 o ddiwrnodau. Mae’r gofynion yn ddarostyngedig i eithriadau, ac mae categorïau penodol o bersonau wedi eu hesemptio rhag gorfod cydymffurfio.
Diwygiwyd y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (“y rheoliadau diwygio”). Yn rhinwedd y diwygiadau hynny, nid yw’n ofynnol i bersonau sy’n dod i Gymru ynysu ar ôl bod mewn un neu ragor o’r gwledydd a restrir yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (fel y’i mewnosodwyd gan y rheoliadau diwygio). Cyfeirir at y gwledydd a’r tiriogaethau a restrir yn Atodlen 3 fel “gwledydd a thiriogaethau esempt”.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol i hepgor Serbia o’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt yn Atodlen 3.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.